Tywydd - beirdd mewn eira a rhew

Llwyth o galch yn llethu'r coed - yn Aberbig

21 Ionawr 2010

Mae gan feirdd Cymraeg dros y blynyddoedd linellau trawiadol i gyfleu gerwinder tywydd oer y gaeaf.

Ar Raglen Dei Tomos, nos Sul, Ionawr 17, bu'r Dr Bleddyn Owen Huws, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, yn trafod ymateb beirdd a llenorion i eira a rhew yn benodol.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Cychwynnodd gyda chyfres o englynion i'r gaeaf gofnodwyd ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg yn Llyfr Coch Hergest - er mae'n debyg i'r englynion gael eu cyfansoddi dipyn cyn hynny.

Dywedodd bod mesur yr englyn yn un hynod o effeithiol i greu argraff neu greu darluniau yn y dychymyg.

Cyfleu profiad

"Nid sylwebu ar y tywydd oedd y beirdd a'r llenorion ond cyfleu y profiad o aeaf caled," meddai gan ddyfynnu'r englyn hwn sy'n cyfleu'r caledi yn drawiadol iawn:

Llym awel, llwm bryn
Anodd caffael clyd
Llygrid rhyd rhewid llyn
Rhy saif gwr ar un conyn

Dywedodd fod y beirdd yn yr oesoedd canol yn gyfarwydd iawn â rhew caled a thywydd gerwinol o oer gyda Dafydd ap Gwilym yn disgrifio Tachwedd fel mis dig du.

"Er mai bardd yr haf oedd o - dyna ei hoff dymor - doedd hynny ddim yn ei rwystro rhag caru yn y gaeaf chwaith ac mae ganddo fo gywyddau lle mae o fel pe bai yn . . . parodïo y serenâd, cerdd gyfandirol lle'r oedd y tywydd yn braf ac yn gynnes. Ond mae o'n troi hwnna ar ei ben . . . yn sefyll dan law ac eira a'r rhew wedi rhewi'r pibonwy dan y bondo ac yn dweud bod Morfudd yn glyd ac yn gynnes yn y tŷ [a] fanna mae ei enaid o hefyd ond bod ei gorff o'n rhynnu y tu allan yn yr oerfel," meddai.

Dagerau iâ

Dyfynnwyd Dafydd yn disgrifio'r pibonwy fel "cribin gyda ewinedd o rew " a "dannedd og rhywiog o rew" a "dagrau oer dagerau iâ."

Ac mae o'n cloi'r cywydd caru yn y gaeaf fel hyn:

Am hyn mae mofyn Mai
a meiriol hin ni'm oerai
Dyn wy yng ngharchar dan aeaf.

Dywedodd Bleddyn Owen Huws bod rhwystrau tywydd yn thema amlwg iawn gan nifer o'r beirdd gyda Llywelyn Goch yn disgrifio cael ei gaethiwo gydol Ionawr un flwyddyn.

Y gamp, meddai, oedd disgrifio trwy drosiadau a chyfeiriodd at y trosiad, "llwyth o'r calch yn llethu'r coed" gan fardd anhysbys.

Yn ystod rhew ac eira mawr 1617 cyfansoddodd Tomos Ifans Hendra Forddu englyn yn cwyno:

Cafodd diawl oer hawl ar yr hin yma

"Aml ydyw y drycin
Ydwyt gythrel disgethrin
Gwnaed Duw iddo dopio'i din," meddai wedyn.

Eu cau gan eira

Dywedodd Bleddyn Owen Huws mai cerdd gyfoes, wedi ei chyfansoddi gan Alan Llwyd, Eira, hwyr y dydd yw un o'i ffefrynnau ef.

Mewn llenyddiaeth fodern cyfeiriodd hefyd at nofel Islwyn Ffowc Elis, Eira Mawr a gyhoeddwyd yn 1971 ond yn cyfeirio at eira mawr 1947.

Ynddi, mae dyn busnes Cymraeg o Lundain a'i wraig yn cael eu dal mewn storm o eira ar y Berwyn a'u hynysu ar fferm.

Daeth y sgwrs i ben gyda stori gelwydd golau gan ŵr o Ddyffryn Nantlle a gofnodwyd gan y diweddar Gwilym R Jones.

  • Gellir clywed y sgwrs i gyd trwy glicio ar y blwch llwyd uchod.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.