Twm o'r Nant - ffustiwr gyda gair a dwrn!

Theatr Twm o'r Nant yn Ninbych

12 Ebrill 2010

Thomas Edwards - Twm o'r Nant - 1739-1810

Roedd yn ddau gan mlynedd ers marw un o gymeriadau enwocaf llenyddiaeth Gymraeg, Thomas Edwards -Twm o'r Nant, Ebrill 3, 2010.

Er yn cael ei gofio'n bennaf fel anterliwtiwr yr oedd Twm hefyd yn fardd o fri ac ym mro ei febyd mae ysgol a theatr wedi eu henwi ar ei ôl yn Ninbych.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Er mai ym Mhenporchell Isaf, Llanefydd, y cafodd ei eni wrth enw ei gartref, y Nant yn Y Groes ger Dinbych y mae'n cael ei adnabod.

Maes o law symudodd i'r dref ei hun gyda'i briod gan fyw mewn tŷ heb fod ymhell o'r fan lle saif y Capel Mawr enwog heddiw.

Wrth sgrifennu amdano yn y papur bro lleol, Y Bigwrn mis Ebrill 2010 dywedodd John Idris Owen:

"Cafodd fagwraeth galed, ei dad yn llym ac am iddo ymlafnio ar y fferm, tra roedd ei fam, a welai gryn addewid ynddo, am iddo gael addysg. Y hi enillodd, ond buddugoliaeth wag ydoedd gan mai tair wythnos yn Ysgol Rad Nantglyn ac wythnos i ddysgu Saesneg fu cyfanswm ei addysg ffurfiol."

Ei beint cyntaf

Nid y cychwyn mwyaf addawol i un o hoelion wyth llenyddiaeth Gymraeg ond meddai John Idris Owen:

"Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu ac fe ysgrifennodd lyfr o gerddi ac anterliwt pan oedd yn ifanc iawn. Yn ddeg oed ymunodd â chriw o fechgyn i ganlyn anterliwt a chwarae rhan merch 'gan fod gen i lais canu pur dda'. Tua'r un adeg cafodd ei beint cyntaf yn Nhafarn y Fach a thalu tair ceiniog am gwrw."

Pethau yn digwydd iddo

Wrth bwyso a mesur ei gyfraniad ar Raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru disgrifiodd y Dr Cynfael Lake, uwch ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, Twm fel cymeriad yr oedd pethau yn digwydd iddo ac i hynny'n rhannol fod yn fodd i gadw ei enw ar gof cenedl.

"Yr oedd Twm yn un o'r bobl yna mae popeth yn digwydd iddyn nhw," meddai wrth Dei Tomos.

"Mae'n sôn yn ei hunangofiant . . . am ei hanes yn dair oed yn dringo i ben to'r cartref a'r teulu yn cael braw mawr ei weld e yno!

"Ac yna, yn nes ymlaen, yn cyrraedd oedran gŵr, yn ffoi i'r de rhag y beilïaid . . . wedi mynd yn warantwr ar ran ewythr a phethau wedi mynd braidd yn flêr ac wedyn y beilïaid yn dod ar ôl Twm ac yntau heb foddion i dalu," meddai.

Ychwanegodd Cynfael Lake fod Twm hefyd yn berson a fyddai'n denu cynulleidfa gan ei ddarlunio yn y dafarn a chwart yn ei law a phawb yn gwrando arno - yn berson 'larger than life' meddai.

'Mansel Davies ei ddydd!'

Er yn cael ei gofio heddiw fel bardd ac anterliwtiwr cariwr coed oedd o wrth ei waith bob dydd - "Mansel Davies ei oes" chwedl Cynfael Lake.

Ac fel rhan o'r gwaith hwnnw dyfeisiodd y system bwli gyntaf o'i bath yng ngwledydd Prydain ar gyfer codi coedydd trymion i ben troliau.

Bu'n cadw tyrpeg yng Nghanolbarth Cymru, yn saer maen ar gob Porthmadog, lle daeth i adnabod Maddox, ac yn gerfiwr cerrig beddi ac yn ôl John Idris Owen mae traddodiad iddo yn 61 oed ddechrau torri ei garreg fedd ei hun.

Yn ymladdwr

"Mae'n debyg ei fod yn ddyn eithriadol o gryf a bu'n cyflawni pob math o orchestion ar sail ei nerth," meddai John Idris Owen

"Fel dyn ifanc roedd hefyd yn dipyn o ymladdwr ac yn dilyn un ornest gyda chymydog, lle defnyddiwyd pyst o'r gwrych i ffustio, fe ddihangodd Twm i ardal Pentrefoelas gan feddwl yn siŵr ei fod wedi lladd y llanc. Yn ffodus ni ddigwyddodd hynny ac ymhen hir a hwyr fe ddychwelodd Twm i'w gynefin," meddai.

Helynt Gwallter Mechain

Yn amlwg yr oedd, rhwng popeth, yn ddyn a oedd byth a beunydd ym mhen ei helynt a chyfeiria John Idris Owen a Cynfael Lake at helynt mewn eisteddfod yng Nghorwen yn 1789 lle daeth gydradd â Gwallter Mechain am farddoni ond y Gwyneddigion yn Llundain, y galwyd arnynt i ddyfarnu rhwng y ddau, yn pennu Gwallter yn gyntaf heb yn wybod i hwnnw fod wedi cael gwybod y testunau byrfyfyr ymlaen llaw!

Un o gefnogwyr Twm ar yr achlysur hwn oedd Dafydd Ddu Feddyg - y Dr David Samuel a hwyliodd gyda Capten Cook - ac mewn cydymdeimlad anrhegodd ef Twm ag ysgrifbin arian..

Sgrifennu pan yn fain arno

Meddai Cynfael Lake: "Roedd yn ffigwr amlwg iawn yn y cyfarfodydd byrfyfyr. Yn enwocaf fel anterliwtiwr wedi dechrau yn 13 oed yn sgriptio, cyfarwyddo ac ar y llwyfan ac efallai yn unigryw yn y ffaith ei fod yn actio hefyd.."

Ychwanegodd mai pan fyddai'n fain arno y byddai'n llunio ei anterliwtiau ac er mai'r arferiad ar y pryd oedd cael rhyw saith o gymeriadau byddai ef yn sicrhau na byddai ond angen rhyw ddau actor arall ac yntau ei hun â'r brif ran fel nad oedd rhaid rhannu'r elw rhwng saith!

.Disgrifiodd yr anterliwtiau fel adloniant yn adlewyrchu byw bob dydd i'r bobl gyffredin ac yn cael eu perfformio o gefn trol.

"Fel arfer byddai stori am y cybydd a'r ffŵl a'r ffŵl weithiau yn twyllo'r cybydd ac weithiau'r cybydd yn cael ei dwyllo gan ei wraig neu gan ei blant neu y forwyn yn y dafarn.

"Dyna un wedd ond fel arfer fe fyddai yna ail stori hefyd allai fod yn stori o'r Beibl, allai fod yn ddigwyddiad cyfoes, allai fod yn stori boblogaidd. Hanes Dick Whittington a'i gath er enghraifft ac fe fyddai'r ddwy stori yn cael eu hasio wrth ei gilydd.

"Ond yr hyn a wnaeth Twm fel mae'r enw Tri Chryfion Byd yn ei awgrymu oedd dod a rhyw elfen alegorïol i'r anterliwtiau.

"Y tri chryfion byd, yn anterliwt enwocaf Twm, oedd Tlodi ac Angau a Chariad.

"Felly mae gennym ni stori deuluol am gybydd yn cael ei dwyllo ac ar rhyw lefel uwch, fel petai, mae gennym ni y grymoedd mawr yma sydd fel petaent yn rheoli bywydau pobl ac o safbwynt hynny roedd Twm yn llwyddo i greu cyfanwaith," meddai.

Ychwanegodd bod yr elfen storïol yn gryfach yn anterliwtiau rhai fel Huw Jones a'r rheini o'r herwydd yn rhoi o bosib fwy o fwynhad na rhai Twm i gynulleidfaoedd y ddeunawfed ganrif.

"Llai o straeon yn anterliwtiau Twm [gan ei fod] ef yn rhoi mwy o bwyslais ar y grymoedd alegorïol yma ac ar un ystyr y dramâu yn mynd yn fwy damcaniaethol athronyddol eu natur ond yn sicr fe fydden nhw wedi apelio at gynulleidfa," meddai.

Ar y pryd dywed i hen gyfaill Twm, y Dr David Samwell ddisgrifio Twm fel the Cambrian Shakespeare ond ychwanegodd mai un rheswm y caiff ei ystyried yn frenin yr anterliwtwyr heddiw yw oherwydd nad yw gweithiau anterliwtwyr eraill ar gael mor gyfleus.

Dywedodd fod Twm hefyd yn un o nifer o bobl nad oedd Dafydd Ddu Eryri yn cyd-dynnu â hwy.

Rhai o'i weithiau

  • Gardd o Gerddi - cyfrol o farddoniaeth.
  • Cyfoeth a Thlodi
  • Tri Chydymaith Dyn
  • Pedair Colofn Gwladwriaeth
  • Pleser a Gofid
  • Tri Chryfion Byd
  • Bannau y Byd
  • Cybydd-dod ac Oferedd

Ysgrifennodd ei hunangofiant hefyd ac mae nifer o'i lythyrau wedi eu diogelu.

Dwy farn

Wrth grynhoi ei gyfraniad dywed John Idris Owen:

"Mae dwy farn gyhoeddus amdano, y naill yn feirniadol, a'r llall yn ganmoliaethus. Yn ôl un cyfeiriad gan Glyn M Ashton a olygodd ei hunangofiant a'i lythyrau roedd yn 'botiwr a phuteiniwr'.

"Mae'n wir ei fod yn mynychu'r Royal Oak a'r Bull yn gyson, ac iddo ddechrau yfed yn ifanc iawn. Ni wn am ei buteindod nac am unrhyw dystiolaeth o hynny.

"Braidd yn gul a Phiwritanaidd yw agwedd Mr Ashton - plentyn ei oes oedd Twm a dylid ei feirniadu yn unol â safonau'r cyfnod," meddai.

Yn llawn maswedd

Yn ôl y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru yr oedd anterliwtiau cynnar Twm "yn llawn maswedd" ond ei waith diweddarach yn "adlewyrchu deallusrwydd miniog, dychymyg toreithiog a haenau o fyfyrdod dwys" gyda meistrolaeth rymus o'r Gymraeg.

Gesyd y Cydymaith ef yn "un o ffigurau pwysicaf" y ddrama yng Nghymru rhwng y canol oesoedd a'r ugeinfed ganrif.

Ond mae'r Cydymaith hefyd yn ystyried y disgrifiad Cambrian Shakespeare" yn ormodiaith - ond gan ychwanegu:

"Serch hynny mae'n haeddu cael ei gofio fel awdur a oedd yn ddigon eofn i ymosod ar anghyfiawnderau ei ddydd mewn iaith ddeniadol o gyhyrog."


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.