Advertisement

Lloyd Jones

Lloyd Jones

  • Enw:
    Lloyd Jones


  • Beth yw eich gwaith?
    Sgriblwr.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Gwas fferm, newyddiadurwr, gweithio efo'r methedig, darlithydd, gweithio mewn Chamber of Horrors.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Bryn Clochydd, Gwytherin ger Llanrwst, ar odre Mynydd Hiraethog.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Ger y môr yn Llanfairfechan. Mae'r môr yn bwysig i mi.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Dydw i ddim yn cofio'r addysg ond rwy'n cofio'r paffio.


  • Beth wnaeth i chi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
    Wedi sgwennu tri llyfr yn Saesneg, rhoddwyd digon o hyder i mi - gan Y Lolfa - i sgwennu llyfr yn y Gymraeg. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gwneud hynny. Llyfr ydyw am ofnau'r oes hon ynghylch y dyfodol, ac mae'n stori serch hefyd.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Mr Vogel, Mr Cassini, a My First Colouring Book.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    The Swiss Family Robinson, mae'n debyg.


  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?
    Na fyddaf!


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Dafydd ap Gwilym yw'r meistr.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Oes, nifer fawr, pob un wedi newid fy myd ychydig.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    Rwy'n hoffi barddoniaeth fodern, yn arbennig y to ifanc o ferched dawnus sydd wedi dod i'r fei.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Dim ffefryn.


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    Unrhyw un gan yr hen Ddafydd 'na eto.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Rwy'n tueddu i wylio rhaglenni yn ymwneud â hanes a chelf ar y bocs; rwy'n hoffi ffilmiau o bedwar ban y byd, heblaw am rwtsh Hollywood.


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Fedra i ddim neilltuo neb.


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Yng ngenau'r sach mae cynilo.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Rwy'n licio geiriau ormod o lawer i ddewis un.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Arlunio.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Dyn bach rhyfedd.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Ha!


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
    Fy nheulu.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi'n hoffi bod yn rhan ohono?
    Y diwrnod diwethaf o ryfel yn y byd.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
    Buaswn i'n licio stwnsian efo fy mherthnasau dros y canrifoedd.


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Unrhyw le yng Nghymru - rwyf wedi cerdded reit o amgylch Cymru ac ar draws y wlad wyth gwaith.


  • Beth yw eich hoff bryd bwyd?
    Bwyd 'di bwyd i mi. Mae o'n obsesiwn efo pobol.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Nap yn y pnawn.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Glas (hen liw arferwyd ei weld yn yr awyr).


  • Pa liw yw eich byd?
    Eh?


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Na, gewch chi basio'r deddfau.


  • A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
    Nagoes. (Diolch i Dduw medd pawb).


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Daeth yr amser i dawelu...

Mehefin 2009


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Golygfa o Where the Wild Things Are

Adolygiadau

Bachgen bach trist yn dianc i blith creaduriaid gwyllt!

Theatr

Ffion Dafis

Adolygiadau a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Radio Cymru

alt tag

Stiwdio ac ati

Stiwdio - y rhaglen sy'n trafod celf a llenyddiaeth

Cyfrannu

Anfonwch eich sylwadau, lluniau a gwybodaeth i 'Cylchgrawn'

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.