Advertisement

B Siân Reeves yn ateb ein holiadur

B Sian Reeves

  • Enw:
    Bethan Siân Reeves


  • Beth yw eich gwaith?
    Cyfieithydd.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Cyfryngi cyn magu teulu, yna gwraig tŷ ac athrawes.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Caerdydd.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Aberhonddu.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Ar adegau.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
    Y syniad bod yna ysbrydoliaeth anweledig o ryw fath sy'n ysgogi gwir athrylith. Cawn ein gadael gyda'r gelfyddyd ond yn aml, dydyn ni ddim yn gwybod beth na phwy oedd yr ysbrydoliaeth a'i ysgogodd.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Wedi cyhoeddi stori fer yn Yn Nes At Baradwys (Gwasg Carreg Gwalch) - roedd hon yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Stori Fer Radio Cymru.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Teulu'r Cwpwrdd Cornel.


  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?
    Na dim ers i fy mhlant gyrraedd eu harddegu - ro'n i'n darllen hanes Tedi a Bwni Fach iddyn nhw pan oedden nhw'n fach.


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Caryl Lewis, DJ Williams, Marion Eames, Charlotte Bronte, Tracey Chevalier.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Girl With a Pearl Earing - Tracey Chevalier.
    The Great Gatsby gan F Scott Fitzgerald.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    Dafydd ap Gwilym.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Mis Mai.


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    Dechreuad mwyn dyfiad Mai.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Ffilm - Dead Poets Society; Elizabeth.
    Teledu - House.


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Hoff gymeriad: Mr Rochester Jane Eyre, Charlotte Bronte)
    Cas gymeriad: Mrs Danvers (Rebeca Daphne du Maurier)


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffôl,
    Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ôl. (THPW)


  • Pa un yw eich hoff air?
    Lol.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Y gallu i siarad llu o ieithoedd yn rhugl.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Mynd ar wib.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Anghofus.


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
    Ar hyn o bryd Barak Obama, am iddo ddal sylw'r byd er gwaethaf pob rhwystr.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Gydag Owain Glyndŵr pan gipiodd e gastell Aberhonddu.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
    Dafydd ap Gwilym. Oes gen ti blant?


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    O fy nghartref gwledig presennol dros y Bannau at fy hen gartref dinesig i weld fy rhieni.


  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
    Cyri a reis.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Ysgrifennu; sgwrsio gyda ngŵr mewn cornel heulog o'r ardd gyda gwydraid o Chenin Blanc.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Leim grîn.


  • Pa liw yw eich byd?
    Amryliw.


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Bod Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cael ei rheoleiddio gan y Cynulliad ac nid y Cynghorau Sir. Efallai byddai plant Powys yn cael mwy o chwarae teg wedyn.


  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
    Mwy fel pelen o wlân nac ar y gweill ar hyn o bryd.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Mae fy mrawddegau agoriadol yn newid fel y tywydd. Taswn i'n ysgrifennu un i lawr nawr, mi faswn eisiau ei newid erbyn i hwn gael ei gyhoeddi.

Gorffennaf 2009


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Golygfa o Where the Wild Things Are

Adolygiadau

Bachgen bach trist yn dianc i blith creaduriaid gwyllt!

Theatr

Ffion Dafis

Adolygiadau a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Radio Cymru

alt tag

Stiwdio ac ati

Stiwdio - y rhaglen sy'n trafod celf a llenyddiaeth

Cyfrannu

Anfonwch eich sylwadau, lluniau a gwybodaeth i 'Cylchgrawn'

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.