Rhan o glawr y llyfr

01 Ebrill 2011

Pumed nofel Llwyd Owen a dilyniant i'w nofel gyntaf, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau.

  • Adolygiad Megan Jones o Un Ddinas Dau Fyd gan Llwyd Owen. Y Lolfa. 348 tud. £8.95.

Mae Un Ddinas Dau Fyd gan Llwyd Owen yn ymgais i greu gwir bortread o Gaerdydd, y gorau a'r gwaethaf o'r ddinas: y cyfryn-gwn a'r crachach, y cyffuriau a'r stadau cyngor.

Ond a yw'r nofel yn llwyddo i argyhoeddi ynteu a w'n ddim mwy na chyfres o ystrydebau?

Dau brif linyn storïol y nofel yw; hanes Emlyn, dyn canol oed, dosbarth canol sy'n gynhyrchydd teledu annibynnol, a'i fywyd personol a phroffesiynol yn chwalu ac, yn ail, gobeithion Rod, bachgen ifanc sy'n byw ymysg delwyr cyffuriau, gangiau a meddwon Trelái, y bydd yn dianc i fywyd gwell.

Nid yw'r disgrifiad o helyntion bywyd Emlyn yn torri tir newydd. Mewn gwirionedd nid yw'r rhan hon o Un Ddinas Dau Fyd fawr mwy na hanes mid-life crisis ac yn debyg iawn i'r hyn a geir mewn sawl nofel arall: anfodlonrwydd yn y gwaith, perthynas y tu allan i briodas a beichiogrwydd.

Yn stori Rod yn ymdrechu i adael Trelái mae ymgais i herio'r darllenydd drwy ddisgrifio'r trais a'r troseddu sy'n rhan o fyw bob dydd trigolion yr ardal.

Ond nid yw hyn yn taro deuddeg bob tro a'r ymdriniaeth o'r trais, cyffuriau a'r gangiau yn ymddangos ar adegau bron iawn fel parodi.

Mae'r disgrifiadau o ddillad aelodau'r gangiau, "gyda'i gap pêl-fas yn pwyntio am yn ôl, ei siaced puffa sgleiniog a'i ddaps llachar", ynghyd â'u hiaith - "I just got a text from DJ Funky Fingaz in Caerau, yeah", yn ei gwneud hi'n anodd credu eu bod nhw'n gymeriadau o gig a gwaed.

Ar ben hynny mae'r gymhariaeth anffodus rhwng ardal o Gaerdydd ac ardal o Efrog Newydd - "roedd Riverside yn debycach i'r Bronx y dyddiau hyn" - yn gwneud i rywun amau a yw'r awdur wedi gwneud camgymeriad ynglŷn â lleoliad y nofel.

Mae'n ymddangos fel petai'r nofel yn ceisio portreadu un o'r ardaloedd hynny megis y Bronx neu Brixton sydd ag enw drwg am drais, ble mae gangiau yn rheoli'r strydoedd, a llofruddiaethau'n digwydd yn ddyddiol, yn hytrach na Chaerdydd.

Wedi'r cwbl, mae problemau trais a chyffuriau yn gyffredin ym mhob man erbyn hyn ac i'w canfod ym mhob tref a hyd yn oed ym mhentrefi cefn gwlad.

Nid yw trafferthion o'r fath yn unigryw i Gaerdydd, ond mae'n teimlo fel petai'r awdur yn ceisio creu delwedd o Gaerdydd fel dinas dywyll, beryglus, sydd ddim o reidrwydd yn cyd-fynd â gwir fywyd yn y ddinas fel ag y mae.

Er hyn, mae'r ymdrech i bortreadu bywydau pobl gyffredin ar stadau tai annymunol yn chwa o awyr iach o'i gymharu â'r obsesiwn mewn llenyddiaeth Gymraeg ynglŷn â bywydau'r dosbarth canol cyfforddus Cymraeg.

Er bod llwyddiant Rod i fyw'r bywyd perffaith erbyn diwedd y nofel braidd yn rhy dwt, mae hi'n braf gweld portread o fachgen o stad cyngor gyda gobeithion, breuddwydion ac uchelgais, yn hytrach na phortread diog o'r ystrydeb boblogaidd o fywyd o fudd-daliadau, diogi ac yfed drwy'r dydd.

A dyma ble y mae Un Ddinas Dau Fyd ar ei chryfaf; yn portreadu cymeriadau cyffredin Trelái - tad Rod, sy'n yfed yr holl ffordd i ebargofiant; Steve, tad Bryn sy'n ysmygu canabis efo'r hogiau wrth bysgota yn yr ardd gefn a Karim, y Swyddog Diogelwch, sy'n meddwl mwy am ei fol na'r offer drud yn swyddfa ei fos.

Mae'r rhain yn dod â bywyd i'r nofel a phob gair o'u genau yn neidio oddi ar y dalennau.

Efallai nad yw'r ddelwedd o Gaerdydd yn Un Ddinas Dau Fyd yn cyd-fynd yn llwyr â'r gwirionedd ond mae hi'n braf gweld nofel sy'n ceisio mynd i'r afael â phroblemau bywydau pobl gyffredin.

Ac yn fwy na hynny mae'n beth da gweld awdur sydd ddim ofn cicio'n yn y tresi a rhoi ysgytwad go hegar i'r darllenydd.


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Radio Cymru

alt tag

Stiwdio ac ati

Stiwdio - y rhaglen sy'n trafod celf a llenyddiaeth

Urdd 2011

Eisteddfod Abertawe 2011

Croeso i Abertawe

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol nesaf yr Urdd

Cyfrannu

Anfonwch eich sylwadau, lluniau a gwybodaeth i 'Cylchgrawn'

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.