Gareth Miles - Teleduwiol

02 Medi 2010

  • Adolygiad Lowri Roberts o Teleduwiol gan Gareth Miles. Gwasg Carreg gwalch. £7.50.

Alla i eich sicrhau chi nad y'ch chi erioed wedi darllen nofel fel hon o'r blaen!

Fe'i disgrifir yn y broliant fel "nofel grafog am deulu o gyfryng-gwn Cymraeg sy'n elwa drwy gynhyrchu rhaglenni crefyddol".

Yn sicr, mae hi'n nofel dafod yn y boch sy'n gyforiog o ystrydebau a delweddau dychanol am y Gymru gyfoes - ond tybed a oes, yng nghanol y gwatwar, elfen o wirionedd ac onestrwydd?

Mae Teleduwiol yn dilyn hynt a helynt y Morganiaid - teulu dosbarth canol Cymraeg sy'n berchen ar gwmni teledu ac yn cynhyrchu rhaglenni crefyddol.

Clawr y llyfr

Y pen bandit yw'r nain Gymraeg, gapelgar, geidwadol - Myfanwy Morgan. Gwraig 75 oed y dywedir amdani y "meddai lygaid bywiog a thafod bywiocach fyth".

Ei mab - Madog Morgan - yw Cadeirydd Telesidonia.

Ac yntau wedi cael tröedigaeth ysbrydol yn dilyn cyfnod tywyll yn ei fywyd, mae ei gyfeillgarwch â mynach o'r enw y brawd Tudur ap Trefor yn esgor ar gyfnod helbulus a thywyll yn hanes y teulu a'r cwmni.

Os am wrthdaro mewn nofel neu ddrama, rhaid wrth ddihiryn da a dyna'n sicr a geir ym mherson y brawd Tudur ap Trefor.

Fe'i portreadir fel unigolyn cwbl ddilychwin. Yn berson duwiol sydd wedi cysegru ei fywyd i ofalu am eraill.

Dyna, o leiaf, yr argraff gychwynnol. Byddai'r sinig yn ein plith yn barnu nad oes person felly yn bod ac nad yw'n fawr o sioc pan amlygir elfen fwy sinistr o'i bersonoliaeth. A hynny wedi iddo gael ei ddyrchafu'n 'Ymgynghorydd Ysbrydol' Telesidonia.

Ail wraig

Yn ganolog i'r stori hefyd y mae Eirlys, gwraig Madog. Neu ei ail wraig a bod yn fanwl gywir. Fe'i portreadir fel gwraig ddeallus ac ystyriol sy'n benderfynol o achub ei gŵr rhag distryw. Er, mae na adegau lle mae hi ei hun yn amau ei bwriadau;

"Rwy'n meddwl bod well'da fi ti pan oet ti'n alci," meddai wrtho yn dilyn un ffrae.

Mae'r nofel yn cynnig darlun doniol a dychanol o'n cymdeithas a'r byd sydd ohoni. Trafodir themâu mor amrywiol â chenedlaetholdeb, hawliau pobl hoyw, terfysgaeth ac alcoholiaeth ac fe'u cyflwynir inni mewn amryw arddulliau.

A Gareth Miles yn sgriptiwr teledu heb ei ail yn ogystal ag yn nofelydd llwyddiannus mae ei gefndir ym myd y ddrama yn amlwg yn nifer o'r golygfeydd wrth i'r cymeriadau a'r stori gael eu cyfleu ar ffurf sgript.

Ceir yma lythyru hefyd - rhwng Eirlys a'i agony aunt ledrithiol, Arianrhod.

Soniais eisoes bod y nofel yn gyforiog o hiwmor a dychan a phwy all beidio â chwerthin at gyfaddefiad Eirlys yn un o'i llythyron; "pa gyngor alli di'i roi i fenyw mae'i gŵr wedi cwympo mewn cariad â Duw?"

Mae'r coegni yn dew drwyddi. Ystyriwch sylwadau Dafydd, y mab wrth iddo ystyried dyfodol heb Telesidonia;

"Fasan ni ddim ar y clwt yn hir iawn... Does ddim raid i neb fod yn ddi-waith am hir os ydi o'n siarad Cymraeg yn o lew ac yn ddosbarth canol."

Gwireb? Does bosib!!

Teledu Cymraeg

A beth am y syniadau a wyntyllir gan Myfanwy Morgan ynglŷn â statws darlledu yng Nghymru? Yn ystod un olygfa mae'n lladd ar y diwydiant;

"Does ryfadd yn y byd bod teledu Cymru mor drybeilig o sâl. Dim byd ond rygbi, cartŵns, tai a dillad y crachach, a dramâu am bobol yn rhwygo ac yn rhegi, cwffio, meddwi a godinebu."

Os oes gwendid; rhaid cyfaddef i'r diweddglo fy siomi i raddau yn ymdebygu fel ag y mae i olygfa o'r gyfres Americanaidd 24 neu ei thebyg. Ond, wedi dweud hynny, mae'n ddiweddglo sy'n awgrymu bod rhagor i'w ddweud a bod dilyniant ar y ffordd.

Ac mi fydde hynny yn rhywbeth y baswn i'n ei groesawu'n fawr iawn.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Radio Cymru

alt tag

Stiwdio ac ati

Stiwdio - y rhaglen sy'n trafod celf a llenyddiaeth

Urdd 2011

Eisteddfod Abertawe 2011

Croeso i Abertawe

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol nesaf yr Urdd

Cyfrannu

Anfonwch eich sylwadau, lluniau a gwybodaeth i 'Cylchgrawn'

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.