Adolygiad Meg Elis o 20 Stori Fer. Dwy gyfrol. Dewiswyd gan Emyr Llewelyn. Lolfa. £6.95 yr un
Mentrus, call a phragmataidd
Sut dwi'n dechrau?
Adolygu?
Iawn, dwi wedi arfer adolygu fy nghyfoedion, ac yn weddol hyderus, dwi'n gwybod eu cyfrinachau ac efallai hyd yn oed yn eu hadnabod.
Pobl iau? O, dim problem, dwi'n medru bod fel athrawes - ond, na, sori, athrawon ydi'r rhai gwaetha yn y byd i ddysgu Ysgrifennu Creadigol. Ond Guy de Maupassant? Kate Roberts? O, cym on.......
Ond mae'r Lolfa wedi bod yn fentrus, eto, ac wedi penderfynu cyhoeddi dwy gyfrol o storiâu byrion.
Maent wedi bod yn gall a phragmataidd ar yr un pryd â bod yn anturus - sut arall ydach chi'n meddwl maen nhw wedi goroesi? Ar egwyddorion yn unig? Ia, reit.....
Mentrus ydi Mihangel Morgan a Caryl Lewis a Fflur Dafydd. Pragmataidd ydi Strindberg ac O. Henry (Nid O'Henry, gyda llaw).
Felly dyma gasgliadau perffaith o storiâu, i fodloni pawb o'r gynulleidfa Gymreig. A, ie, wrth gwrs, Kate Roberts. Go dda.
Dwi'n cofio siarad efo rhywun o genhedlaeth ymhell, bellach yn ôl na mi, a chrybwyll Brenhines Ein Llên. Doedd hi ddim yn gweld ei bod yn sgwennu storiâu cystal, â hynny - 'does dim byd yn digwydd'.
Bingo! Dyma'r peth efo'r storiâu hyn. Dwi'n darllen y rhai gorau, ac, a bod yn deg, rhai gorau Kate Roberts y maen nhw wedi eu cynnwys - Te yn y Grug a Buddugoliaeth Alaw Jim. Y Cwilt? Be sy'n digwydd? Sori, Frenhines Ein Llên, ond dyma ein maen prawf. Nid hon yw un o'r rhai gorau.
Yr annisgwyl
Darllenais drwy'r cwbl lot ac mae'n syndod i mi mai'r rhai sy'n sefyll allan ydi'r rhai annisgwyl. Sy'n iawn. Dylai stori fer fod yn annisgwyl.
Y fwyaf annisgwyl (neu dda fel stori) yw Y Mochyn Hir Dyfed Glyn Jones, yn y gyfrol gyntaf.
Anghofiedig, ysywaeth, a mantais i mi sy'n cofio Eirug Wyn aballu fel cyfoedion, yw cofio sgwennwr mor anhygoel o ddoniol oedd Dyfed Glyn Jones.
Mae ei stori yma yn tueddu at y macabre, ond pa ots , mae'n well na llawer stori a fwriadwyd i siocio.
Rwy'n cofio, gyda llaw, gyfrol o storiâu byrion gafodd eu cyhoeddi gan y Lolfa ac yr oedd y bwriad mor amlwg i siocio a'r storiâu mor uffernol o wael fel i mi weld y gyfrol yn y bin weddill y Steddfod nesa un...
Dwi ddim yn synnu nad oes un o'r awduron "beiddgar" hynny yn ymddangos yn y naill na'r llall o'r cyfrolau hyn. Ydi, mae'r Lolfa yn gallu bod yn bragmatig...
Datgelu mwy am fywyd
Mae darllen stori Eigra Lewis Roberts yn dangos nadoes raid bod yn hen-ffasiwn i ddweud stori dda.
Mae darllen Manon Rhys yn datgelu mwy am fywyd heddiw na chant a mil o adroddiadau Gwasanaethau Cymdeithasol. Y gwahaniaeth yw bod Manon Rhys yn gallu sgwennu, a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu gwneud dim on ticio bocsys a sgwennu efo cyllell a fforc.
Chwiliais am y storïau gwreiddiol, a chael blas ar Caryl Lewis - ond, maen' ddrwg gen i, rhaid i mi ddweud hyn - yr hen rai sy'n plesio.
Chekov, hyd yn oed. A de Maupassant, a Kate Roberts.
Ond plîs newch chi beidio â chymryd hyn fel arwydd i beidio ag ysgrifennu straeon byrion.
Mwy o grefft
Dyma fi'n ei dweud hi rŵan - mae'n cymryd mwy o grefft i sgwennu un stori fer nac i sgwennu un episod o sebon efo'r sgerbwd wedi ei osod i chi mlaen llaw gan ryw sgetsiwr o Sais sy'n dallt dim am Gymru.
Neu hyd yn oed i sgwennu cyfres i S4C. (ddaru chi ofyn i Siwan Jones, gyda llaw, sydd tua'r unig un sy'n medru sgwennu stori go-iawn ?)
Mae'n anodd.
Mae'n grefft.
Mae'n cael ei hanwybyddu, am mai nofelau y mae ar bob eisiau eu darllen. .Ond ewch at y rhai gwirioneddol dda - Y Mochyn Hir, Wynston Draciwla Defis, Ffordd) ac mi welwch gampwaith. Wnaiff neb weiddi na rhoi gwobrau llenyddol i chi.. Ond mi gewch y boddhad. Ac mi ddylech gael darllenwyr. Tasa hynny'n cyfrif am unrhyw beth, y dyddiau hyn....

