Advertisement

Ifor ap Glyn - Lleisiau'r Rhyfel Mawr

Rhan o glawr y llyfr

10 Mawrth 2009

'Gododdin y Rhyfel Mawr'

  • Adolygiad Glyn Evans o Lleisiau'r Rhyfel Mawr gan Ifor ap Glyn. Gwasg Carreg Gwalch. £7.50.

Heb amheuaeth yr oedd Lleisiau'r Rhyfel Mawr yn gyfres a wnaeth gryn agraff ar wylwyr S4C pan y'i dangoswyd ddiwedd 2008 gydag Ifor ap Glyn yn cyflwyno.

Sylfaenwyd y gyfres ar gynnwys llythyrau milwyr cyffredin o faes y gad yn ystod rhyfel erchyll 1914-18 - weithiau at eu teuluoedd neu gariadon, weithiau at bapurau newydd y cyfnod.

Cyflewyd darlun byw o brofiadau gwirioneddol ddychrynllyd.

Rhaid canmol y penderfyniad i addasu'r gyfres deledu yn llyfr sy'n ein a'n galluogi i astudio'r geiriau gyda mwy o hamdden.

Yn drawiadol iawn mae Ifor ap Glyn yn disgrifio'r llythyrau a gasglodd fel "Gododdin y Rhyfel Mawr" - rhyfel y cymerodd 100,000 o Gymry Cymraeg ran ynddi.

Aeth bron yn ystrydeb erbyn hyn, dweud nad esgorodd y Rhyfel Mawr ar fawr o weithiau llenyddol Cymraeg ond y mae Ifor ap Glyn yn ychwanegu:

"Ond yr oedd yn gyfnod cynhyrchiol dros ben o ran llythyrau. Mae 'na gannoedd ohonyn nhw mewn casgliadau teuluol, archifau sirol, a llawer hefyd wedi eu cadw i ni yn y papurau newydd. Y llythyrau hyn yw'r cofnod llawnaf sydd gennym o brofiad y milwr Cymraeg - y rhain yw 'Gododdin' y Rhyfel Mawr," meddai.

Trysorau cignoeth

Maen nhw'n drysorfa gignoeth o brofiadau ac agweddau ac yn cael eu cyflwyno yn y llyfr fesul blwyddyn o'r rhyfel gyda nodiadau perthnasol am hynt yr heldrin y sgubwyd ein heieunctiod iddi - llawer ym mlodau eu dyddiau ac yn llawer mwy diniwed na rhai o'r un oed heddiw.

Rwy'n cofio'r prif lenor Ifor Wyn Williams a fu'n filwr gyfnod yr Ail Ryfel Byd yn dweud amdano ef a'i gyfoed yr adeg honno; "Fyddech chi ddim yn coelio pa mor ddiniwed oeddem ni."

Gymaint mwy felly fechgyn genhedlaeth ynghynt gallwn dybio.

Ni allwn ni heddiw ond prin ddychmygu eu hofn a'u penbleth o gyrraedd maes y frwydr - llawer wedi eu hysgubo yno gan huotledd gwleidyddion a hyd yn oed weinidogion yr efengyl yn eu hannog i ymrestru 'dros eu gwlad'.

Ond os oedd breuddwyd yr ymrestru yn un ramantus buan iawn y trodd yn hunllef y ffosydd a chawn ddarluniau geiriol ysgytwol yn y gyfrol hon o bobl yn byw mewn tyllau yn y ddaear, mewn mwd ac ymhlith llygod mawr.

"Y mae yma elynion heblaw y Germans, sef llygod, ac y maent gymaint a chathod ein gwlad ni . . . Y mae yma filoedd o honynt, ac y maent yn rhedeg drosom yn y nos, ac yn wir yn treio cael tamaid o fodiau ein traed. Lawer noson byddwn yn eu lluchio oddiar ein breichiau nes y byddant yn clecian yn erbyn y pared," meddai un llythyrwr.

Mae un arall yn sôn am filwyr "dat eu pennau gliniau mewn dwr am oriau" yn y mwd.

Rhaid hefyd bod yn effro drwy'r amser i'r gelyn o ddyn:

""Y mae yn rhaid inni gadw ein pennau i lawr . . . neu fydd y German Sniper wedi cael golwg arnoch ac os gaiff o olwg arnoch mi fydd wedi darfod arnoch."

Magwraeth wledig

Bechgyn cyffredin oedd y Cymry hyn a'u delweddau wrth sgrifennu yn aml yn adlewyrchu magwraeth wledig, amaethyddol.

Un yn sôn am y "Germans yn ein trackio fel ysgyfarnogod ac yn dod i wybod felly ein tricks"

Dro arall dywedir; "Yr ydym yn byw fel cwningod o dan ddaear." Ac meddai milwr arall:

"Mae fel pe baech yn byw mewn cae tatws gwlyb ar hyd y dydd. Nid gwlydd tatws welwch yn ymgodi o'r ddaear yma, ond coesau a phennau dynion."

Hefyd: "Byddaf yn chwerthin ynof fy hunan weithiau wrth feddwl ein bod yn byw fel tyrchod daear neu lwynogod yr Arryg."
Yr Arryg yn un o fynyddoedd y Carneddau.

Delwedd gyfarwydd i rai o gefndir y chwarel a ddefnyddir i ddisgrifio'r diwrnod:

"Byddwn fel dynion yn myned at eu gwaith i'r chwarel, ond ein bod ni yn cychwyn hanner awr wedi pump yn yr hwyr, ac yn dod yn ôl hanner awr wedi pump y noson ddilynol."

Ac meddai milwr o Landdewibrefi mewn llythyr at ei fam - a rhaid rhyfeddu at ei gynildeb: "Nid oedd y trenches yn lle cymffyrddus iawn . . . fel pe baem yn cerdded yn nhrenches cae garw ni.'!

Un o bob saith

Yn Ffrainc a Fflandyrs yn ystod y rhyfel dywed Ifor ap Glyn i un o bob saith milwr gael ei ladd gydag un o bob dau yn cael ei anafu.

"Erbyn diwedd y rhyfel roedd 41,000 o ddynion wedi colli braich neu goes!

Drwy'r llythyrau cawn olwg byw ar gyflwr y milwyr, y berthynas â'r gelyn ac hefyd ambell i gipdrem ddramatig ar yr ymladd ei hun megis yn y disgrifiad trawiadol hwn gan Tom Nefyn Williams:

"Dyma orchymyn . . . 'Fix bayonets!' . . . Dyma'r gorchymyn olaf: 'Charge!' Megis carreg yn mynd allan o ffon-dafl, neidiasom i fyny, ac i ffwrdd â ni gan grochweiddii, â'r haul eirias yn gwynnu ein bidogau . . . Yn uwch ac yn uwch ar hyd y llechwedd. Drwy'r man-goed, gan adael un cyrnol a'i uch-gapten ac ambell i hen ffrind ar ôl yn feirwon."

Ac eto gan yr un awdur am filwyr yn glanio ar y traethau: "Sôn am uffern yr hen ddiwinyddion! Ubain a sgrech a chwalfa tân-belen, fel pe gollyngasid yn rhydd yn yr awyr glas gannoedd o ellyllon gwibiog. Yma ac acw o'n deutu, ond gyda byddarol ffrwydradau, troid y môr yn lluwch gwyn . . ."

Eu anghofio

Ond yng nghanol yr heldrin gignoethi yr oedd pryderon eraill hefyd. Mae un milwr yn sgrifennu at ei gariad:

"Nid ydwyf wedi derbyn gair oddi wrthych oddi ar wyf yma. Pa beth sydd yn bod Mary anwyl? Ar oes rhwbeth rhyfedd wedi digwydd i chwi? Yr ydych yn hala i y trwbly mwy lawer obeity y chi nag wyf yn gofidio obeity yr Army yma."

Ac mae un arall wrth gwyno nad oes atebion i'w lythyrau yn synio fod "pawb yn ein cyfrif fel alltudion yn byw allan o'r byd" gan ychwanegu'r pennill:

Mae gair i un sy'n mhell o'i wlad
Yn Peri iddo fawr fwynhâd,
Felly rhoddwch linell fwyn
Grea yn y galon swyn.

Ac mae un arall yn holi; "A ydyw pobl yn meddwl mai ar ein 'holidays' yr ydym yn y wlad hon?"

Ond yr hyn sy'n sobri rhywun dro ar ôl tro yw mai llythyrau bechgyn sydd wyneb yn wyneb ag angau yw y rhain ac yn byw profiadau nad oedd hawl gan neb ddisgwyl iddynt eu byw mewn lle nad oedd ond y mynwentydd yn ffynnu:

"Wythnos yn ôl nid oedd yr un corph wedi ei gladdu yn y fan yna, ond wele heddyw rhesi o feddau dynion ieuainc wedi eu torri i lawr yn ddianhenrhaid. Mae yn llawnach heddyw na mynwent Llanllechid. Dyna i chwi syniad bychan pa beth y mae wythnos o ryfel yn eu wneuthur."

Yr ydym yn ddyledus i S4C ac Ifor ap Glyn am y gyfres deledu ac i Wasg Carreg Gwalch am y llyfr a ddeilliodd ohoni. A ddarlleno . . .


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Golygfa o Where the Wild Things Are

Adolygiadau

Bachgen bach trist yn dianc i blith creaduriaid gwyllt!

Theatr

Ffion Dafis

Adolygiadau a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Radio Cymru

alt tag

Stiwdio ac ati

Stiwdio - y rhaglen sy'n trafod celf a llenyddiaeth

Cyfrannu

Anfonwch eich sylwadau, lluniau a gwybodaeth i 'Cylchgrawn'

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.