- Adolygiad Glyn Evans o Llythyrau'r Wladfa 1865 - 1945. Golygydd, Mari Emlyn. Gwasg Carreg Gwalch. £9.95.
Mae'r Wladfa ym Mhatagonia wedi esgor ar sawl llyfr nodedig dros y blynyddoedd.
Mae rhywun yn meddwl yn arbennig am gyfraniad R Bryn Williams o ran ffaith a ffuglen.
Rhai o weithiau Eluned Morgan hefyd a'r gyfrol Ar Lannau'r Camwy William Meloch Hughes a gyhoeddwyd 1927.
O hyn allan, bydd yn rhaid gosod yn uchel iawn, os nad ar frig, unrhyw restr o lyfrau am y Wladfa, lyfr rhagorol Mari Emlyn Llythyrau'r Wladfa 1865-1945 a gyhoeddwyd ddiwedd 2009.
Casgliad yw o lythyrau personol rhwng Cymry a Gwladfâwyr a llythyrau anfonwyd i'r wasg yn ystod cyfnod cynnar yr ymsefydlu a'r ymgais i greu teyrnas Gymraeg ym Mhatagonia.
Yn amlwg, mae'r llythyrau personol o ddiddordeb arbennig a chyfraniad Mari Emlyn yn fawr yn diogelu detholiadaun ohonynt rhwng dau glawr.
Cyfrwng pwysig
Y dyddiau hynny, wrth gwrs, yr oedd y llythyr yn offeryn pwysig i drosglwyddo gwybodaeth a theimladau personol ac mae rhywun yn holi faint o golled fydd hi i haneswyr y dyfodol fod hwn yn arferiad sydd wedi ei ddisodli i gymaint graddau gan ddulliau electronaidd cyflymach o gyfathrebu. Faint heddiw sy'n diogelu ebyst?
Ond fel y dywed Mari Emlyn:
"Yr unig ffordd oedd gan bobl Patagonia a Chymru o gadw mewn cysylltiad oedd trwy lythyr ac mi oeddwn yn eu gweld yn gofnod archifol - mae yna hanes yn y llythyrau yma ac mi fyddai'n bechod iddyn nhw fynd ar goll."
Bu'n hynod o ddiwyd a chydwybodol ei gwaith yn pori mewn dros fil o lythyrau; 500 y cafodd eu benthyg.
Disgrifio llofruddiaeth
"Roedd un llythyr dirdynnol iawn yn disgrifio mewn manylder lofruddiaeth Llwyd ab Iwan, sef mab Michael D. Jones, gafodd ei ladd gan ddau o wylliaid America.
"Roedd y bachgen ifanc hwn oedd yn ysgrifennu at ei rieni adref yng Nghapel Garmon yn dyst i'r llofruddiaeth, ac yn ei disgrifio fel golygfa erchyll o ffilm gowboi," meddai.
Ddeuai rhywun byth i ben â chyfeirio at yr holl gyfeiriadau difyr yn y gyfrol ond fe fyddwn yn sylwi, fel y dywed Mari Emlyn ei hun, cyn lleied o ysgafnder a hiwmor sydd yn y llythyrau.
Yn sylwi, ond nid yn synnu o gofio y caledi hynod oedd yn rhan o'r ymsefydlu.
Colli dwy ferch
"Mae 'na lythyr - un o'r rhai cynharaf un - a ysgrifennwyd gan ddyn o'r enw William Jones o'r Bala sy'n cyfeirio at y ffaith iddo golli ei ddwy ferch fach - un wedi iddyn nhw gyrraedd Porth Madryn a'r llall ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, a sut na fyddai byth wedi gadael Y Bala pe byddai'n gwybod am y caledi oedd yn eu hwynebu," meddai Mari Emlyn.
Mae'r gyfrol wedi ei rhannu yn rhagair, rhagymadrodd, chwe phennod a llyfryddiaeth gyda chyflwyniad i bob pennod gan y golygydd.
Mae'r bennod gyntaf yn ymwneud â'r fordaith a'r glanio yn 1865; wedyn daw, Cyfyngderau ac Unigedd; Arloesi a newidiadau mawr; Heulwen a chwmwl; Camu i'r ugeinfed ganrif a chan orffen gyda'r hyn a ddisgrifa fel y blynyddoedd distaw rhwng 1920 a 1945.
Mae ôl-nodiadau ar gyfer pob pennod hefyd er mwyn hwyluso adnabyddiaeth y darllenydd.
Fe fyddwn wedi hoffi hefyd , un ai ddechrau neu ddiwedd y gyfrol, nodyn bywgraffyddol cryno am y llythyrwyr a lle'n bosib lun bach maint eich bawb.
Y mae lluniau yng nghorff y gyfrol fodd bynnag ambell un yn drawiadol iawn fel y llun o Geridwen ac Esyllt, merched Edwin Cynric Roberts gyda gwn yr un.
Cryn drafferth
Ar wahan i gasglu, copio, didoli a golygu'r llythyrau aeth Mari Emlyn i gryn drafferth i egluro'r cefndir hefyd gan wneud hon yn gyfrol gymeradwy iawn er rywfaint yn siomedigo ran ei diwyg.
Afraid dweud bod cynnwys y llythyrau eu hunain y tu hwnt o ddiddorol ac yn cynnig sawl agoriad llygad a fydd o werth arbennig i haneswyr y dyfodol.
Eluned Morgan
Dyna lythyr Eluned Morgan at Alafon yng Nghymru yn erfyn am lyfrau yn rhoddion i lyfrgell gyntaf y Wladfa.
"Peth difrifol," medda hi," yw ymgynydynu a lot o bobl mor dwp a physt, ac eto yn gwybod popeth, oni bae am yr holl blant bach sy'n codi i fynu ni phoenwn fy enaid cyflawn gyda hwynt, maent yn fy hala i bechu yn aml mae arnaf ofn," meddai.
Ac wrth gwyno am y Sbaeniaid mae'n byw yn eu plith dywed bod angen y llyfrau Cymraeg "i wrthweithio dylanwad mall y genedl bwdr sy'n trigo o'n cwmpas" ac yn ddiddorol iawn, iawn, dywed y byddai llyfrgell dda "yn gydiol a phob capel; o lyfrau Cymraeg a Seisnig [fy mhwyslais i] yn fendith anrhaethol i'r Wladfa yn y cyfwng presenol."
Mewn llythyr arall mae mam Eluned, Ellen Jones, yn disgrifio'n ysgytwol noson marwolaeth ei gŵr, Lewis Jones..
Er mor ystrydebol dweud hynny mae Llythyrau'r Wladfa yn gyfrol benigamp i bori ynddi'n achlysurol ac i'w hailddarllen droeon.
Yr ydym yn ein dyled i Mari Emlyn ac edrychwn ymlaen at yr ail gyfrol o lythyrau y mae wedi ei haddo.