Adolygiad Lowri Roberts o Sêr Chwaraeon y 'Llanelli Star' Sporting Heroes gan Barrie Thomas. Gwasg Carreg Gwlach. £8.50.
Fel y mae teitl y llyfr yn ei awgrymu, cyfrol yw hon sy'n cloriannu llwyddiannau rhai o enwogion Llanelli ym myd y campau.
Yn naturiol mae enwau fel Ray Gravell, Phil Bennett, Carwyn James a Terry Griffiths yn britho'r tudalennau - ond tybed faint ohonoch chi oedd yn ymwybodol o gysylltiad Jenson Button, Jimmy White, Viv Richards, Ayrton Senna a Nick Faldo â'r dref?
Oes mae na lawer i'w ddysgu am y dref hon a'i henwogion a phwy gwell i'n haddysgu na gŵr a dreuliodd dri degawd yn gohebu ar gampau a gorchestion y bobl hyn a'u tebyg i bapur lleol y Llanelli Star.
Cofnod pwysig
Yn olygydd chwaraeon y papur, ers dechrau'r 1970au mae Barrie Thomas yn ŵr sydd â chariad mawr tuag at ei fro a'i phobl.
Mi fyddai'r gyfrol hon, yn naturiol, yn apelio at bobl Llanelli a'r cylch ac i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon. Mae'n gofnod hanesyddol pwysig o lwyddiannau sêr chwaraeon yr ardal.
Ond mae hefyd yn codi cwr y llen ar fywyd gohebydd papur newydd lleol. Yn hynny o beth mae'n gofnod cymdeithasol o'r newid mawr a fu ym myd newyddiaduraeth ddiweddar. Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa newyddiadurol i ddarllen y gyfrol.
Yn naturiol, mae rygbi yn cael cryn sylw rhwng y cloriau. Wedi'r cyfan mae'r clwb rygbi yn rhan annatod o'r dref. Ond rhoddir sylw teilwng hefyd i gampau eraill - yn bêl-droed, criced, snwcer, rasio ceir, paffio a bowls.
Yr hyn sy'n gwneud y darllen yn ddifyr iawn yw'r wedd bersonol a roir i'r hanesion - mae'r awdur yn rhannu ei brofiadau o holi hwn a'r llall ac arall ac yn datgan barn yn onest a diflewyn ar dafod.
Ambell i sgŵp
Mae'r awdur hefyd yn falch iawn o ambell i sgŵp a ddaeth i'w ran ar hyd y blynyddoedd a sut y bu iddo gael y gorau ar sawl papur cenedlaethol.
Un enghraifft yw'r tro y gofynnodd y chwaraewr snwcer Terry Griffiths iddo ymweld â'i gartref er mwyn tawelu sibrydion am ei rywioldeb.
Meddai Barrie Thomas:
"Roedd cael y fath egscliwsif cyn hyd yn oed ein chwaer bapur, yr Evening Post, a'r holl bapurau Seisnig yn foment o falchder i bapur wythnosol y Star ac i mi.
Dwy iaith
Llyfr dwyieithog ydyw - yn amrywio o'r Gymraeg i'r Saesneg fesul tudalen ac mae'n anorfod, felly, fod y darllenydd yn cymharu'r ieithwedd wrth fynd yn ei flaen.
Tybiaf mai yn y Saesneg y 'sgrifennwyd y gyfrol yn wreiddiol ac iddi gael ei chyfieithu neu ei throsi i'r Gymraeg ac yn anffodus teimlaf fod y Saesneg yn rhagori ar y Gymraeg.
Gwell o bosib fyddai ymatal rhag cyfieithu mor glogyrnaidd ac amrywio'r dweud ryw ychydig. Ond mater o farn bersonol yw hynny.
Lluniau diddorol
O ran diwyg, mae'n llyfr hardd iawn sy'n llawn lluniau diddorol. Rhaid mai gorchwyl anodd iawn oedd dewis o blith miloedd o luniau a ymddangosodd yn y papur ar hyd y blynyddoedd. Yn sicr, mae'r lluniau yn cyfoethogi'r gyfrol.
Cefais flas mawr ar ddarllen y gyfrol a'm hatgoffa o ambell i enw cyfarwydd a aeth yn angof ar hyd y blynyddoedd.
Mae'n anodd credu ar brydiau fod cynifer o enwogion o fyd y campau wedi eu magu a'u meithrin yn y dref. Braint i Barrie Thomas dybiwn i, oedd cael adrodd ar eu llwyddiannau.

