16 Mai 2011
- Adolygiad Janice Jones o Siarad Trwy'i Het gan Karen Owen. Cyhoeddiadau Barddas tt. 174. £7.95
Hon yw ail gyfrol Karen Owen o farddoniaeth, yn dilyn Yn fy Lle, a gyhoeddwyd yn 2006.
Ond mae'r gyfrol hon ychydig yn wahanol: Karen oedd enillydd cyntaf Het Goffa Iwan Llwyd yng Ngŵyl Maldwyn 2010 ac un o amodau'r wobr yw dangos bod yr het wedi teithio yma a thraw.
A dyma sydd wrth wraidd yr hanner cant a mwy o luniau difyr, gogleisiol a heriol ar brydiau a gynhwyswyd yn y gyfrol hon ochr yn ochr â thros 80 o gerddi Karen.
Ceir awgrym o fydolwg unigryw'r bardd yn y darlun ohoni ar glawr y gyfrol, cyfrol ag iddi ddiwyg gwerth chweil.
Mae yma gymysgedd o'r mesurau caeth y mae Karen yn gymaint o feistr arnynt, yn ogystal â cherddi rhydd a phenrhydd.
Ceir englyn a chywydd, rhigwm a hen bennill a nifer o gerddi rhydd, gydag ambell un o'r rheini'n ymdebygu i gerdd brôs.
Â'r ffotograffau a gynhwyswyd yn y gyfrol â ni o Bulpud y Diafol, Bwlch Tal-y-llyn i Angel y dagrau, Aberfan, ac o English Walls, Croesoswallt i Ben-yr-englyn yn y Rhondda.
Rhennir y cerddi'n bum adran - Oesol, Gwleidyddol, Pobol, Crwydrol, a Beunyddiol - trefn yr oeddwn i'n ei gwerthfawrogi ond na fyddai at ddant pob darllenydd, mae'n debyg.
Yn yr adran Oesol, ceir cerddi'n dwyn teitlau fel Glaw, glaw, glaw, Bwgan Llyn Nantlle, a Darwin oedd yn iawn ac yn y gerdd Lôn Wen, tybir, yn y wireb hon, i ni i gyd gael ein geni: "a'n bryd ar i fyny, a'n traed ni ar lawr".
Yn yr adran Gwleidyddol mae cerddi sy'n trafod, ymysg ystod eang o bynciau, Wal Bryn Fôn, Hwdi ger y preseb, a Mesur Iaith 2010.
Ceir cerdd sy'n sôn am breswylwyr 'enwocaf' Môn yr wythnosau diwethaf 'ma, sef y Tywysog William a'i wraig newydd, a cheir sylwebaeth graff ar ymweliad y Frenhines â Chaernarfon yn 2010:
Cwîn
Ei regalia yw'r gelyn - aur o hyd
uwch y Dre'; ond wedyn
,
does 'r un hil sy'n ei dilyn
yn fwy saff na'r Cofis hyn.
Mae'r adran Pobol yn cynnwys cerddi coffa megis Yng nghynhebrwng Katie Wyn, a Smocio efo Dic, yn ogystal â cherddi sy'n disgrifio Hebog Al Êfs, a Blodau Robin Peintar.
Mae'r casgliad Cardiau post o Efrog Newydd sydd i'w canfod yn yr adran Crwydrol yn rhoi i'r darllenydd ogwydd ffres ar nifer o agweddau ar fywyd y ddinas honno a cherddi fel Dyledion Rembrandt a fi, a Pancan, yn sicr yn gwneud i ddarllenydd feddwl ddwywaith am fyw a bywyd.
Yn y gerdd hiraethus Hem ei rhyddid, am ferch sy'n gadael ei mam a'i mamwlad am fywyd 'gwell', disgrifir y ffarwelio, a sut yr oedd y fam:
wedi ymorol i wnïo i mewn i hem ei chôt
fawr
bris tocyn adref -
rhag ofn.
Beunyddiol yw'r adran sy'n cloi'r gyfrol ac yma eto ceir cerddi sy'n disgrifio'r mân a'r mawr. Datblygodd Symud piano'n weithred dyngedfennol a'r Bwrdd smwddio'n symbol o fywyd yn ei holl gymhlethdod gogoneddus.
Iago ac Iwan yw'r gerdd olaf yn y gyfrol, cerdd sy'n adrodd sut y bu i Karen warchod ei nai y noson wedi i gorff Iwan Llwyd gael ei ddarganfod ym Mangor:
Iago ac Iwan
Yn ei grud, mae Iago'r hil yn anniddig o eiddil, a'i fodryb sydd heb fedru si-lwli-lw'r nosau lu:
Ar elor Bangor mae'r byd a'i brifardd briw o hefyd, crwydryn sy'n cario adref
eiriau'r iaith yn ei farw ef: A gwnaf, gofynnaf innau i'r un duw sy'n rhannu dau, i ba obaith, ba wybod, fy neffro i beidio â bod?
Amhosibl cloriannu'r gyfrol arbennig hon mewn cyn lleied o eiriau: mae ei themâu yn gyfoes ac yn oesol. Darllenwch, myfyriwch a mwynhewch.
Janice Jones
- Wrth drafod y gyfrol hon ac Iwan ar Daith ar Raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru, ddydd Sul Mai 15, 2011, canmolodd Sioned Williams y cerddi am fod yn "gelfydd iawn" ac yn "ddealladwy iawn".
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
I glywed ei sylwadau cliciwch ar y darn llwyd, uchod.