Geraint Jarman - Y Twrw Jarman

Rhan o glawr y llyfr

28 Mehefin 2011

Adolygiad Gwyn Griffiths o Y Twrw Jarman gydag Eurof Williams. Gomer. £19.99.

Dyma gronicl difyr o'r diwydiant adloniant Cymraeg yn cwmpasu hanner canrif, yn cael ei adrodd gydag egnï byrlymus un a fu yng nghanol y cyfan ac a adawodd ei ôl yn drwm ar ddatblygiad cerddoriaeth gyfoes Cymru.

Anodd derbyn bod rhai cantorion cyfoes yn heneiddio ond yr hyn a'm synnodd oedd fod gyrfa berfformio Geraint Jarman wedi cychwyn mor gynnar. Pan ond yn ddeg oed dechreuodd ef a'i chwaer, Tanwen, ganu ar y rhaglen Gwlad y Gân, TWW.

Cawn gyffyrddiadau diddorol am ei dras. Huguenots - Protestaniaid - Ffrengig a erlidiwyd o'u gwlad ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg oedd y Jarmaniaid.

Clawr y llyfr

Difyr darllen am ei blentyndod yng Nghaerdydd ac mai y gŵr a elwir ganddo yn Wncwl Ffred oedd yr Athro A. O. H. Jarman.

Gan ychwanegu ei fod ysgolhaig Cymraeg ac awdurdod ar y Chwedlau Arthuraidd! Fel petae'n bosib bod unrhyw un sy'n darllen Cymraeg heb wybod hynny!

Dechreuodd Geraint farddoni'n ifanc a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth Saesneg ar y cyd â chyd-ddisgyblion eraill tra'n dal yn Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd.

O glywed am hyn, cafodd her i gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth Gymraeg cyn ei fod yn ugain gan ei athro Cymraeg, W C Elvet Thomas - a phwy all fesur ysbrydoliaeth y gŵr hwnnw i'r Gymraeg a Chymreictod?

Derbyniodd yr her a chyhoeddi Eira Cariad pan oedd yn 19 a Cerddi Afred Street chwe blynedd wedi hynny.

Ond nid am hynny y cofir Geraint Jarman, er yn ddiau bu disgyblaeth y bardd yn werthfawr i'w ddatblygiad fel sgrifennwr geiriau caneuon.

Dau ddylanwad

Brynhawn Mawrth, Mehefin 21, digwyddais daro ar raglen ar Radio 4, Free Wales Harmony - When Pop Went Welsh, rhaglen yn bwrw golwg yn ôl ar ganu cyfoes Cymraeg.

Yr enwau a grybwyllid amlaf a'r lleisiau amlycaf oedd Geraint Jarman a Meic Stevens.

Daeth y cyflwynydd, y troellwr disgiau o Fanceinion, Andy Votel, i'r penderfyniad mai dyna'r ddau mwyaf eu dylanwad ar ganu cyfoes Cymraeg.

Mae'r gyfrol Y Twrw Jarman yn brawf pa mor allweddol a ffrwythlon fu perthynas y ddau Geraint ar y dechrau'n sgrifennu geiriau Cymraeg i alawon Meic.

Arweiniodd hynny at sefydlu Y Bara Menyn - Meic, Heather Jones a Geraint - grŵp yn dychan grwpiau Cymraeg y cyfnod gyda'u gwladgarwch melys, meddal, anwleidyddol.

Caneuon fel Caru Cymru, Dihunwch Lan a Mynd i Laca Li.

Ond welodd neb y pwynt ac yn y sefyllfa swreal honno aeth y grŵp rhagddo i boblogrwydd.

Diddorol darllen iddynt ymddangos yn rheolaidd ar raglen Wyddeleg ar deledu RTE, gyda'r Chieftains yn brif berfformwyr.

Beth bynnag, mae'n amlwg mai dyma'r adeg pryd y dysgodd Geraint Jarman ei grefft fel perfformiwr a gitarydd.

Er peth siomiant i Geraint Jarman, penderfynodd Stevens roi'r gorau i'r grŵp a mynd rhagddo i borfeydd eraill.

Mae hanes Geraint Jarman a'r Cynghaneddwyr yn arbennig o ddiddorol. Fwy neu lai drwy hap a damwain ymgasglodd criw o gerddorion / offerynwyr dawnus iawn o'i gwmpas - bechgyn fel y diweddar Tich Gwilym - i gyd yn Gymry di-Gymraeg.

Yr oedd nifer ohonyn nhw hefyd yn aelodau o fandiau enwog iawn y cyfnod ond yr oedd caneuon Geraint cystal ac mor ddiddorol fel y bu i Geraint Jarman a'r Cynghaneddwyr ddal ati'n llwyddiannus am flynyddoedd. A hynny heb ystyried am funud y gallai fod yn fuddiol i Geraint ganu ambell gân Saesneg.

Cawsant gyfnodau llwyddiannus yn canu'n rheolaidd yn y Casablanca - un o glybiau enwog Caerdydd - a gigs cyson ledled Cymru. Buont yn Amsterdam lle cawsant eu talu gyda llond bag plastig o ganja a dwy jwg enfawr o gwrw.

Crewyd rhyw undod arbennig rhwng y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg.

Cafwyd sioeau fel Macsen a'r Mabinogi

Pennod chwerw

Arweiniodd Mabinogi at gyfnod chwerw yn eu hanes pan gawsant gais i berfformio yng Nghastell Caernarfon yn 1983 mewn digwyddiad a oedd, heb yn wybod iddynt, yn rhan o Flwyddyn y Cestyll, cynllun gan y Bwrdd Croeso i hybu cestyll Cymru.

Cawsant eu beirniadu'n chwyrn gan Gymdeithas yr Iaith a arweiniodd at gyfnod o chwerwedd wedi'r blynyddoedd o gydweithio.

Cawn hanes Geraint a'r byd teledu, cychwyn S4C, ei gysylltiad å Catatonia, Cerys Matthews, y Gorkys, Super Furries, mynd i Jamaica ar drywydd Bob Marley - fyny hyd heddiw.

Lluniwyd y llyfr ar ffurf sgwrs rhwng y cynhyrchydd radio a theledu, Eurof Williams â Jarman ac er nad yw'n ffurf yr wyf yn ei hoffi'n fawr, yn yr achos hwn gweithiodd yn ardderchog a'r stori'n mynd rhagddi ar gyflymdra mawr.

Ceir nifer fawr o luniau da, nifer o gerddi yn llawysgrif Geraint ac y mae'n gyfrol swmpus ddeniadol.

Un gwyn sy gen i; bod y print ar y rhan fwyaf o'r tudalennau wedi ei osod ar liw ac mae'n anodd darllen teip du ar dudalennau llwyd, glas ysgafn, pinc.

Ydi, mae'n edrych yn dlws ond yn boen i'r llygad.
Gwyn Griffiths


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.