Mae mwy nag un daith yn Iwan ar Daith.
Mae'r daith yr ymgymerodd ei gyd feirdd a'i ffrindiau â hi o amgylch Cymru i gofio Iwan Llwyd yn dilyn Eisteddfod Glynebwy y llynedd ac mi fydd tinc cyfarwydd i'r gyfrol hon i'r rhai hynny a fynychodd un o gyfarfodydd y daith honno.
Ac wrth gwrs yr oedd Iwan Llwyd ei hun yn deithiwr brwd yn ystod ei fywyd ac yn un a ysbrydolwyd gan ymweliadau â de a gogledd America a lleoedd eraill.
Yn fwy na hynny mae'r gyfrol ddeniadol hon gan Wasg Carreg Gwalch yn adlewyrchiad o daith bywyd Iwan Llwyd ei hun.
Iwan Llwyd y bardd, y perfformiwr, y cerddor ac Iwan Llwyd y dyn y daeth ei siwrnai ddaearol i ben mor ddisymwth yr adeg hon y llynedd.
Do, i aralleirio T H Parry-Williams, bardd teithiol arall ac un o hoff feirdd Iwan, daeth diwedd ei siwrnai cyn diwedd ei daith o safbwynt yr hyn oedd ganddo eto i'w gynnig ac a oedd ganddo eto i'w gyflawni.
I werthfawrogi'r elfen hon o deithio ni ellir gwell na darllen ysgrif Karen Owen Y Daith Olaf sy'n cychwyn gyda'r geiriau, "Dyn ar daith oedd Iwan Llwyd."
Ar daith
Ychwanega: "Ar daith bywyd, mi gariodd nifer o bethau gydag o. Mi aeth â'i eiriau i bob rhan o Gymru, a'u dychwelyd adre' yn ganeuon . . . Mi gariodd ei angerdd tuag at yr iaith a hanes Cymru ym mhocedi dyfnion y siaced ledr. Ac mi gysgododd nifer o gyfrinachau dan gantel ambell un o'i hetiau," meddai.
Yr hyn yw'r gyfrol ydi wake Gwyddelig ar bapur lle mae ffrindiau yn cofio un a oedd yn annwyl iddynt ac un a wnaeth, mae'n gwbl amlwg, argraff fawr arnyn nhw. Ac o bryd i'w gilydd clywir llais yr ymadawedig hefyd yn codi uwch eu lleisiau hwy ar ffurf y cerddi sy'n aros, er i'w hawdur fynd.
Er bod yma elfen o hanes bywyd yma nid cronicl mo Iwan ar Daith ond ysbeidiau o fywyd heb fod mewn unrhyw drefn gronolegol bwrpasol. Mae'n debyg iawn i fodio drwy albwm ond bod yna eiriau ymhlith y lluniau.
Da felly bod yna ar gychwyn y gyfrol yr hyn sy'n cael ei alw yn "Lwybr amser' lle nodir cerrig milltir pwysig o'r geni yn Llanidloes, Tchwedd 15, 1957, i ennill cadair Ryng-golegol, i briodi, ennill coron Cwm Rhymni, cyfresi teledu, cyhoeddi cyfrolau ac yn y blaen.
Dyna, rhwng dalen 16 a dalen 22, ffeithiau'r bywyd. Ond mae'r bywyd oedd yn y bywyd yn y deunydd arall yn gerddi, yn atgofion ac yn lluniau - dewis canmoladwy iawn o luniau gyda llaw a thrueni na nodir enwau'r ffotograffwyr wrthyn nhw.
Gyda graen
Myrddin ap Dafydd fu'n golygu a dod â'r amrywiaeth ynghyd ac y mae'n rhaid canmol y graen ar y gwaith. Y gyfrol fwyaf graenus o Wasg Carreg Gwalch ers tro byd.
"Mae bron y cyfan o gyfraniadau'r gyfrol hon yn ffrwyth y daith," meddai Myrddin sy'n datgelu i 1,300 a mwy droi i mewn i'r gwahanol sesiynau."Yr oedd y pwyslais ar y pleser o rannu atgofion ar y daith honno. Y ffordd orau o gofio am y teithiwr mawr oedd mynd ar daith i geisio codi hwyl y nosweithiau hynny a gawsom i gyd yng nghwmni Iwan. Ond yn naturiol roedd yr hiraeth yno yn llercian drwy'r amser hefyd," meddai Myrddin ac mae'r disgrifiad hwnnw o'r daith yn un sy'n ddisgrifiad cymwys o naws y gyfrol hon.
Er bod rhywun yn cael sawl llygedyn o olau am Iwan a'i gerddi - mae sylwadau wedi eu cyhoeddi ochr yn ochr ag ambell un ohonyn nhw - nid at y gyfrol hon y byddai rhywun yn troi am drafodaeth lenyddol o'i waith. Daw hynny, fel y dywedir mewn nodyn ar gefn y llyfr hwn, mewn cyfrolau sydd eto i'w cyhoeddi.
"Bydd gwerthfawrogi ei gerddi, bydd yn hawlio'i le yn ein traddodiad barddol," meddir.
"Cyn hynny, mae'i gyfeillion a'i gyd-feirdd yn cofio'r dyn cynnes ac annwyl, yn ail-fyw'r profiadau a'r gwmnïaeth ac yn cofnodi'r straeon a'r atgofion. Ac yn canu er cof amdano," ychwanegir.
Ie, ymgais lwyddiannus sydd yma i rannu'r pleser o adnabod bardd a chymeriad arbennig iawn."
Bu'n bleser crwydro drwyddi.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
- Gwrando ar Sioned Williams yn trafod y gyfrol hon a chyfrol Karen Owen, Siarad Trwy'i Het ar Raglen Dewi Llwyd, BBC Radio Cymru.