Adolygiad Richard Glyn Roberts o Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog. Golygwyd gan Nerys Ann Jones. Gwasg Prifysgol Cymru, 2009. xx + 244 tt. Pris: £18.99.
Ebrill 2009
"Dyma'r gyfrol gyntaf erioed i'w chyhoeddi ar Hywel ab Owain Gwynedd" [t. vii].
Gellir maddau gwyleidd-dra'r golygydd pan ddywed y gwir yn gymedrol fel hyn yn ei rhagair ond ni ddylai hynny rwystro darllenwyr arfaethedig rhag iawn ddeall pwysigrwydd y llyfr hwn.
Oddieithr y golygiadau safonol a gyhoeddwyd yn saith cyfrol yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion, a'r gyfrol gydymaith anhepgor i'r gyfres honno, Beirdd a Thywysogio: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban, prin yw'r ymdriniaethau o faint llyfr â'r Gogynfeirdd ac erthyglau mewn cyfnodolion biau'r maes hwn fel aml i faes arall.
Gellid ychwanegu mai dyma'r ail gyfrol i'w chyhoeddi sy'n canolbwyntio ar waith un o'r Gogynfeirdd, yn dilyn llyfr Peter Busse ar Gynddelw, a'r gyfrol gyntaf un yn Gymraeg.
Wrth ei bwysau
Cyfrol amlgyfrannog ydyw, gyda chwe phennod yn ffurfio corff y llyfr a phum atodiad yn cynnwys y cerddi a briodolir i Hywel ab Owain, amryw gofnodion hanesyddol sy'n crybwyll y bardd-dywysog, a detholiad o'r cerddi a ganwyd iddo, yn cynnwys marwnadau Peryf ap Cedifor i'w frodyr ac i Hywel, ei frawd maeth.
Mae'r fformat hwn yn caniatáu i'r darllenydd gyfeirio wrth ei bwysau at y ffynonellau gwreiddiol y seilir yr amryfal ymdriniaethau arnynt heb iddo orfod ymbalfalu am lyfrau eraill.
Yn yr un modd, hwylus dros ben yw'r crynodeb cronolegol ar ddechrau'r llyfr. Mae'r cwbl yn dwyn i gof gynllun hygyrch a diwastraff-gynhwysfawr y gyfrol arall honno a gydolygwyd gan Nerys Ann Jones a Huw Pryce dro yn ôl, Yr Arglwydd Rhys.
Bywyd a gwaith
Dyry Nerys Ann Jones yn ei rhagymadrodd ragarweiniad i fywyd a gwaith Hywel ab Owain o'i ymddangosiad cyntaf ar lwyfan hanes hyd ei farwolaeth drwy law ei hanner brawd, Dafydd ab Owain mewn brwydr ym Mhentraeth, Môn yn 1170/71.
Ond prif ddiddordeb y rhagymadrodd mewn gwirionedd ydyw'r sylwadau ar y derbyniad a gafodd y dyn a'i waith, wedi ei farw.
Trafodir cymhellion yr ysgrifwyr a gyfansoddodd Frut y Tywysogion a Llawysgrif Hendregadredd a'r ffordd y llywiodd yr olaf (er pan y'i darganfuwyd mewn wardrob ym Mhlasty Hendregadredd, Pentrefelin, yn 1910) ein hymwybyddiaeth o gorff canu Beirdd y Tywysogion.
Manylir ymhellach ar y cyfeiriadau at Hywel mewn llên gwerin, yr ail wynt a gafodd stori Hywel ab Owain yn dilyn cyhoeddi'r Myvyrian Archaeology, a'r argraff a gafodd ar awduron y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.
Diwylliannol a gwleidyddol
Y cyd-destun diwylliannol a gwleidyddol a gyflwynir yn y ddwy bennod gyntaf, y naill gan Morfydd E Owen a'r llall gan J. Beverley Smith. Ymhelaetha MEO ar y cefndir diwylliannol cymhleth sydd i gynhyrchion beirdd y ddeuddegfed ganrif a'r amrywiaeth dylanwadau estron y gellir eu holrhain ym marddoniaeth y cyfnod.
Neilltuir cryn ofod i drafod y deunydd cyfatebol yng ngwaith y sgaldiaid, ac y mae hynny i'w groesawu'n fawr gan fod tuedd yn rhy aml i anwybyddu'r Llychlynaidd a chanolbwyntio'n llwyr ar y Gwyddelig.
Hywel yw'r cyntaf o feibion Owain Gwynedd i'w grybwyll ym Mrut y Tywysogion yn milwra a chesglir felly mai ef oedd yr hynaf ohonynt ond mab goddrech ydoedd, mab i Wyddeles o bosibl. Ystyrir arwyddocâd hynny ym mhennod JBS ar 'Hywel ab Owain a Gwleidyddiaeth Gwynedd' a dilynir rhawd milwrol Hywel, ei ran yn diogelu ac estyn ffiniau Gwynedd yn ystod oes ei dad a'r ymrafael am yr olyniaeth wedi marw Owain.
Canu serch
Ymgais lew sydd ym mhennod Huw Meirion Edwards ar ganu serch Hywel ab Owain i ddehongli'r cerddi hyn (ac ymhlyg yn y dehonglid hwn, holl ganu serch cyfoeswyr Hywel ab Owain yn ogystal) gan bwyso ar gyfatebiaethau a dylanwadau posibl o fewn cwmpas cyfansoddiadau llenyddol cynhenid yn unig, heb droi at weithiau cyfandirol.
Ystyrir posibilrwydd bodolaeth (damcaniaethol) traddodiad canu serch cynhenid yn nheyrnas Deheubarth a allasai fod wedi dylanwadu ar ganu Hywel, ac archwilir testunau brodorol am elfennau a adleisir o bosibl yn y cerddi (swyddogaeth y Bardd Teulu yn y llyfrau cyfraith, moesau cwrtais fel y'u darlunnir yn y chwedlau brodorol, ac ati), er mwyn dangos "nad oes raid chwilio dramor am batrymau'r canu hwn mewn gwirionedd" [t. 96]. Mae HME yn ŵr rhy fwyn i fod yn ddogmatig ac y mae'n crybwyll y dadleuon i'r gwrthwyneb gan gydnabod eu bod yn ddichonadwy.
Amlinella yn ogystal y ddadl dros serch cwrtais sy'n gynnyrch y Zeitgeist, yn hytrach na chanlyniad dylanwad uniongyrchol ac ymwrthyd yn bendant â'r olaf:
"Mwyaf yn y byd y darllenir awdlau Hywel ab Owain Gwynedd a'i gyfoeswyr i wragedd a merched ochr yn ochr â chanu serch yr Oesoedd Canol mewn ieithoedd eraill, cryfaf yn y byd yw'r argraff fod a wnelom â thraddodiad brodorol sydd heb ei liwio gan unrhyw ddylanwadau allanol o bwys." [t. 104].
Dweud go gryf, a chasgliad na ellir ei gysoni'n hawdd â'r darlun o gydgyfarfod a chroesffrwythloni diwylliannol a gyflwynir ym mhennod Morfydd E Owen. Fodd bynnag, er nad ydyw'n llwyr argyhoeddi'r darllenydd, rhaid croesawu ymgais HME i adfywio'r drafodaeth ddamcaniaethol.
Tair awdl
Dilynir pennod HME gan ymdriniaeth y Golygydd â thair awdl 'Gorhoffedd Hywel ab Owain', awdlau sydd, fe faentumir, yn datgan uchelgais Hywel ab Owain ym mater yr olyniaeth ac yn lledfynegi apêl a fwriadwyd ar gyfer clustiau ei dad.
Yn ei bennod ar y derbyniad cyfyng a gafodd gwaith Hywel ab Owain ymysg Beirdd yr Uchelwyr dengys Dafydd Johnston mai Llawysgrif Hendregadredd oedd cyfrwng unrhyw ddylanwad yn ddieithriad, ffaith sy'n cadarnhau dibyniaeth y traddodiad ar gadwraeth llawysgrifau unigol.
Dadansoddiad o gynganeddion Hywel ab Owain gan Rhian M Andres sy'n cloi'r casgliad o ysgrifau. Yna daw'r cyntaf o'r atodiadau a grybwyllais ac erbyn iddo gyrraedd y rheini bydd y darllenydd wedi ei lawn arfogi i ymgodymu â cherddi'r bardd-dywysog y mae'r gyfrol hon yn gyflwyniad cystal i'w fywyd a'i waith.
Richard Glyn Roberts - Ebrill 2009

