Diarmuid Johnson - Y Gwyddel, O Geredigion i Galway

top

07 Ebrill 2011

Hunangofiant cerddor a bardd, ieithydd, ysgolhaig a newyddiadurwr a'i wreiddiau yng Ngheredigion a'i fagwraeth yn Iwerddon

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

  • Adolygiad Glyn Evans o Y Gwyddel - O Geredigion i Galway gan Diarmuid Johnson. Gomer £7.99.

Chwilio'r oeddwn i am rywbeth i ladd amser nes byddai hi'n amser cychwyn am allan.

Ond yn wir, trodd Diarmuid Johnson yn un o'r bobl hynny sy'n galw'n annisgwyl weithiau a'ch cadw chi am oriau a difetha'ch diwrnod.

Wel, nid 'difetha' 'chwaith yn yr achos hwn - ond es i ddim allan wedi fy nal gan yr 'ymwelydd' annisgwyl hynod o ddifyr.

Roeddwn wrth fy modd, o'r portread o ddinas Galway yr awdur yn y 'Prolog' gyda'i adlais o Under Milk Wood Dylan Thomas a Frank McCourt ac ysgrifenwyr Gwyddelig tebyg.

Ond y cyfan mewn llif o Gymraeg glân, llesmeiriol sy'n mynnu eich cario tuag at geulannau hyfryd o annisgwyl.

Dydi Y Gwyddel ddim yn llyfr hir gan orffen yn ei flas ar dudalen 128 a chwithau'n dal i fwynhau ac yn dal i gael eich procio.

Mae'r Prolog y math o beth y byddech chi eisiau darllen darnau ohono yn uchel i'w rhannu pe byddai rhywun arall efo chi yn y tŷ. Ac mewn llai na deg dalen yr oedd gen i ddigon o ddyfyniadau i lenwi sawl adolygiad. Roedd na rywbeth bob munud.

Mae llygad, clust, meddwl ac ysgrifbin llenor ar waith.

"Tedi boi yw P.J. - ei wallt taclus oôl-crib-drosto yn facwn ac wyau o seimllyd, ei fonyn sigarét mor fach â phig titw Tomos las, a'i gamre pwyllog yn gamre gŵr o'r wlad. Un gôt sydd gan P. J. Un pâr o sgidiau, Ac un dymuniad, cael byw heb bechu neb."

Clawr y llyfr

Sgwennwr ydi hwn sy'n digrifio esgob Galway fel rhywun "sobor fel sant" ac Ynys Aran fel "Rhyw asgwrn o ynys yng ngenau'r bae . . . y môr a'r gwyntoedd yn ei chnoi ac yn ei blino o hyd."

Buan iawn y down i'r casgliad fod yma ddawn dweud arbennig iawn. Y cwestiwn wedyn yw, oes yna rywbeth o werth yn cael ei ddweud?

Wedi'r cyfan, gallai'r cyfan fod yn ddim amgen nag ymarferiad - pleserus o glyfar, mae'n wir - mewn sgrifennu creadigol.

"Oes," ydi'r ateb ac mae'n werth rhoi rhywfaint o gefndir i egluro pam mae'r ffordd o feddwl mor drawiadol wahanol a'r ffordd o ddweud.

Gwreiddiau mewn dau ddiwylliant

Yn fab i Wyddel a Chymraes a'i gwreiddiau'n ddwfn yng Ngheredigion ganwyd Diarmuid Johnson yng Nghymru ond ei fagu ers yn dair oed yn Iwerddon yn siaradwr Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg gan ddod yr un mor rhugl a chyfforddus ym ym mhob un ohonynt a'r gwahanol wreiddiau yn tynnu gwahanol bethau o briddoedd ei gynhysgaeth a rhoi iddo fydolwg sydd yn iachus o wahanol.

Mae'n cychwyn trwy ddweud; "Mewn tref wyntog, wleb ar lannau'r Corrib yn Iwerddon, ger y cefnfor, y ces i fy magu. Yno y bûm yn Gymro alltud, yn Gardi oddi cartre, yn Wyddel bach, yn drafaeliwr ar ei brifiant, yn ieithydd rhonc, yn gerddor ac yn glust i gyd, yn gariad i... smo fi'n cofio pwy, yn fardd talcen slip eisiau bod yn wreiddiol, eisiau ei lun yn y papur, yn frawd bodlon, yn fab afradlon..."

Treuliodd hefyd saith mlynedd yn Llydaw ac yn yr Almaen, ac, yn y pen draw, dod yn ôl i Gymru.

"Yn Iwerddon y ces i fy addysg felly, a threulio blynyddau fy mebyd a'm llencyndod yno. Fe'm magwyd yn Wyddel ond, eto i gyd, bu Cymro'n llechu yn achau'r Gwyddel hwn erioed," meddai.

Mae mewn sefyllfa anarferol o freintiedig felly i fyfyrio beth mae bod yn Wyddel yn ei olygu a beth mae bod yn Gymro ar yr un pryd, yn yr un meddwl a chnawd, yn ei olygu i un a fagwyd â sŵn barddoniaeth Llywarch Hen yn ei glustiau pan yn ei grud!

Er bod yma ddweud stori bywyd, teg dweud nad hunangofiant yn yr ystyr arferol mo hwn ond chwilio pac - yn hwyliog a difyr iawn - ddyn a diwylliant mewn cyd-destun anarferol.

Yn synnu rhai

Ac mae ddigon cyfarwydd ac â digon o gariad at ei bwnc i fedru canmol, ei cheryddu bob yn ail heb ramantu ys dywed ef ei hun.

Bydd ei olwg o Iwerddon a'r newid a ddaeth i'w rhan yn sgil y chwyldro cyfalafol hwnnw a elwid yn "Deigr Celtaidd" yn siŵr o synnu rhai o'r Cymry hynny sy'n tueddu i edrych ar y wlad drwy sbectiols gwyrddion ac mae'n arwyddocaol mai un o'i sylwadau olaf yn y llyfr yw:

"Mae pobl yn gofyn i fi a ydw i'n gweld eisiau Iwerddon. 'Only when I'm there,' yw'r ateb sydd gen i bellach."

Er mwyn profi o fwynhad y sgrifennu a hwyliogrwydd a'i ffraethineb mae'n werth darllen y gyfrol hon pr basi ond i ddeall beth mae'n ei olygu wrth ddweud hynny.


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.