Casgliad o ysgrifau diwylliant gwerin
Adolygiad Glyn Evans o Gwerin Gwlad - Ysgrifau ar ddiwylliant Gwerin Cymru. Cyfrol 1. Golygyddion: E Wyn James a Tecwyn Vaughan Jones. Carreg G wlach. £12.
ER bod diddordeb ysol ymhlith llawer mewn llên gwerin yng Nghymru - a hwnnw'n dyddio'n ôl i ddyddiau Gerallt Gymro yn y ddeuddegfed ganrif - pwnc prifysgol cymharol ddiweddar yw hwn.
Yn wir nid ddaeth yn bwnc academaidd swyddogol tan ddechrau degawd olaf yr ugeinfed ganrif!
Ond yr oedd y diddordeb yn bodoli ymhell, bell, cyn hynny a hanes y rhai hynny a fu'n 'llafurio yn y maes' rhwng 1700 a 1900 sydd yn y gyfrol ddifyr hon dan olygyddiaeth E Wyn James a Tecwyn Vaughan Jones.
Y naill yn uwch ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a'r llall yn gyn diwtor astudiaethau gwerin yn yr un lle ond yn awr yn gyfarwyddwr rhaglen astudio dramor ym Mhrifysgol Bangor.
Y gyntaf mewn cyfres yw hi ac eglurir mai'r bwriad yw "cyhoeddi ysgrifau amrywiol ar ein traddodiadau a'n harferion gwerin, a fydd yn seiliedig ar ysgolheictod cadarn, ond a fydd yr un pryd yn ddarllenadwy ac yn hygyrch".
Drigain mlynedd yn ôl, adeg sefydlu ei amgueddfa werin newydd yn Sain Ffagan pwysleisiodd un o lewion y maes, y Dr Iorwerth C Peate, bwysigrwydd cofnodi ac astudio diwylliant traddodiadol nid yn unig er mwyn deall gorffennol cenedl yn well ond er mwyn cryfhau a datblygu bywyd cenedlaethol Cymru i'r dyfodol.
Mae peryg i'r holl sôn yma am ysgolheictod ac academiaeth ein drysu i feddwl nad cyfrol i'r darllenydd cyffredin mo hon - ond yn wir mae sawl cono hynod a lliwgar yn cael sylw gan y chwech o arbenigwyr sy'n cyfrannu - Mary-Ann Constantine, Mari Ellis, Tegwyn Jones, Trefor M Owen, Brynley F Roberts a Juliette Wood..
Cynhwysir hefyd 35 o luniau gan gynnwys rhai o'r cymeriadau sy'n cael sylw.
Deryn drycin
Beth bynnag am y cyfaredd a berthyn i'r pwnc ei hunan buan y gwelwn fod y rhai a fu'n ymwneud ag ef yr un mor gyfareddol wefreiddiol a neb llai na'r deryn drycin hwnnw Iolo Morganwg - ac wele un o'r prif arbenigwyr arno, Mary-Ann Constantine, yn chwilio'i bac.
Ond y man cychwyn yw gorolwg Juliette Wood, un o gyfarwyddwyr y Folklore Society, o ddatblygiad astudiaethau gwerin yng Nghymru rhwng 1700 a 1900 - braslun o unigolion, sefydliadau, mudiadau a chymdeithasau.
Ond am bobl yn hytrach na sefydliadau y mae rhywun yn awchu clywed - Edward Lhwyd 'arloeswr casglu llên gwerin' er enghraifft yn dod dan chwyddwydr Brynley F Roberts sy'n gyn lyfrgellydd cenedlaethol.
Ond gallwch fentro mai at Iolo Morganwg y bydd sawl un yn troi gyntaf ac mae'n addas mai cychwyn y mae gyda'r pennill "lafar penn gwlad Morganwg":
Nid twyll yw twyllo twyllwr
Nid Brad bradychu bradwr
Nid lledrad yw mi wnaf yn dda
Lladratta ar Ladrattwr.
Wrth gau pen y mwdwl ar ei sylwadau dywed; "Er gwaethaf llais cryf a phersonoliaeth unigryw y casglwr, mae archif Iolo Morganwg yn caniatáu inni glywed lleisiau eraill, llai enwog: pobl gyffredin Morganwg a siroedd eraill Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r ddilynol. Mae hyn yn rhywbeth mawr, yn rhywbeth i fod yn hynod ddiolchgar amdano," meddai.
Merched gweithgar
Ymhlith y menywod sy'n cael sylw mae'r ferch i offeiriad, Angharad Llwyd, gan Mari Ellis yn ei hysgrif Y personiaid Llengar a Llên y Werin.
A'i gwreiddiau yng Nghaerwys bu'n wraig hynod o weithgar hon yn casglu ac yn cofnodi ac hefyd yn hel tanysgrifiadau i lyfrau Cymraeg- "gwaith llafurus y bu'r personiaid llengar i gyd yn ymwneud ag ef".
Dywed Mari Ellis bod cartref Angharad Llwyd "yn amgueddfa o hen greiriau megis hen feini, darnau o hen arian, a chleddyf y bu un o'i hynafiaid yn ei chario ym mrwydr Maes Bosworth".
Dywed: "Bydd rhai o hen drigolion Caerwys ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cofio Angharad Llwyd yn mynd trwy'r dref a rhes o asynnod yn ei dilyn [am] ei bod yn arfer eu bwydo â chrystiau o'i basged am yr haerai nad oedd eu perchnogion yn rhoi digon o fwyd iddynt."
Yr oedd yn Eisteddfodwraig frwd gan ennill sawl gwobr megis cyfrol History of Mona yn Eisteddfod Genedlaethol Biwmares. Bu hefyd yn casglu dywediadau a phenillion.
Dwy fenyw liwgar arall sy'n cael sylw haeddiannol ydi Mari Richards, Darowen, ac Arglwyddes Llanofer - y ddiwyd Wenynen Gwent.
Arferion priodi
Ond yn ôl y disgwyl - o ystyried y cyfnod - dynion sydd fwyaf niferus. Glanffrwd, awdur Plwyf Llanwyno yw gwrthrych Trefor M. Owen ac fel y byddai rhywun yn disgwyl pwy well na Tegwyn Jones i sgrifennu am Lewis Morris o Fôn y "cofnodwr coelion" a fu'n hel arferion priodi Ceredigion er enghraifft.
Cyhoeddwyd y llyfr yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Amgueddfa Genedlaethol y llynedd a chafodd groeso brwd gan y rhai sy'n ymddiddori yn y maes ac y mae eisoes edrych ymlaen at y nesaf yn y gyfres.
takako testing. testtesttesttesttest test test test test testv test test testest

