Advertisement

Plant - Bwyta'r Enfys

Eliffant bresychen goch

22 Hydref 2009

Cwningen wedi ei gwneud o fefus, afal a rhuddygl; eliffant wedi ei wneud o gabatsien goch a bitrwden, ci bach banana a dafad wedi ei gwneud o flodfresychen.

Pedwar o'r creaduriaid a ddefnyddir mewn llyfr newydd i geisio perswadio plant bach i fwyta eu gwala a'u gweddill o ffrwythau a llysiau.

Clawr Bwyta'r Enfys

"Hwyl gyda ffrwythau a llysiau maethlon," ydi is deitl Bwyta'r Enfys gan Annabel Karmel - arbenigrwaig ddeniadol ar wybod beth sy'n dda ichi.

Bwyta'r enfys oherwydd pwysigrwydd bwyta llysiau a ffrwythau o wahanol liwiau bob dydd a'r newydd da i'r rhai hynny sy'n ceisio cael plant i fwyta'r pethau hyn yw, fod "y bwydydd mwyaf lliwgar yn gallu bod yn fwy llesol i chi" gyda grawnffrwyth pinc yn well ichi na grawnffrwyth gwyn er enghraifft.

Mewn nodyn i rieni ar gychwyn y llyfr deg dalen gardbord y dywedir hyn yna mewn dalennau sy'n gyforiog o liwiau eglurir pa fwydydd a llysiau coch, oren, melyn, gwyrdd, glas a phorffor a gwyn a brown sy'n mynd i wneud plant yn "iach ac yn hapus o hyd".

Mae'r lluniau a'r creaduriaid sy'n cael eu creu trwy gyfuno gwahanol lysiau a ffrwythau yn hynod ddeniadol ac yn tynnu'r llygaid. Gellir dychmygu'r plant lleiaf yn ymgolli ar lin mam a dad.

Ac i rieni diddychymyg mae cyfarwyddyd gan Annabel ar gychwyn y llyfr sut i wneud y defnydd gorau ohono gydag awgrymiadau o weithgareddau pellach - "Beth am dyfu bwydydd megis mefus, tomatos, neu ddail yn yr ardd"; "Beth am greu wyneb llysiau ar blat a'i fwyta?" ac yn y blaen .

Gan Wasg Gomer y cyhoeddir y fersiwn Gymraeg o'r llyfr sydd eisoes ar gael yn y Saesneg a'i bris yw £4.99.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Golygfa o Where the Wild Things Are

Adolygiadau

Bachgen bach trist yn dianc i blith creaduriaid gwyllt!

Theatr

Ffion Dafis

Adolygiadau a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Radio Cymru

alt tag

Stiwdio ac ati

Stiwdio - y rhaglen sy'n trafod celf a llenyddiaeth

Cyfrannu

Anfonwch eich sylwadau, lluniau a gwybodaeth i 'Cylchgrawn'

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.