Adolygiad Gwyn Griffiths o Yr Hawl i Oroesi: Ysgrifau Gwleidyddol a Diwylliannol gan Simon Brooks. Gwasg Carreg Gwalch. £7.50.
Darllenais rywdro y gall newyddiaduraeth dda fod yn llenyddiaeth o werth barhaol. Rwy'n meddwl mai W J Gruffydd a'i gwnaeth yn Rhan 1 ei gofiant i O. M. Edwards - fu yna ddim Rhan 2.
Daeth y sylw i'm cof wrth ddarllen Yr Hawl i Oroesi, casgliad o ysgrifau golygyddol Simon Brooks ar gyfer y cylchgrawn Barn. Bu Barn yn ffodus o gael golygyddion arbennig dros y blynyddoedd a chofiwn yn gyntaf, Emlyn Evans.
Ond y ddau a gofiwn orau, ac a roes eu stamp arno, oedd Alwyn D Rees a'r Dr Brooks. Dau gydag agenda.
Ai doeth yw i olygydd feddu ar agenda sy'n fater arall. Fy hunan, 'does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl ac yr oedd drws agored a chroeso ganddynt i safbwyntiau eraill beth bynnag.
Parhad tiriogaethol
Llinyn canolog sy'n rhedeg drwy'r gyfrol ardderchog hon yw angen parhad tiriogaethol i'r Gymraeg - y trychineb fuasai colli Gwynedd cyn ennill Caerdydd. All neb anghytuno â hynna.
Da o beth cael ein hatgoffa o safiad Seimon Glyn a dadansoddiad Dr Brooks o'r hyn a ddwedodd ac, yn fwy perthnasol, ei ddycnwch yn gwrthod ymddiheuro am yr hyn ddwedodd yn nannedd y feirniadaeth Seisnig a'r sefydliad cenedlaethol.
Mae'r ymdriniaeth â'r Gymraeg yng nghyswllt hil a hiliaeth yn heriol a meistrolgar, a hynny o safbwynt academaidd sicr. Da cael ein hatgoffa o wrth-Gymreictod y Comisiwn Cydraddoldeb Hil a hysiwyd gan rai aelodau o'r Blaid Lafur i danseilio safle'r Gymraeg yn ei chynefin.
Bellach mae'r comisiwn hwnnw wedi ei ddileu ac yn ei le cawsom gomisiwn gyda chyfrifoldeb dros hawliau pob math o bobl - yr anabl, hoywon, yr hen - yn ogystal â mewnfudwyr a phobl ethnig.
Ai da hyn neu beidio. Wedi dwy flynedd mae'r corff newydd o hyd mewn anhrefn llwyr yng Nghymru a'r unigolion â fflangellir gan Dr Brooks wedi hen fynd.
Eto, nid ddylid anghofio sut y defnyddiwyd corff a sefydlwyd i frwydro yn erbyn hiliaeth sefydliad a chyfundrefn i ymosod ar hawliau Cymry Cymraeg yn eu broydd eu hunain.
Dadleuon grymus
Da i ni gael ein hatgoffa o'n llwfrdra yn wyneb yr ymosodiadau hyn. Ond rhydd Simon Brooks ddadleuon grymus i ni herio'r drefn.
Cyhoeddodd David Blunkett, pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref, mai dyletswydd y Wladwriaeth Seisnig yw amddiffyn y Saesneg, ei gwerthoedd cenhedlig, a'i dysgu'n effeithiol i fewnfudwyr.
Dyma osod cynsail i'r syniad o iaith gymunedol ac os yw'n ddigon da i'r Saesneg yn Llundain neu Gaerlŷr fe wna'n burion i'w chymhwyso i'r Cymry yng Ngwynedd neu Ddyfed.
Yn ddiweddar iawn 'roedd ceidwad Swyddfa Bost rywle yng Nghanolbarth Lloegr yn gwrthod delio gyda phobl na fedrent siarad Saesneg ag e. Os felly nid yw awgrym y Dr Brooks y dylid mynnu siarad Cymraeg gyda Sais fu'n cadw siop mewn pentre yn y Fro Gymraeg am gyfnod cyhyd â, dyweder, dair blynedd mor afresymol â hynny.
Mae'n dwyn i'n sylw ddeddfau Ewropeaidd sy'n cyhoeddi'n groyw bod gweithredu'n gadarnhaol o blaid lleiafrif fel y Cymry Cymraeg y gyfreithiol.
Er i mi fod dros y blynyddoedd yn ddarllenwr gofalus o Barn mae'n amlwg i mi fethu hon'na.
Gelynion y Gymraeg
Mae a'i lach ar y Chwith - neu'n hytrach garfan o'r sefydliad Llafur fu'n elyn i'r Gymraeg. Nid teg uniaethu pawb o'r Chwith â'r garfan adweithiol honno
Mae ei ddadansoddiad o feddylfryd gwleidyddol ceidwadol y dosbarth canol Cymraeg yn ddiddorol a digon agos ati goelia i - a'i defnydd o heddychiaeth fel esgus dros wneud dim.
Er y ceir ôl straen ar ambell erthygl, fel ei ymdrech i lusgo Islam a Chymreictod at ei gilydd, ar y cyfan mae ei weledigaeth a'i ddadansoddiad yn glir. A ydym am dderbyn bob tro bob gosodiad o'i eiddo sydd fater arall.
Ceir datganiadau ysgubol ryfeddol megis mai cynnyrch rhamantiaeth Seisnig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Celtigrwydd.
Anodd derbyn ei ymosodiad ar Giwba a Chymdeithas Cymru-Ciwba, hefyd.
Cefn gwlad
Hoffais yn fawr ei adolygiad o nofel Caryl Lewis, Martha, Jac a Shanco. Darllenais flynyddoedd yn ôl La Vie d'un Simple Emilé Guillaumin, Jean et Louise Antonin Dusserre a chyfieithad T Ifor Rees o nofel René Bazin, Y Tir yn Darfod, a meddwl pam na sgrifennodd neb nofel Gymraeg am galedi'r Gymru Gymraeg amaethyddol sy'n ei dweud hi fel ag y mae. Fe'i cawsom gan Caryl Lewis.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Mae Simon Brooks hefyd yn ei dweud hi fel ag y mae. Cofiaf y sioc o ddarllen Tynged yr Iaith Saunders Lewis yn ôl ym 1962 a chefais sioc hynod o debyg o ddarllen y gyfrol hon.
Mae cyhoeddi'r erthyglau hyn mewn cyfrol yn gymwynas â ni fel Cymry Cymraeg. Gobeithio y bydd trafod mawr arni - mae'n ei haeddu.

