Ifan Morgan Jones - Yr Argraff Gyntaf

27 Medi 2010

  • Adolygiad Lowri Roberts o Yr Argraff Gyntaf gan Ifan Morgan Jones.

Llofruddiaeth, llwgrwobrwyo, cynllwynio a dial. Oes, mae yn y nofel hon elfennau a fyddai'n fêl ar fysedd golygydd papur newydd.

Biti i'r golygydd yn yr achos hwn gael ei ladd ar gychwyn y nofel, a pheri i'r geiriau anfarwol Ataliwch y Wasg! gael eu bloeddio ar draws y stafell argraffu.

Mae marwolaeth annhymig golygydd Cronicl Caerdydd - Tynoro Davies - yn sicr yn agoriad dramatig sy'n hoelio sylw'r darllenydd o'r dechrau'n deg.

Yn ystod yr ymchwiliad i'w farwolaeth cawn ein cyflwyno i nifer o gymeriadau'r ddinas - ambell un yn hoffus, eraill yn fwy sinistr a thywyll.

Caerdydd ei hun

Ond yn ganolog i'r cyfan y mae Caerdydd ei hun. Nid y ddinas y syniwn ni amdani heddiw ond, yn hytrach, Gaerdydd 1927 - y flwyddyn y bu i'r Amgueddfa Genedlaethol agor a'r flwyddyn pan gododd clwb pêl-droed Caerdydd gwpan yr FA.

Ac mae'r digwyddiadau hanesyddol yma yn gefnlen i'r gyfrol.

Nofel hanesyddol, nofel dditectif, nofel antur - mae'r gyfrol hon yn gyfuniad o'r tri ac fel un oedd yn dotio ar ddarllen nofelau Hanes Marion Eames roedd Yr Argraff Gyntaf yn sicr yn apelio.

Mae yma ôl gwaith ymchwil trwyadl ac mae'r nofel yn gyforiog o gyfeiriadau hanesyddol.

Fel y soniwyd eisoes, lleolir y nofel yng Nghaerdydd, 1927 ac mae'r ddinas yn gymaint rhan o'r stori ag yw'r prif gymeriadau, Daniel, Enoch, John a Cynog.

Bedydd tân

Daniel Lewis dybiwn i yw'r prif gymeriad - gohebydd 25 oed a symudodd o Ddyffryn Teifi flwyddyn a hanner ynghynt i ddilyn gyrfa yn newyddiadurwr papur newydd. Yn gymar proffesiynol iddo y mae John Smith - ffotograffydd 20 oed sydd newydd ymuno â'r Cronicl.

Mae ei gyflwyniad i'r byd papur newydd yn fedydd tân gan mai ef sy'n cael y fraint o gyfweld â theulu Tynoro Davies - "y gnoc gelain" fel y'i disgrifir yn y nofel.

Cynog Price sy'n goruchwylio'r ddau - ef yw golygydd y shifft nos a'r un sy'n cymryd yr awenau yn sgil marwolaeth Tynoro.

Gŵr calon galed a dideimlad ar brydiau - yn gam neu'n gymwys, y ddelfryd draddodiadol dybiwn i o olygydd papur newydd y cyfnod.

Ac yna mae Enoch Jones. Siryf sydd newydd gyrraedd Caerdydd ar long o'r Ariannin. Oes mae yma gyfuniad diddorol o ran cymeriadau.

Efallai mai'r cymeriadau uchod sy'n gyrru'r stori ond trwy'r is gymeriadau y daw'r cyd-destun cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn fyw.

Ei gyrru o'i chartref

Cymerwch gariad Daniel - Stella. Merch sy'n cael ei gyrru o'i chartref yn un o bentrefi'r gorllewin am iddi gael plentyn siawns. Drwyddi hi y daw brwydr y Swffragéts yn fyw a'u hymgyrch dros sicrhau gwell hawliau i fenywod.

Yn hynny o beth mae'n nofel addysgiadol ac yn un y byddai disgyblion ysgol a myfyrwyr Hanes ar eu hennill o'i darllen.

Ystyriwch hefyd y llu cyfeiriadau at ddatblygiad a difodiant y dociau a'r diwydiant glo. Y gŵr sy'n cynrychioli tranc y gweithiau glo yw Arglwydd Tremaen. Gŵr y mae dyn yn cydymdeimlo ag ef ac yn ffieiddio ato am yn ail.

Cignoeth

Wrth sôn am ddistryw'r diwydiannau trwm ceir yma ddisgrifiadau cignoeth:

"Roedd y wythïen o gledrau trên a gariai holl gyfoeth du'r Cymoedd drwy ganol y ddinas wedi ceulo a'r cerbydau'n rhydu'n wag ar ymyl y traciau. Roedd diwydiannau'r dociau ar drai, diweithdra'n uchel a Chaerdydd yn diodde. Codai drewdod y dadfeilio o'r afon Taf a'r strydoedd o'i hamgylch."

Mae cefndir newyddiadurol yr awdur yn amlwg. Mae ei bortread o staff y Cronicl yn hynod gredadwy. Y gohebwyr calon-galed sy'n yfed a smocio yn drwm ac sy'n treulio cymaint o amser yn y Blue Bell neu'r Anglesey Arms ag ydynt yn y swyddfa. Ystyriwch yr olygfa lle mae'r 'hacks' yn trafod sut i drin marwolaeth eu golygydd:

'Oes yna dystiolaeth mai cael ei lofruddio wnaeth e? gofynnodd Daniel yn syn.
'Dim. Ond rhaid cael pennawd i hoelio sylw'r darllenwyr!'

Peidier â gadael i'r ffeithiau amharu ar stori dda!

Yn y golygfeydd sy'n delio â sut i drin a sgwennu stori bapur newydd dda y daw adnabyddiaeth a meistrolaeth Ifan Morgan Jones o'i grefft i'r amlwg.

Cynghorir y gohebwyr amhrofiadol i sgwennu yn fachog a chynnil gan sicrhau sylw'r darllenydd o'r cychwyn cyntaf - a dyna'n union y mae Ifan Morgan Jones yn ei wneud, a hynny mewn Cymraeg graenus.

Ond yn wahanol i newyddiadurwyr mae ei arddull ar brydiau yn fwy llenyddol gan ymylu ar fod yn farddonol. Nodwedd sy'n ei godi uwchlaw'r newyddiadurwr cyffredin:

"Llifodd y trên i'r orsaf gan disian ager poeth a llenwi'r platfform â sŵn dyrnu'r pistonau a bytheirio'r simnai. Cododd yr ager oddi ar ei gorff fel chwys oddi ar groen tarw wrth i'r mecanwaith cyhyrog lacio a sefyll yn stond."

Mwy na stori

Oes mae tipyn mwy na stori dditectif dda yma. Mae iddi arddull gaboledig hefyd.

Yr unig wendid - os gwendid o gwbl - oedd y diweddglo. Does dim dwywaith bod 'na adeiladu at uchafbwynt clir, ond cefais fy siomi pan ddatgelwyd pwy oedd y llofrudd a'i gymhelliad dros wneud.

Eto i gyd, efallai mai oherwydd imi ddyfalu'n anghywir y cefais fy siomi. Onid yw pob nofel dditectif dda yn twyllo'r darllenydd?

Gyda'i nofel gyntaf, Igam Ogam fe enillodd Ifan Morgan Jones wobr goffa Daniel Owen. Dwi'n rhagweld y bydd cymaint o ganmol ar y nofel hon.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Radio Cymru

alt tag

Stiwdio ac ati

Stiwdio - y rhaglen sy'n trafod celf a llenyddiaeth

Urdd 2011

Eisteddfod Abertawe 2011

Croeso i Abertawe

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol nesaf yr Urdd

Cyfrannu

Anfonwch eich sylwadau, lluniau a gwybodaeth i 'Cylchgrawn'

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.