- Y Sêr: Craig Roberts, Noah Taylor, Sally Hawkins, Paddy Considine, Yasmin Paige, Steffan Rhodri.
- Cyfarwyddo: Richard Ayoade.
- Sgrifennu: Addasiad Richard Ayoade o nofel Joe Dunthorne.
- Hyd: 97 munud
Artaith hardd yr arddegau yn Abertawe
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Dyddiau'n unig ar ôl mwynhau'r cracyr canoloesol Ironcast, a phythefnos wedi i mi gael fy hudo gan road movie hamddenol Patagonia, profais drydedd ffilm i gael ei chynhyrchu yng Nghymru, a'i hariannu gan gronfa ED Creadigol y Cynulliad Cenedlaethol.
Ac am y drydedd wythnos yn olynol, cefais fodd i fyw yng nghwmni ffilm ffantastig sy'n cynnwys cast diddorol a stori dda.
Dim i'w wneud â'r llynges
Yn groes i'r disgwyl does gan y comedi cwyrci Submarine ddim cysylltiad o gwbl â'r llynges ond cryn dipyn yn gyffredin â melysion mympwyol Wes Anderson, Spike Jonze a Michel Gondry, gan ei gwneud yn ffilm Gymreig hynod hoffus a - sibrydwch y gair- cool.
Mae'n dilyn ymdrechion bachgen ysgol o Abertawe, Oliver Tate, i ddwyn calon merch ei freuddwydion, ac achub priodas ei rieni.
Er yn ffeithiol gywir, dydy'r amlinelliad uchod ddim yn dod yn agos at wneud cyfiawnder â chynhwysion esoterig ac ecsentrig y ffilm hon.
Heb rannu gormod o drysorau'r cynhyrchiad, mae yna rai ffeithiau mae'n saff i'w datgelu heb sbwylio gormod ar eich mwynhad.
Y mae Oliver (Craig Roberts) ei hun yn arwr sydd ymhell o fod yn hoffus, diolch i'w duedd ymhongar i ddyrchafu'i hun dros bawb, tra bo ei wyddonydd o dad, Lloyd (Noah Taylor- Shine, The Life Aquatic With Steve Zissou, Charlie and The Chocolate Factory) , ar goll mewn iselder dwys, gan ddigio'i fam Jill (Sally Hawkins - Made in Dagenham), a'i gwthio i gyfeiriad cyn gariad, Graham (Paddy Considine) - cymydog carismataidd sydd â phwerau arallfydol.
A'r ferch sy'n destun ei serch? Yn ogystal â mwynhau bach o fwlio ysgafn a thynnu lluniau polaroid, mae Jordana Bevan (Yasmin Paige) yn byromaniac â chanddi eczema drwg tu ôl i'w chlust dde.
Fel y gallwch ddychmygu, y mae'r cynhyrchiad yn orlawn o fanylion bychain fel hyn, gan adlewyrchu nofel yr oedd yr awdur Joe Dunthorne - o Mount Pleasant ar gyrion gorllewinol Abertawe - yn grediniol y byddai'n amhosib i'w throi'n ffilm.
Molawd i'r arddegau
Fodd bynnag, diolch i gyfarwyddo crefftus gan yr actor Richard Ayoade sydd fwyaf adnabyddus am chwarae Mozz, yn y gyfres deledu The IT Crowd - y mae'r ffilm yn folawd i atgofion o'r arddegau, gan wneud defnydd helaeth o ddychan-dechnegau fel ffug-ôl-fflachiadau, zoom-outs hunan-gyfeiriol a "phenodau" ac isdeitlau i danlinellu digwyddiadau dramatig gaiff eu hangori gan angof dros y degawdau i ddod.
Yn ogystal ag actio caboledig gan y cast cyfan - gan gynnwys perfformiad trawiadol gan Craig Roberts o Faesycwmer ger Caerffili, a gymharwyd yn ffafriol iawn â Dustin Hoffman yn The Graduate pan ddangoswyd Submarine yng ngŵyl Sundance - mae'n werth nodi gwaith rhagorol y cynllunwyr celfyddydol, dan arweiniad Gary Williamson.
Yn wir, nes bo cyfeiriad at ddangosiad yn y sinema leol o Crocodile Dundee (1986) mae'n anodd gwybod yn iawn pryd y gosodir y ffilm gan y gallai'r dillad a'r dodrefn retro-chic sydd i'w gweld trwy gydol y ffilm berthyn i deulu cyffredin o ecsentrics o ddiwedd y Saithdegau hyd yn awr.
Nid cwyn ond canmoliaeth yw hynny gan fod manylion o'r fath yn gymorth mawr i hirhoedledd y ffilm. Wedi'r cyfan, welsoch chi erioed gynhyrchiad â dau gariad yn edrych cystal mewn cotiau Duffel- gyda'r naill yn dwyn Paddington Bear i gôf a'r llall gorrach Don't Look Now.
Ymestyn y gorwelion
Yr hyn sy'n wych am y ffilm, sy'n amlwg wedi'i lleoli yn Abertawe, yw na wneir gormod â'r cysylltiad Cymreig gan ehangu'i gorwelion i gynulleidfaoedd yn Albequerque ac Abu Dhabi yn ogystal ag Odeon SA1.
Oes, mae na lwyth o olygfeydd ger Parc Singleton a Gŵyr - yn ogystal ag ambell gornel o'r Barri a Chaerdydd - ac acenion cerddorol galôr ond o bosib i osgoi yr un ffawd a'r "clasur cwlt" Twin Town (1997) caiff acenion eraill eu cynnwys megis yr Awstraliad o Dad a Saesnes o fam.
A diolch i waith camera Erik Wilson, caiff harddwch amgen y ddinas arfordirol ei gofnodi'n gelfydd fel dihangfa drawiadol i'r gwrth-arwr swrth.
Bymtheng mlynedd ar ôl i Abertawe gael ei hanfarwoli'n "Pretty Shitty City" gan Kevin Allen a'r criw mae Joe Dunthorne a Richard Oyade wedi llwyddo i leoli ffilm ffraeth ag iddi stori fydysolam artaith hardd yr arddegau, yn un o drefi brafia'r byd.