![]()
- Y Sêr: Gruff Rhys, René Griffiths, Osian Hughes, Alejandro a Leonardo Jones, Dewi Prysor, Lisa Jên, Kerrdd Dant , ymhlith eraill
- Cyfarwyddo: Dylan Goch.
- Sgrifennu: Gruff Rhys.
- Hyd: 84 munud
Gwefreiddio cynulleidfa
Adolygiad Lowri Haf Cooke.
Uchafbwynt Gŵyl Ryngwladol Soundtrack 2009 i mi yn sicr oedd gweld y cynhyrchiad Separado! gan y cerddor Gruff Rhys ar y cyd â'r cyfarwyddwr Dylan "Goch" Jones.
Yn wir, awn mor bell â'i disgrifio fel ffilm Gymreig orau'r unfed ganrif ar hugain hyd yn hyn!
Mae'r cynhyrchiad hirddisgwyliedig hwn ar y berw ers pum mlynedd bellach - yn ganlyniad i ddegawd o gynllunio a chyllidebu, ac yn cynrychioli llafur cariad go iawn i'r ddau auteur a'u cynhyrchydd Catryn Ramasut.
Braf yw cael adrodd, yn gwbl ddiffuant, i gynulleidfa gorlawn Cineworld Caerdydd gael ei gwefreiddio'n llwyr gan weledigaeth y triawd.
Cafodd Separado! ei disgrifio yn y Guardian, wythnos cyn ei phremière, fel "magical realist road movie" ac, yn wir, er mor briodol yw'r tag-line twt honno, mae'r ffilm yn cynnig cymaint mwy i'r gwyliwr na hynny.
Yn un peth, mae'n gydymaith dogfennol i daith albwm Candylion Gruff Rhys yn Ne America yn 2006.
Mae hi hefyd yn cynnig clytwaith o arddulliau ffilm yn amrywio o'r Spaghetti Western i antur bicaresg - ac yn cyflwyno stori sy'n pontio dau gyfandir gan gyfuno hanes cymdeithasol a helfa deuluol ddifyr tu hwnt.
Darganfod perthynas
Sylfaen y stori ydy ymgais Gruff Rhys i ddarganfod perthynas pell, y cerddor carismataidd a'r gaucho Cymraeg René Griffiths o Batagonia
Ond gydol y daith lythrennol hon fe gaiff ef - a ninnau - agoriad llygaid wrth brofi ochr wahanol iawn i'r hanes arferol am Y Wladfa a'i phobol.
Rhaid cyfaddef imi wingo'n wreiddiol o ddeall mai ffilm arall am Batagonia oedd hon. Wedi'r cyfan, onid yw'r lle'n haeddu llonydd 'rôl cael ei rheibio'n weledol - ac yn glywedol - dros y tair blynedd diwethaf gan bawb o Matthew Rhys i Bryn Fôn, Eiry Palfrey, Beti George ac Aled Sam?
Serch hynny, yr eiliad imi glywed yr awdur - mewn troad cyfrwys o ôl foderniaeth - yn cyfeirio yn ystod y ffilm at obsesiwn y cyfryngau Cymraeg â Phatagonia fel gang-bang ddiwyllianol, cefais fy hun yn maddau iddo am ymuno â'r fintai fodern am iddo - yn sylfaenol- gynnig y cyflwyniad gorau eto i awen ddiflino'r Wladfa.
Synhwurus a swreal
Heb ddatgelu gormod am stori'r ffilm gymharol fer hon, caiff Gruff ei arwain ar hyd ei daith synhwyrus o swreal gan amrywiaeth o gymeriadau yn cynnwys cast rhyngwladol o berthnasau, haneswyr, cowbois cerddorol, dawnswyr creadigol, gofodwr seicadelig a hyd yn oed canwr protest o Frasil wnaeth ddyfeisio offeryn o'r enw'r Gatorra.
Yn naturiol, mae i'r ffilm drac sain sy'n cynrychioli tafell drwchus o'r cynhyrchiad amlhaenog yma ac yn cynnwys nid yn unig gyfraniadau o albyms Candylion ac Yr Atal Genhedlaeth ond darnau adleisiol o gerddoriaeth René Griffiths ei hun, yn ogystal â'r gaucho Cymraeg gwreiddiol, Osian Hughes, a'r "Everly Brothers Cymraeg", Alejandro a Leonardo Jones - darganfyddiadau'r cynhyrchiad, heb os nac oni bai.
Mae'n braf iawn gweld cerddor mor flaenllaw â Gruff Rhys yn cynnig llwyfan i gymaint o berfformwyr eraill ac yn hynny o beth mae'n gwrthbrofi'r amheuaeth mai vanity project yn unig yw Separado!
Cwbl drydanol
Llwydda'r cyfarwyddwr, Dyl Goch, sy'n gyfarwydd i nifer fel un o feistri'r fideo pop Cymraeg ac a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad dogfen American Sasquatch, a ryddhawyd i gyd-fynd â thaith albwm Songbook y Super Furry Animals yn 2005, i gyflwyno mynegiant gweledol cwbwl drydanol i gerddoriaeth Gruff Rhys trwy gyfosod delweddau difyr gyda lliwiau llachar yr wybren a'r paith.
Yn wir, plethir sawl "cynhyrchiad cerddorol" o fewn y ffilm ac un o'r pytiau mwyaf trawiadol yw'r "fideo pop" o fath a gyflwynir i'r gân Ni yw y Byd, pan rennir y sgrin yn ddwsinau o sgwariau bychain yn efelychu patrymau'r Poncho traddodiadol.
Mae'r gwaith graffeg hefyd yn ychwanegu haen sylweddol o sglein i'r cyfan, ac mae'r credydau agoriadol ymhlith y mwyaf hwyliog i mi eu gweld erioed ac yn cyfathrebu o fewn ychydig eiliadau wir ysbryd y cynhyrchiad.
Ond serch yr holl enghreifftiau o glyfrwch gweledol a chyfaredd cerddorol mae i'r cynhyrchiad ymwybyddiaeth wleidyddol iawn gan godi cwestiynau diddorol am le y Cymry yn hanes cythryblus yr Ariannin yn ystod y ganrif a hanner ddiwethaf.
Doedd gen i, er enghraifft, ddim syniad fod yr enw Trelew yn cyfleu delwedd dywyllach o lawer i'r Archentwyr nag i'n canfyddiad kitsch ni o ddinas o dai tê hen ffasiwn, a strydoedd ag iddynt enwau Cymreig.
Ym Mrasil
Cyffyrddir hefyd a'r ymdrech ofer i sefydlu gwladfa gynharach ym Mrasil a chawn gwrdd ag Archentwyr Cymreig o bob oed ar y daith i ganfod René Griffiths, wrth i Gruff leoli cyngherddau taith Candylion mewn mannau mor amrywiol ag ysgol feithrin, canolfan gymunedol ac un o guddfannau olaf Butch Casidy a'r Sundance Kid.
Mae ymateb rhai aelodau o'r gynulleidfa- gan gynnwys un ceffyl cwbl ddi-hid - i berfformiadau anarferol Gruff Rhys werth eu gweld.
Yn ogystal, mae cyflwyno aelodau cangen arall o goeden deulu Gruff Rhys nid yn unig yn fodd o gyfosod dwy ymgyrch ieithyddol y Gymraeg ond yn ffordd o barhau â'r daith derfynol i ddarganfod y cowboi cerddorol colledig.
I ni Gymry Cymraeg, sydd efallai'n gyfarwydd â'r eicon hwn - yn gyfarwydd iawn o bosib, yn achos dinasyddion Caerdydd - mae rhan yma'r daith yn adlewyrchu'r hyn y cyfeiria Gruff ato ar ddechrau'r ffilm, sef bod i bob teulu rhyw chwedloniaeth amwys, a dyna yn sicr a geir yn y fan hon.
Heb sbwylio'r syrpreis, mae'n bosib y bydd rhai'n teimlo iddynt gael eu cafflo'n llwyr gan y diweddglo digri. Fy nghyngor i felly yw ichi ystyried ddisgrifiad arall gan Gruff Rhys o'r ffilm - a leisiwyd yn ystod y sesiwn holi ac ateb yn dilyn y dangosiad cynta yng Ngŵyl Soundtrack - sef ei bod yn "ffug-ddogfen sy'n hollol wir".
Rhywbeth i bawb
Heb swnio'n ystrydebol mae'r cynhyrchiad tairieithog hwn yn cynnig rhywbeth i bawb.
Yn sicr, byddai'n ddiddorol clywed beth fydd yr ymateb di-Gymraeg wrth iddi gael ei dangos ar gylchdaith y gwyliau ffilm rhyngwladol - ond yn fy marn i mae hi hefyd yn cynnig rhywbeth newydd i ni'r Cymry Cymraeg sydd wedi blino braidd ar yr holl gynyrchiadau diweddar am Batagonia.
Gwyliwch allan am Separado! yn y flwyddyn newydd gan mai'r gobaith yw mynd â hi ar daith drwy Gymru yn 2010.
Chewch chi mo'ch siomi.