04 Mawrth 2012
Adolygiad Lowri Haf Cooke o Hunky Dory, ffilm am blant ysgol ym Mhorth Talbot
- Y Sêr: Minnie Driver, Aneurin Barnard, Robert Pugh, Danielle Branch, Tomos Harries, Owen Teale, Aled Pugh. .
- Cyfarwyddo: Marc Evans.
- Sgrifennu: Laurence Coriat.
- Hyd: 109 munud
Graffiti Cymreig
Adolygiad Lowri Haf Cooke
'Nol yn y Saithdegau, cyfarwyddodd George Lucas glasur o ffilm ac iddi drac sain trydanol a pherfformiad cynnar gan Harrisson Ford , a greodd argraff nid yn unig ar ei reolwr banc, ond ar gynulleidfaoedd ledled y byd.
Nid Star Wars ond American Graffiti, awdl i Americana a dalodd deyrnged i ieuenctid coll y Chwedegau cynnar yng nghwmni criw o ddisgyblion ysgol ym Modesto, Califfornia, oedd ar fin ffarwelio â'u plentyndod am byth.
Bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, cyflawnodd y Cymro Marc Evans gamp debyg wrth fynd ati i lunio cynhyrchiad cyffelyb a osodwyd yn Ne Cymru yn ystod Ha' Poeth'76.
Y mae'r ffilm hon, Hunky Dory, yn ffilm fach hyfryd a hiraethus sy'n lwyddo i gipio yn hud a hormons y cyfnod euraidd a byrhoedlog hwnnw cyn gadael ysgol i herio'r byd.
Mae'r cynhyrchiad yn dilyn dyrnaid o ddisgyblion a'u hathrawes ddrama, wrth iddynt baratoi ar gyfer cynhyrchiad ola'r flwyddyn o The Tempest a ddisgrifir fel "Shakespeareian concept prog-rock opera" diolch i'r defnydd o anthemau gan arwyr y cyfnod; Bowie, Nick Drake, ELO a 10CC yn eu plith.
Ym Mhort Talbot
Caiff y ffilm ei gosod ym Mhort Talbot ac, yn wahanol i nifer o ffilmiau sy'n canolbwyntio ar yr un cyfnod, cynigir dathliad deniadol o'r dre ddiwydiannol yn ystod haf hirfelyn tesog 1976.
Un o chwedlau mwyaf y byd ffilm cyfoes yw i'r cyfarwyddwr Ridley Scott gael ei ysbrydoli i lunio dinas ddystopaidd BladeRunner wrth basio gweithfeydd dur Port Talbot ar ei ffordd adre fin nos o Iwerddon ar hyd yr M4.
Pe bai e wedi gwylio'r ffilm hon cyn llunio'i addasiad o nofel Philip K Dick, mae'n debyg y byddai'r ffilm honno wedi gorffen gyda Rutger Hauer a Harrisson Ford yn dadlau dros lilo leimwyrdd mewn lido gan yngan y geiriau dirdynnol "time to lie", yn hytrach na "time to die".
Yn arwain y ffilm y mae'r Saesnes Minnie Driver, a argyhoeddodd yn llwyr fel Gwyddeles ifanc yn Circle of Friends ym 1995 ac sydd yma yn cynnig perfformiad angerddol fel Vivienne May, yr athrawes ddrama frwdfrydig ag iddi gyfres o ffrogiau blodeuog ac acen Mwmbwls sy'n go agos ati.
Ymysg ei disgyblion y mae Davey (Aneurin Barnard) Stella (Danielle Branch) Kenny (Darren Evans) ac Evan (Tomos Harries); oll a'u problemau eu hunain.
Y mae Davey ar goll diolch i'w fam afradlon, ac mewn cariad â'r Stella oriog a phrydferth. Mae Evan annwyl yn dechrau deall mai bechgyn, nid merched, sy'n mynd â'i fryd, a Kenny druan dan fawd ei bync o frawd.
Yn denu sylw pawb, gan gynnwys y staff sinigaidd a'r prifathro parchus (a chwaraeir gan Robert Pugh) y mae'r cynhyrchiad amatur ond uchelgeisiol o ramant tymhestlog William Shakespeare, The Tempest, a gaiff eid diweddaru gan drefniannau cyfoes cerddorfa'r ysgol.
Ond pan ddaw trychineb i darfu ar y ddrama, oes na obaith i'r sioe fynd yn ei flaen?
Bron yn berffaith
Mae Hunky Dory yn ffilm sydd bron yn berffaith. Y mae'r sgript, gan Laurence Coriat (a oedd hefyd yn gyfrifol am sgwennu Patagonia) yn arbennig o naturiolaidd ac yn cadw cydbwysedd credadwy rhwng yr elfennau digri a difrifol sy'n llenwi digwyddiadau bob dydd.
Caiff bron pob ffrâm ei chofnodi fel darn o gelf, ac mae clywed y plant yn canu'n naturiol yn newid braf o arddull dros ben llestri cyfres glossy fel Glee.
O ran ei gwendidau, y mae hi'n llusgo am gyfnodau sylweddol, a hynny am iddi ganolbwyntio ar gymaint o gymeriadau, heb roi digon o gnawd ar esgyrn ambell un.
Ymysg y cymeriadau lleiaf datblygedig, yn fy marn i, y mae rhan yr athrawes ei hun, a gyflwynir i ni fel cyn actores a gollodd ei thad. Cawn ormod o lawer o olygfeydd ohoni'n taro'i thambwrîn gyda'r plant a dim digon yng nghwmni'r athro sy'n rhannu tŷ â hi, a chwareir gan Aled Pugh; yma'n cynnig fersiwn arall o'i Ryan rhagorol.
Y disgyblion yw'r sêr
Ond i fod yn deg â'r ffilm, y disgyblion yw'r sêr.
Y mae Aneurin Barnard - a welwyd ddwetha yn y ffilm antur gyntaf Valleywood, Ironclad - yn darbwyllo'n llwyr fel Davey, ac mae'r golygfeydd bychain rhyngddo ef, ei Dad (Owen Teale), a'i frawd Angus, yn ingol o annwyl.
Ond rhaid hefyd canmol dau Gymro Cymraeg arall, yma'n chwarae eu rhannau cynta mewn ffilm o'r fath. Y mae Danielle Branch yn syfrdanol fel Stella y seiren - merch ysgol sy'n torri calon pob dyn sy'n mopio'u pennau'n lân â hi, tra bo Tomos Harries, a greodd argraff yng nghynhyrchiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o The Merchant of Venice ym mis Ionawr, yn dorcalonnus o dda. Cofiwch yr enw, mae ganddo ddyfodol disglair o'i flaen!
Yn wir, rhaid cymeradwyo'r cast cyfan o actorion ifainc am gynnal yr hwyl trwy gydol y ffilm. Byddai'n wych medru dilyn y criw cyfan mewn cyfres deledu boblogaidd , ond fel yn achos American Graffiti, ceir coda dirdynnol sy'n rhannu ffawd pob un gyda ni.
Rhaid cyfadde i'r elfen annisgwyl honno fy nghyffwrdd i'r byw, a'm hatgoffa innau o gyfnod go arbennig na chaf eto 'nôl, gan sicrhau gofod i Hunky Dory yn fy nghof am byth.