Robin Hood - Russell Crowe

Russell Crowe fel Robin Hood

18 Mai 2010

12 Pedair seren allan o bump

  • Y Sêr: Russell Crowe, Cate Blanchett, Max Von Sydow, Mark Strong, William Hurt, Danny Huston, Oscar Isaac, EileenAtkins, Matthew Macfadyen, Mark Addy.
  • Cyfarwyddo: Ridley Scott.
  • Sgrifennu: Brian Helgeland.
  • Hyd: 140 munud

Ffilm tair ochenaid . . .

Adolygiad Lowri Haf Cooke

  • Gellir gwrando ar Lowri yn sgwrsio am y ffilm gyda Howell Price, Llywydd Cymdeithas Cymry Nottingham, ar 'Raglen Nia Roberts' ddydd Iau Mai 13 2010, trwy glicio ar y blwch llwyd.
    Yn athro yn Nottingham daw Howell o'r Trap ger Llandeilo yn wreiddiol.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Boed Errol Flynn neu Sean Connery , mae i bob cenhedlaeth ei Robin Hood eiconig.

Roeddwn i'n dair ar ddeg oed pan welais i Robin Hood: Prince of Thieves yn y Monico Rhiwbeina ac fe greodd gymaint o argraff arna nes i mi fynd i'w gweld ddwywaith wedyn!

Diolch yn bennaf i acen Americanaidd a mullet chwerthinllyd Kevin Costner, mae i'r ffilm honno statws go gawslyd erbyn hyn ond mae hi'n dal i gydio hyd heddiw, diolch i drac sain trawiadol, stori ddifyr a pherfformiadau cofiadwy gan gynnwys portread pantomeimaidd Alan Rickman o Sheriff Nottingham.

Yn betrusgar

Os ydw i'n gwbl onest, ro'n i'n reit betrusgar wrth fynd i weld fersiwn newydd Ridley Scott o Robin Hood, gan ofni na fyddwn i'n mwynhau cymaint ag â wnes pan oeddwn i'n laslances llawn hormôns.

Ond dwi'n falch iawn medru dweud ei bod hi'n ffilm gwbl ffantastig ac iddi fy ngadael yn gegrwth mewn rhyfeddod a phleser, drwyddi draw!

Mae'n wir fod na themâu a chymeriadau cyffredin ym mhob un ffilm am Robin Hood, ond tra dewisodd y rhan fwyaf ohonynt ddilyn anturiaethau'r dihiryn honedig wrth iddo osgoi cynddaredd y Sheriff yng Nghoedwig Sherwood, mae'r fersiwn ddiweddara hon yn archwilio cefndir y stori gan ddatguddio'r dyn y tu ôl i'r cymeriad chwedlonol.

Robin Longstride (Rusell Crowe), felly, yw arwr y ffilm hon; saethwr dewr ym myddin brenin Rhisiart y Cyntaf (Danny Huston), sy'n brwydro yn Ffrainc yn ystod Croesgadau'r Ddeuddegfed Ganrif.

Pan gaiff y Brenin ei ladd ar faes y gad rhaid i'w lefftenant ffyddlon, Syr Robert Loxley o Nottingham, ddychwelyd â'r Goron i Loegr er mwyn sicrhau'r olyniaeth a'i chyflwyno i'r Tywysog John (Oscar Isaac).

Ond pan gaiff yntau ei lofruddio gan Syr Godfrey (Mark Strong) - ffrind penna' John, ac asiant twyllodrus i'r Ffrancwyr - penderfyna'r unig dyst, Robin, deithio i Lundain i gwblhau gorchwyl Syr Robert ac yna ymlaen i Nottingham er mwyn dychwelyd cleddyf y teulu i'w dad, Walter Loxley (Max Von Sydow).

Gweddw brydferth

Ar gyrraedd Nottingham, cyfarfu Robin â gweddw brydferth Loxley, sef Marion (Cate Blanchett) - dynes gref a frwydrodd yn galed i gadw pawb i fynd yn absenoldeb ei gŵr - a chaiff ei berswadio gan y Walter oedrannus i ddynwared ei fab, er mwyn gwarchod tir y teulu rhag trethdalwyr milain y Brenin, sy' mewn dyled ddifrifol diolch i'r brwydro parhaus.

Yna, pan glyw'r Brenin John am frâd Syr Godfrey, rhaid i Robin - dan gochl Loxley - ddod ag arglwyddi eraill y gogledd ynghyd i uno mewn gwrthryfel ac amddiffyn arfordir de Lloegr yn erbyn y Ffrancwyr.

Ond a yw hi'n rhy hwyr i'n harwr faeddu'r gelyn a dychwelyd i freichiau'r forwyn deg?

Wnâi ddim meiddio datgelu rhagor, dim ond cadarnhau fod yr antur a'r cyffro yn cynyddu ar hyd y ffilm gan ein harwain at un o'r golygfeydd rhyfel mwyaf yn hanes y sinema - golygfa estynedig a ffilmiwyd ar draeth gogoneddus Freshwater yn ne Sir Benfro.

Cawn ein hatgoffa'n gyson mai cyfarwyddwr Gladiator sydd wrth y llyw, diolch i gyfres o ecstrafagansas gweledol ac er nad ydy hi cweit gystal â'r epig Rufeinig, mae perfformiad Russell Crowe yr un mor angerddol a'i bortread o Maximus yn y cynhyrchiad hwnnw.

Yr acenion

Os oes gwendid, wel yr un hen gân yw honno, yr acenion amrywiol eu safon a bu digon o drafod ar hynny y dyddiau diwethaf 'ma.

Penderfynodd Russell Crowe feistroli'r acen leol er mwyn cyflwyno Robin mwy credadwy ond er iddo ymdrechu'n galed mae gen i ofn iddo lanio'n nes at Newcastle na Nottingham.

Cafodd Cate Blanchett well hwyl ac mae hi'n haeddu marciau llawn am gyflwyno Marion fel arwres eofn sy'n ddigon abl i ofalu amdani'i hun ond sy'n ddigon craff i fachu pishyn mwya'r Oesoedd Canol hefyd!

Roedd hi'n ffantastig cael gweld antur fel hon mewn awditoriwm gorlawn ac mae'n werth nodi imi glywed tair ochenaid dorfol; y gyntaf mewn rhyfeddod pur wrth brofi'r olygfa ysblennydd o draeth Freshwater; yr ail mewn dryswch pur, o ddeall mai Cymro yw'r cymeriad Will Scarlett y tro hwn - er i'r actor Scott Grimes ddefnyddio acen Wyddelig drwyddi draw; a'r trydydd mewn llesmair pur wrth i Robin gyhoeddi'i deimladau cryfion wrth Marion!

Y cwestiwn mawr, wrth gwrs, ydy; a yw'r cynhyrchiad - fel Robin Hood: Prince of Thieves gynt - yn haeddu ail neu drydydd ymweliad? Ydy, yn ddi-os. Welai chi wrth y stondin Pick 'n Mix!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Cyfrannu

Anfonwch eich sylwadau, lluniau a gwybodaeth i 'Cylchgrawn'

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.