bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Kong Kong
ac Aslan


Gweld llais a chlywed llun neges y ffilmiau

Sylwadau wythnosol Aled Edwards

Rhagfyr 18, 2005

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Gan fod pethau wedi llacio rhywfaint ym myd gwleidyddiaeth Cymru'r wythnos hon cefais gyfle i fwynhau seibiant bach a d wy ffilm newydd.

Fe ddygodd y ddwy ffilm fi'n ôl i ddyddiau plentyndod pryd yr oeddwn, yng ngeiriau cofiadwy Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd Yr Afon, yn meddu ar dalent plentyn 'i weld llais a chlywed llun'.

King Kong
Un o'r ffilmiau cyntaf i godi ofn arnai oedd King Kong.

Hynny yw, y ffilm wreiddiol a gyhoeddwyd yn 1933, dros ugain mlynedd cyn i mi gael fy ngeni.

Yr oedd y ffilm honno'n glasur gwirioneddol.

Fe ddygodd ofn a braw i sawl sinema a theledu du a gwyn yng nghartrefi gogledd Cymru.

Y mae'n rhaid canmol Peter Jackson am ei waith technegol campus.

Drwy gyfrwng sepia tone llwyddir i ddwyn byd a aeth heibio i'r llygad a'r glust gyfoes.

Y mae pob munud o'r ffilm newydd yn wledd glywedol. Ar ben hyn, cafwyd perfformiadau cryfion gan y ddau brif actor, Adrien Brody a Naomi Watts.

Er tegwch, y mae'r King Kong diweddaraf yn ystyried themâu dyfnach na bwystfil yn rhamantu pum troedfedd ar hugain uwchben Naomi Watts druan sy'n cael sawl ysgwydiad a fyddai'n codi poen pen arnaf i.

Hyd y gwelaf, nid yw ein byd cyfoes yn trin natur a'i ryfeddod yn well na'r rheibio amrwd sy'n cynnig llwyfan mor gryf i'r King Kong gwreiddiol.

Mae'r un themâu yno yn ffilm Peter Jackson ond mae'r gwaith yn llawer rhy hir.

Er cywilydd imi, dwi'n siwr imi gysgu rhywfaint wrth i'r criw deithio o Efrog Newydd i'r ynys anghysbell sy'n gartref i Kong druan.

The Chronicles o Narnia
Gan taw ar aelwyd uniaith Gymraeg y cefais i fy magu, braidd yn hwyr yn y dydd y clywais i gyntaf am waith C.S. Lewis.

Yn wir, cyfeillion Saesneg o argyhoeddiad Cristnogol ym Mhrifysgol Llambed a'm cyflwynodd i'r llyfryn bychan hwnnw The Lion , the Witch and theWardrobe.

Y mae blas Seisnig amlwg cyfnod arbennig yn treiddio drwy waith C.S. Lewis gan ddwyn i gof cyfnod yr efaciwis druan a ddaeth yn eu miloedd i ardaloedd gwledig.

Gwyddom erbyn hyn nad profiad diniwed oedd y cyfan i sawl un ohonyn nhw. Wedi dweud hyn, arbedwyd llawer rhag bomio Adolf Hitler.

Cafwyd ffilmio da o law gywrain Andrew Adamson yn The Chronicles of Narnia fel ag yn King Kong.

Cafwyd perfformiadau da hefyd gan yr actorion ifanc sy'n portreadu pedwar plentyn y teulu Pevensie sy'n disgyn o dan ofal cariadus yr Athro Digory Kirke sy'n cael ei actio'n annwyl iawn gan Jim Broadbent.

Aslan yn ennill
Geiriau un o gymeriadau King Kong sy'n egluro i mi pam y mae'r trafod sy'n gorwedd o dan wyneb y ddwy ffilm yn per i The Chronicles of Narnia ddod i'r brig yn fy ngolwg i.

Aslan y LlewPan nad oeddwn yn cysgu wrth deithio o Efrog Newydd i'r ynys anghysbell sy'n gartref i King Kong, dywedwyd y gallai actorion Hollywood deithio'r byd a gweld dim ond drych.

Crisialu delweddau'r ffilm wreiddiol megis mewn drych y mae campwaith Peter Jackson ond nid yw'n llwyddo i dreiddio'n ddyfnach na hynny.

I mi, y mae campwaith C.S. Lewis yn cynnig dehongliad oesol o'r hyn a wnaeth Crist dros ddynolryw. Y mae rhyddid wrth gwrs i eraill weld rhinweddau llawer symlach yn aberth Aslan ar faen llog Narnia.

Fe wnaeth King Kong imi glywed a gweld: fe wnaeth The Chronicles of Narnia imi feddwl.

Yn fwy na hynny, fe barodd imi gredu drachefn ym Mab y Dyn a ddaeth i fyw i'n plith y Nadolig cyntaf un.

Y mae rhyfeddod o'r fath y tu hwnt i ddawn aruthrol sepia tone i greu lliw a llun.

King Kong - gwefan ffilm
The Chronicles of Narnia - gwefan ffilm


  • I ddarllen detholiad o Sgyrsiau Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
    Cliciwch


    Ebostiwch ymateb




    Wythnosau Blaenorol:


  • Chwiliwch
    Chwiliwch
    Chwiliwch
    Chwiliwch
    Cyfoes
    Cofio gof gwlad
    Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

    John RobertsAr drywydd John Roberts
    Dyn sy'n dipyn o sant


    Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


    Cofio Gwenynen Gwent
    Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

    Wythnos o Feddwl
    Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
    Wythnos o Feddwl



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy