
 |
 |
Codi
llais
'Dweud rhywbeth o bwys yn ystod dyddiau dyrys yn yr Eglwys |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Medi 25, 2005
Helynt Zimbabwe
Cefais gyfle'r wythnos hon i wneud rhywbeth nad oeddwn wedi ei wneud
o'r blaen.
Daeth cyfle i eilio cynnig ar lawr Corff Llywodraethol yr Eglwys yng
Nghymru.
Mewn cyfarfod a ddeliodd yn bennaf a materion domestig, gwelodd Penny
Henderson yn dda i gynnig dadl a oedd yn ymwneud â'r byd.
Diolch i Dduw am hynny. Fel arall, fe fyddai'r Eglwys yng Nghymru
wedi dod ynghyd i drafod manylion bychain bywyd eglwys sy'n prysur
ddiflannu o'r tir.
Dengys ystadegau diweddaraf yr Eglwys yng Nghymru leihad ym mhob maes:
Bedyddio, conffyrmasiwn ac addolwyr dros y Nadolig a'r Pasg.
Cafwyd cynnydd bychan dros y Sulgwyn ond tybiaf taw troeon diddorol
y calendr a'r tywydd oedd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd hwn.
Y gwirionedd syml yw hyn:
Ymhlith addolwyr dros 18 oed sy'n mynychu'r eglwys o Sul i Sul cafwyd
lleihad o 3% dros flwyddyn.
Edrych allan
Yn benodol, rhoddwyd cyfle i'r Eglwys yng Nghymru ofyn i'w phlwyfi
weddïo dros Zimbabwe, cefnogi datganiadau llu o gyrff eglwysig ynghylch
ymddygiad Robert Mugabe ac Esgob Kunonga o Harare a gofyn ar wledydd
eraill Affrica i dderbyn eu cyfrifoldeb.
Rhoddwyd
cyfle i'r Corff Llywodraethol fynegi cefnogaeth yr Eglwys yng Nghymru
i'r gymuned a fu'n byw yn Zimbabwe ond sydd bellach wedi ei lleoli
yng Nghymru. Yn rhyfeddol o'n safbwynt i, rhoddwyd cefnogaeth unfrydol
y Corff i'r cynnig.
Identiti cenedlaethol
Yn y Corff Llywodraethol, mae'r acenion yn gallu bod yn hynod o estron.
Ond, caf y teimlad bod y bobl yn dda.
O dan wyneb delfrydau allanol y byddai dyn yn ei gysylltu â'r hen
blaid Geidwadol yn gweddïo, ceir bobl sy'n cynnal egwyddor.
Wedi'r holl drafod sych, rhaid cofio taw casgliad o Gristnogion yw
cynadledda eglwysig.
Efallai taw'r her bennaf i gorff fel yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi
ei hamddifad o hen freintiau Eglwys Loegr yng Nghymru yw canfod lle
newydd iddi hi ei hun yng nghyswllt cenedl sy'n brysur newid.
Carwn ei herio i ddiffinio cenedligrwydd mewn ffordd newydd.
I mi, prif nodwedd y genedl Gymreig heddiw yw'r modd y mae pobl yn
trin ei gilydd.
Efallai bod parodrwydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru i
sefyll yn gyfochrog a ffoaduriaid Zimbabwe yn awgrymu, er gwaethaf
yr holl acenion estron, bod fy eglwys yn symud i'r un argyhoeddiad.
Ni allaf ond gobeithio - a gweddïo.
I ddarllen detholiad o Sgyrsiau Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
Cliciwch
Ebostiwch ymateb
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|