
 |
 |
Helynt
hawliau
Eiriol dros y bregus |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Gorffennaf 24, 2005
Dros
y dyddiau diwethaf hyn fe ddaeth tymor gwleidyddol arall i ben ym
Mae Caerdydd ac yn San Steffan.
Yma yng Nghymru, mae'r Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol
yn cynnig cyfleon da i wleidydda barhau.
Er mawr ofid, fe fydd y trychinebau a gafwyd yn Llundain yn gofalu
y bydd yn rhaid i Tony Blair a'i gydwleidyddion yn San Steffan barhau
i wleidydda dros derfysgaeth.
Gallai cyfres o ddigwyddiadau erchyll beri i'r Llywodraeth orfod galw
ar y Senedd i eistedd yn ystod gwyliau'r haf.
Fe all pethau felly ddigwydd mewn rhyfel. Mae blas erchyll marw a
rhyfel eisoes yn y gwynt.
Cymru ac eraill
Byddaf i yn gweld gwleidyddiaeth drwy lygaid Cymro Cymraeg sydd hefyd
yn llwyr ymroddedig i gyfrifoldebau rhyngwladol a iawnderau dynol.
O weithio o ddydd i ddydd gydag eraill sy'n arddel yr un math o argyhoeddiad
mewn meysydd amrywiol fel hil, rhywioldeb, anabledd a'r iaith Gymraeg,
gallaf dystio i ddynamig newydd godi yng Nghymru ers dyfodiad datganoli
ynghylch cydraddoldeb a iawnderau dynol.
Y model Cymreig
Gosodwyd pwyslais newydd yng Nghymru ar ddwyn cylchoedd a rhwydweithiau
diddordebau at ei gilydd er mwyn eiriol yn well ar ran unigolion a
grwpiau bregus a difreintiedig.
Credaf i ethos Llundain aros yn sylfaenol yn yr un fan.
Dro ar ôl tro, gwelir creu cyrff sy'n addysgu, yn ymchwilio ac yn
anfon adroddiadau glosi at wleidyddion.
Yn hyn o beth, ceir gwahaniaeth dybryd rhwng y model newydd Cymreig
sy'n gosod pwyslais iach ar eiriol yn uniongyrchol ar ran unigolion
a'r ffatrïoedd polisi hynny sy'n cael eu cynhyrchu gan ddiwylliant
San Steffan.
Cafwyd enghraifft glasurol o hyn dros flwyddyn yn ôl yng nghwyno bachog
ond dwl Margaret Hodge, Gweinidog Plant Sant Steffan, ynghylch diffyg
adroddiadau honedig Comisiynydd Plant Cymru.
O ddweud ei dweud nid oedd yn deall taw diogelu plant oedd ei waith
nid cynhyrchu adroddiadau.
Gogwydd peryglus
Profiad hynod o drist i mi'r wythnos hon oedd gwrando ar drafodaethau
llu o gymdeithasau Cymreig sy'n ymwneud â chydraddoldeb a iawnderau
dynol yn trafod Mesur Cydraddoldeb presennol y Llywodraeth.
Bwriedir sefydlu un Comisiwn yn y Deyrnas Gyfunol i hyrwyddo holl
elfennau cymysg cydraddoldeb a iawnderau dynol.
Er tegwch, cafwyd parodrwydd ar ran y grymoedd San Steffanaidd, er
yn hwyr yn y dydd braidd, i ganiatáu i'r Cynulliad osod sêl ei fendith
ar y sawl a benodir yn Gomisiynydd â gwybodaeth arbennig o ofynion
Cymru.
Yn
gwbl, gwbl, ryfeddol bwriedir rhoddi'r cyfrifoldeb o ddewis y Pwyllgor
Cymreig yn nwylo'r Comisiwn Prydeinig.
Unigolion o eiddo diwylliant a gogwydd diwylliannol y Deyrnas Gyfunol
dwi'n ofni fydd yn dewis pwy fydd yn diogelu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb
a iawnderau dynol yng Nghymru.
O ddirnad agenda radical Llywodraeth y Cynulliad a'r cyrff dinesig
a gwirfoddol hynny sy'n gwasanaethu cymunedau bregus Cymru, y mae'r
hyn a gyhoeddwyd yn y Mesur hyd yma yn amlygu gogwydd peryglus.
Ar hyn o bryd, ni fwriedir hyd yn oed rhoi rhwydd hynt i'r Pwyllgor
Cymreig hwn i ganiatáu grantiau i gyrff eraill a allai hyrwyddo gwaith
y Comisiwn.
Lleolir yr hawl yn Llundain.
Hawliau siaradwyr y Gymraeg
O weld y Bwrdd Iaith yn diflannu a Phwyllgor Cymreig Llundeinig ei
anian yn trafod iawnderau dynol Cymru, pryderaf yn fawr, os na fyddwn
yn hynod ofalus, y gallwn ganfod ein hunain yn gorfod mynnu eto bod
angen siaradwyr Cymraeg ar gyfer cynnig rhai gwasanaethau allweddol
i gymunedau Cymraeg bregus - yn arbennig ymysg Cymry hynach, y gwael
a phlant bach.
Gobei thiaf yn fawr na fyddwn yn gorfod wynebu ton ddiwylliannol rymus
yn y tir a fydd efallai, yn wyneb gweithredoedd terfysgol, yn gosod
pwyslais cryf newydd ar un iaith, Saesneg, ar gyfer un genedl yn y
gwledydd hyn.
Y mae'r reddf honno eisoes yn gryf oddi fewn i Brydeindod newydd.
Parhad pryderon
Carwn feddwl fy mod yn codi bwganod dianghenraid.
Carwn
feddwl hefyd y bydd holl wleidyddion Cymru yn effro i'r peryglon wrth
drafod y Mesur Cydraddoldeb wedi toriad yr haf.
Gobeithiaf yn fawr, ond erys y pryderon.
Rhoddwyd addewid pendant ar lawr Ty'r Cyffredin beth amser yn ôl,
o enau neb llai na David Blunkett ei hun, y byddai modd i unigolyn
dyngu ei lw yn Gymraeg wrth ddod yn ddinesydd Prydeinig.
Hyd heddiw, i mi wybod, ond y geiriau Saesneg sy'n gyfreithlon. Gwyliwn
dros y gwyliau. Ceir newid yn y gwynt!
I ddarllen detholiad o Sgyrsiau Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
Cliciwch
Ebostiwch ymateb
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|