
 |
 |
Croeso
Caerdydd
Prif nodwedd cenedl yw ein hagwedd at y gwannaf yn ein plith |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Gorffennaf 03, 2005
Yn
hwyr nos Iau diwethaf daeth galwadau teleffon gan Radio Cymru a Radio
Wales ynghylch adroddiad o eiddo IPPR (Institute for Public Policy
Research) a fyddai'n cael ei gyhoeddi'r bore canlynol.
Byddai'n rhaid i mi godi'n gynnar, gwthio digon o Diet Coke
i lawr er mwyn deffro'r corff a'r meddwl, a phrysuro i gyfeiriad y
BBC yn Llandaf cyn brecwast.
Yr hyn a gafwyd mewn gwirionedd oedd adroddiad arall ar agweddau pobl
tuag at geiswyr lloches.
Byddai disgwyl i mi, yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid
Cymru, i gynnig sylw ar y radio ynghylch ymddygiad y wasg Seisnig
a'r cyfryngau torfol.
Ond, roedd yr adroddiad hwn yn wahanol.
Roedd yn dweud rhywbeth allweddol bwysig am Gymru ac agweddau pobl
ei phrifddinas chwe blynedd gyfan i mewn i'r broses ddatganoli.
Poeni am Brydeindod
Ar sail cynnal grwpiau ffocws gwerthfawr yn Birmingham, Camden, Norwich,
Weymouth a Chaerdydd datgelwyd gwirionedd gwerthfawr.
Cafwyd yr agweddau mwyaf deallus a chadarnhaol ynghylch ceiswyr lloches
yng Nghaerdydd.
Yn ôl Miranda Lewis o IPPR a oedd yn traethu'n dda y pen arall i'r
meic ar Good Morning Wales, cafwyd sawl rheswm am yr agweddau
cadarnhaol hyn.
Ceir yr ymdeimlad i ddechrau, o deimlo'n braf ynghylch byw yng Nghaerdydd.
Ni cheir yr ymdeimlad fod Prydeindod dan fygythiad.
Rhoddwyd canmoliaeth agored i'r cyfryngau Cymreig a'r Cynulliad Cenedlaethol
am eu gwaith da yng nghyswllt trafod ceiswyr lloches.
Yn ddiddorol iawn, hyd yn oed cyn llawenydd mawr ennill y Gamp Lawn,
roedd y Cymry a holwyd ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn teimlo'n hyderus
ynghylch bod yn Gymry.
Pryderon real
Wedi dweud hyn, fe gafwyd pryderon yng Nghaerdydd fel yn y dinasoedd
eraill. Nid yn annisgwyl efallai, y cyfoethog oedd yn gwybod fwyaf
am geiswyr lloches.
Y
tlodion a'r henoed oedd yn poeni fwyaf am fewnfudwyr gan fyw o dan
yr argraff bod adnoddau prin mewn meysydd allweddol yn cael ei defnyddio
gan rai nad oedd yn eu haeddu.
Unwaith eto, nid yn annisgwyl efallai, roedd pobl dduon eu croen ac
eraill o blith ein lleiafrifoedd ethnig yn gwybod mwy am geiswyr lloches.
Erys yr argyhoeddiad gan y mwyafrif, wedi dweud hyn i gyd, y dylai
Prydain ddiogelu ffoaduriaid dilys.
Atgof pell
Wrth drafod y cyfan yn ystod y dydd daeth atgof yn ôl i'r cof.
Dywedwyd yn ystod ymgyrch datganoli 1979 taw gwasanaethu buddiannau
Cymry Cymraeg fyddai un o brif nodweddion y broses ddatganoli ac y
byddai'n bwydo math arbennig o genedlaetholdeb.
Dywedwyd rhai pethau o'r un anian yn 1997.
Erys yr argyhoeddiad ar fy rhan bod yr iaith Gymraeg a hanes y genedl
Gymreig yn cynnig agweddau allweddol ar fy hunan ymwybyddiaeth fel
Cymro ond, i mi, prif nodwedd unrhyw genedl yw'r modd y byddwn yn
trin ein gilydd a'r gwannaf yn ein plith.
Ymddengys, diolch i Dduw, bod gan y Cymry ymwybyddiaeth llawer iachach
a chyfoes o'r hyn a ddylai fod yn brif nodwedd yr hyn sy'n creu cenedl
heddiw.
I ddarllen detholiad o Sgyrsiau Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
Cliciwch
Ebostiwch ymateb
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|