bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
16eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Michael Jackson Llun
y camera


Peth peryglus yw barnu eraill ar sail yr hyn a welir
ar deledu

Sylwadau wythnosol Aled Edwards

Mehefin 19, 2005

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Bu farw'r newyddiadurwr praff hwnnw, Malcolm Muggeridge, yn Nhachwedd 1990.
Go brin y byddai unrhyw un o dan ugain oed yn cofio ei enw, hyd yn oed.

Daeth un o'i sylwadau bachog yn ôl i'r cof nos Lun diwethaf wrth wrando ar y rheithgor yn achos Michael Jackson yn dyfarnu ei fod yn ddieuog.

Taranau yn erbyn teledu lliw ar raglen Michael Parkinson wnaeth Malcolm Muggeridge gan gwyno bod y cyfrwng newydd hwnnw yn fwy tebygol o roi'r argraff bod yr hyn y mae'r gwyliwr yn ei weld yn wir.

Gwyddai'r sawl a oedd yn gweld llun mewn du a gwyn taw llun ydoedd.

Gall y camera ddweud celwydd.
Gall y camera o ddatblygu o gynnig llun du a gwyn i gynnig lliwiau cyfarwydd gynyddu'r twyll ynghylch yr hyn a welir.

Cyfryngau cyfoes
Er mawr gywilydd i mi, gwelais yn dda i wylio dehongliadau lliwgar teledu Sky o'r achos yng Nghaliffornia bell.
Thomas Mesereau - cyfreithiwr JacksonByddaf wrth fy modd yn gweld cyfreithwyr wrth eu gwaith.

Teledu, wrth gwrs, ddechreuodd helynt ddiweddaraf Michael Jackson.

Go brin y bydd Martin Bashir yn cael gwahoddiad i Neverland yn y dyfodol agos.

Yn yr holi a gafwyd rhwng Bashir a Thomas Mesereau, cyfreithiwr Jackson, fe ddaeth y gyfraith wyneb yn wyneb â newyddiadura ac ar Sky, roedd y cyfan yn ddrama.

Roedd y cyfan a welais nos Lun ar News 24 hefyd yn ddrama. Daeth rhyw droad i'r stumog wrth feddwl y byddai rhywun yn sicr o ddioddef yn sgil y dyfarniadau a oedd ar ddod.

Dyfarniad personol
Rhaid imi gyfaddef imi gael, ar ôl gwylio, y dyn, dieuog, yn euog parthed sawl cyhuddiad!

Ond yn wahanol i ni cafodd y rheithgor gyfle i weld y cymeriadau byw yn yr achos o'u blaenau: Jason Francia, Star Arvizo, June Chandler, Janet Arvizo a Michael Jackson ei hun.

Hwy hefyd fu'n eistedd drwy'r cyfan am oriau maith a gorfod teithio'n fanwl drwy gyfarwyddiadau'r barnwr.

Tybiaf felly taw peth peryglus efallai yw dyfarnu eraill yn euog ar sail yr hyn a welir drwy ail bortreadau'r camera lliw.

Ceir gwahaniaeth rhwng cyfiawnder a drama a theg yw i ddyn a ddyfarnwyd yn ddieuog gerdded â'i draed yn rhydd.

Gair i gall
Flynyddoedd yn ôl gwelodd un o aelodau anwylaf Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, yn dda i gynnig sylw ar ôl fy ngweld ar y teledu.

Rhoddais iddi'r ateb arferol fy mod yn edrych yn well ar radio.

"Na," meddai hithau'n fachog. "Da chi'n edrych yn well ar y teledu nag yr ydych chi mewn gwirionedd."

Erys argyhoeddiad ar fy rhan, ar ôl gweld y cyfan, bod dyn canol oed a wahoddodd fechgyn ifanc i'w wely yn euog o rywbeth.



I ddarllen Sgyrsiau Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
Cliciwch


Ebostiwch ymateb




Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy