
 |
 |
Wynebau
yn
y newyddion
Addo
ymchwiliad i achos Baha Mousa |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Rhagfyr 19, 2004
O'r
holl wynebau a ddaeth yn ôl i'r amlwg yr wythnos hon y mae un yn aros
yn fyw yn y cof. Yn fwy hyd yn oed nag un David Blunkett.
Gwelwyd wyneb y diweddar Baha Mousa yn fwyaf arbennig ar dudalen flaen
yr Independent.
Ar dudalennau'r un papur, cyhoeddwyd llun ohono'n sefyll yn ddedwydd
gyda'i wraig a'i ddau blentyn bach.
Yr unig gymhlethdod teuluol sydd i'w weld yn y llun erbyn hyn yw galar
yr hyn a dorwyd a chysgod y tad cariadus nad yw'n fyw mwyach.
Marw Baha Mousa
Pedwar mis ar ddeg yn ôl roedd Baha Mousa yn gweithio mewn gwesty
yn Basra.
Yng nghwmni chwe dyn arall o Irac, fe gafodd ei arestio gan filwyr
Prydeinig. Dywedir i'r saith gael eu cymryd i wersyll milwrol lle
yr honnir iddyn nhw gael eu curo.
Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd Baha Mousa yn farw.
Rhoddwyd $3,000 yn iawndal i'w deulu. Gwrthodwyd $5,000 pellach gan
ddweud mai'r hyn oedd eisiau yn fwy na dim oedd cyfiawnder.
Diolch am y llysoedd
Yr wythnos hon, gwelodd dau farnwr yn yr Uchel Lys yn dda i dderbyn
dadleuon teulu Mr Mousa gan fynnu bod Confensiwn Ewrop ar Iawnderau
Dynol yn ymestyn mor bell ag ymddygiad milwyr Prydain mewn mannau
pellennig fel Irac.
Oherwydd y dyfarniad, bydd yn rhaid cynnal ymchwiliad i'r farwolaeth
hon.
Croesawodd Amnest Rhyngwladol y dyfarniad. Cawn weld beth ddaw.
Cwymp Blunkett
Dengys yr wythnos hon sut y gall y rhai bychan a'r grymus gwympo.
Ni
allaf ond cydymdeimlo a theulu Baha Mousa a dymuno peth dedwyddwch
i David Blunkett hefyd.
Bu'n hynod annoeth ac fe dalodd y pris. Ni all mwyach daranu o blaid
y rhyfel bondigrybwyll yn erbyn terfysgaeth.
Gan lyfu ei glwyfau fe ddywedodd ein cyn Ysgrifennydd Cartref y gallai
fwynhau'r pleser o dreulio amser gyda'i blentyn bach.
Diolch i helyntion byd, nid yw'r dewis hwnnw ar gael i Baha Mousa.
Mwy am Baha
Mousa (Saesneg)
Ebostiwch eich ymateb
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|