bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Un o bobl y byd

Wythnos o dderbyn a threulio newyddion mewn gwahanol ffurf

Sylwadau wythnosol Aled Edwards

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Awst 29, 2004.

Y mae'r sticer car glas a du trawiadol o eiddo papur dyddiol Cymraeg arfaethedig Y Byd yn ddefnyddiol.

Gan amlaf, y mae'n dweud wrth y rhai sydd mor anffodus a gorfod fy nilyn ar daith fy mod yn Gymro Cymraeg.

Mewn meysydd parcio mawr y mae hefyd yn hynod o ddefnyddiol gan fy mod y dyddiau yn cynyddol anghofio lle y byddaf yn gadael fy nghar.

Nid oes angen poeni am hynny medda' nhw. Pan fyddaf yn anghofio beth ydi car, fe fydd yn rhy hwyr i boeni.

Y mae'r sticer car hwn hefyd yn dweud fu mod yn Gymro Cymraeg sydd am drafod ei fyd a byd eraill drwy gyfrwng iaith ei hun.

Cefais fy magu felly achos ar ein haelwyd ni yn Nhrawsfynydd roedd yr Herald yn cydorwedd yn dda â'r Daily Mirror.

Trist oedd clywed yr wythnos hon am dranc yr Herald. Roedd yn un o'r cyfryngau cynnar hynny a'm galluogodd i ddeall yr hyn a oedd yn digwydd o nghwmpas.

Yn un peth, hwn oedd y papur a fyddai'n dweud rhywbeth o bwys am deuluoedd milwyr Cymraeg Gwynedd a fyddai'n colli eu bywydau mewn rhyfeloedd pell. Yr oedd yn adrodd eu stori.

Helynt byd ar y rhyngrwyd
Ar dudalen cyfrwng llawer mwy cyfoes, BBC Cymru'r Byd, y cyfrwng hwn, y clywais gyntaf am fwriad Adam Price i uchel gyhuddo Tony Blair am ei benderfyniad i fynd i ryfel ag Irac.

Tony BlairAr y rhyngrwyd, gellir achub y blaen hyd yn oed ar newyddiadurwr siarp fel Martin Shipton o eiddo'r Western Mail. Cael cyfle i ddweud mwy am yr hyn yr oeddwn eisoes yn ei wybod gafodd y Western Mail fore Iau diwethaf. Cawn weld beth ddaw o'r cyfan.

Erbyn hyn, fe drodd y rhyngrwyd yn llyfrgell, yn gyfrwng cyfathrebu ac yn fwy na dim, y man lle byddaf yn clywed newyddion gyntaf.

Helynt y peiriant ateb
Wrth deithio'n ôl i Gilfynydd nos Fercher diwethaf, y noson y clywais gyntaf am fwriad Adam Price i uchel gyhuddo Tony Blair, cefais alwad ffôn gan gyfaill o Irac sy'n feddyg dawnus a bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Ar ôl brwydr hir a gwaith caled a thawel gan ei aelod seneddol, Alun Michael, fe glywodd yr wythnos hon, ein bod am ganiatáu iddo aros yma fel ffoadur.

Ni allwn ateb y ffôn symudol pan ddaeth yr alwad. Roeddwn yn gyrru'r car ar y pryd. Roedd rhywun mewn fan wen eisoes yn fy melltithio am barchu'r gyfraith drwy gadw at y cyflymdra a benodwyd ar gyfer Pontypridd.

Wrth barcio fy nghar ar ochr y lôn gwelais yr ystum anweddus yn y drych. Go brin y bydd yn prysuro i brynu'r Byd.

Clywais am newyddion da fy nghyfaill o Irac drwy ddefnyddio'r holl ddefnyddiol '901' ar fy ffôn symudol.

Tu Hwnt i'r newyddion
Gwelais yn dda ar ochr y lôn i ganiatáu i'r peiriant ateb redeg ei gwrs. I mi gofio, roedd naw neges yn fy nisgwyl tu hwnt i ddôr ag allwedd cyfoes y '901' hollbwysig.

Bu'n rhaid imi wrando eto ar neges nad oeddwn wedi ei chlirio - cais gan wraig ddagreuol.

Bythefnos yn ôl, roedd ei gwr yn un o gaethion lloches Caerdydd. Erbyn hyn, fe gafodd ei estraddodi i'r Almaen. Cafodd gyfnod yno cyn teithio i Loegr.

Y mae'r wraig hon, sydd hefyd yn hanu o Irac, saith mis yn feichiog. Y mae ganddi fab wyth oed o briodas flaenorol. Fe gafodd ei gwr cyntaf, yn ôl yr hyn a ddywed, ei ladd mewn cyrch bomio o eiddo'r cynghreiriaid yn Irac yn ystod y nawdegau.

Cyn ei dileu o'm rhestr '901' roeddwn yn meddwl y byddwn yn ei chrybwyll yma'n gyflym fel un o bobl y byd.

Y mae'n un o filoedd sydd tu hwnt i'n holl gyfryngau a'n newyddion.
Peth felly, mewn gwirionedd yw'r newyddion.

Cyhuddo Blair



Ebostiwch eich ymateb
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy