
 |
 |
Cymry'r
rhyfel .
Barn a rwts yn parhau hyd heddiw |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Awst
15, 2004.
Rhaid imi gyfaddef ei bod yn dda gennyf weld bywyd mwy gweladwy'r
Cynulliad yn dirwyn i ben cyn gwyliau'r haf.
Er taw celwydd yw'r hyn a ddywedir am aelodau'r lle yn cael gwyliau
hir, fe ddaw rhyw fath o fwrlwm cyhoeddus i ben.
Cefais gyfle i fwynhau'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a'r Eisteddfod
Genedlaethol wedi hynny yng Nghasnewydd.
Darllen llyfrau
I mi, un o brif rinweddau'r cyfnod hwn yw bod dyn yn cael rhywfaint
o amser i ddarllen llyfrau.
Bûm
yn edych ymlaen ers misoedd lawer at y cyfle i ddarllen llyfr arbennig,
Llwch Cenhedloedd, gan Jerry Hunter sy'n trafod y Cymry a Rhyfel
Cartref America ac a ddewiswyd yn Llyfr y Flwyddyn.
Yn rhyfedd iawn, cefais y cyfle eleni i'w brynu yn Llanelwedd ac i
orffen ei ddarllen yng Nghasnewydd.
Cefais sawl sgwrs ddifyr ar y maes ym Mharc Tredegar a daeth sawl
un heibio Pabell Iesu Grist am baned a chymdeithas.
Roedd y cyfan yn rhyfeddol o braf, fel ym mhob Eisteddfod, ond fe
gafwyd cyfle rhwng popeth, i enaid gael llonydd gyda llyfr.
Gweld y Cymry
Un o brif rinweddau gwaith hynod o ddiddorol Jerry Hunter yw'r modd
y mae'n dangos beth sy'n digwydd i Gymry Cymraeg sy'n llwyddo i ddianc
rhag disgyrchiant gwleidyddol Lloegr.
Y mae'r llyfr yn agor gyda'r darlun byw hwnnw o weld Cymry Cymraeg
yn heidio yn eu miloedd i Ogledd America ac yn cynnal eu Cymreictod
drwy'r capeli ac eisteddfodau.
Fe'u gwelir hefyd yn ymdrechu'n galed i brofi eu bod yn Americanwyr
da.
Awgryma i i oddeutu 7,000 o Gymry ymuno â lluoedd y Gogledd. Cafwyd
llawer llai yn lluoedd y De. Ar y cyfan, cafwyd brwdfrydedd mawr ar
ran Cymry'r wlad newydd i frwydro dros ryddid caethweision.
Cysgod Lloegr ar Gymru
Diddorol oedd nodi pryder Cymry fel Isaac Cheshire a Robert Everett
ynghylch gogwydd gwleidyddol papurau'r Hen Wlad fel yr Herald a
Baner ac Amserau Cymru.
Roedd sefydliadau Lloegr, drwy lygaid y London Times, yn reddfol
o blaid y De a gwelwyd grym cysgod y gogwydd hwn hyd yn oed ar y wasg
Gymreig.
Y
mae'n anodd credu'r peth, ond fe anfonodd Baner ac Amserau Cymru
ohebydd i weld yr hyn a oedd yn digwydd yn America. Y dyfyniad
hwn o'i eiddo yw un o'r darnau mwyaf brawychus yn nhrafodaeth hynod
werthfawr Jeff Hunter:
Wedi y caffoch adnabyddiaeth o negroaid y Gogledd, a chymysgu yn
eu plith am ychydig amser, y mae rhyw awydd yn dechrau eich meddiannu
nad oes arnoch eisiau gweld rhagor o honynt yn dylifo i'ch cymdogaeth.
Wrth adael Casnewydd yr wythnos diwethaf ni allwn wneud dim arall
ond ystyried nad oes llawer yn newid.
Rydym yn parhau i gredu'r un hen rwts sy'n cael ei wthio i lawr ein
corn gyddfau gan y wasg Brydeinig.
Mae pobl dduon yn parhau i lifo i'n plith!
Ebostiwch eich ymateb
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|