bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
16eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Poster a gyhuddwyd o fod yn  hiliol Mewn
dau gae


Hiliaeth - a ddylem ni bryderu yng Nghymru?

Sylwadau wythnosol Aled Edwards

Mai 2, 2004

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Cyhuddiad yn erbyn poster
yn llygaid ei le

Ar y diwrnod y torrodd y stori fod rhai o aelodau'r Cynulliad yn anfodlon i boster gwrth derfysgaeth yr heddlu gael ei arddangos am ei fod yn awgrymu rhywbeth anffafriol ynghylch gwragedd Mwslimaidd, cefais fy hun yn rhannu sgwrs iasol a gyrrwr tacsi.

Digwyddodd y cyfan wrth deithio ar hyd y ffyrdd gwledig braf hynny rhwng Sain Ffagan a Radur.
Roedd hi'n ddiwrnod hynod o braf.

Yng ngwres yr haul cefais gyfle i ystyried os oedd aelodau cydwybodol Plaid Cymru wedi mynd â'u argyhoeddiadau PC am yr heddlu yn rhy bell y tro hwn.

Nid yn annisgwyl, mynegwyd hynny'n uchel iawn gan David Davies, aelod y Cynulliad ar gyfer Mynwy.

Hanu
O ran ei acen, deuai'r gyrrwr tacsi yn amlwg iawn o Gaerdydd. O ran lliw ei groen, roedd ei gyndadau yr un mor amlwg yn hanu o rywle arall.

Cyfaddefais innau fy mod yn hanu'n wreiddiol o'r gogledd ac yntau wedi sylwi bod gen i acen od.

Atebodd yntau yn siriol ei fod yn hanu'n wreiddiol o'r dwyrain. Gorwedd Pacistan rhywle yn y dwyrain!

Holodd beth oeddwn yn ei wneud yn stiwdio ITV Cymru ar gyrion Caerdydd. Yn ofalus, dywedais fy mod wedi gwneud cyflwyniad ar fethiant y ceisydd lloches ifanc hwnnw o Kosovo i aros yng Nglyn Ebwy.

Mae'n rhaid bod yn ofalus gan imi gael ar fwy nag un achlysur lond clust o rethreg hiliol gan yrwyr tacsis Caerdydd heb ddweud dim am fy ngwaith na'm diddordeb ym mhobloedd di-le'r byd.

Er mawr ofid, yn ystod y misoedd diwethaf hyn, fe ddaeth hiliaeth yn dderbyniol mewn rhai cylchoedd.

Erfyniaf am onestrwydd ynghylch yr hiliaeth hon sy'n gynyddol godi ei phen.
Galwodd Ron Atkinson y pêl droediwr du ei groen, Marcel Desailly, yn "f… lazy thick nigger".

Mae'r parodrwydd i feddwl y fath beth, heb sôn am ei ddweud, yn deillio o gymdeithas sy'n newid er gwaeth. Anodd derbyn eglurhad Atkinson taw siarad ydoedd fel 'fan'. Mae hynny'n gwneud y peth yn waeth o s rhywbeth.

Yn ofalus gwrtais fe drodd y sgwrs yn y tacsi at hiliaeth.

Cytundeb
Rhwng pedair olwyn, cytunodd y dyn o'r gogledd a'r dyn o'r dwyrain fod tro ar fyd ar droed. Y mae Prydain yn troi'n llai goddefol ynghylch hil.

Yn dawel, dechreuodd gyfaddef sut yr oedd yn pryderu'n gynyddol am ddiogelwch a lles ei blant a'i wraig. Y mae hi hefyd yn hanu o'r un Dwyrain.

Nid yn annisgwyl efallai, roedd yn eithaf awyddus i gyfrif ei hun yn Brydeiniwr. Gan fod y sgwrs yn mynd yn dda nid oeddwn am ddifetha'r cyfan trwy ddatgan nad oedd gennyf ddiddordeb yn y byd mewn dilyn yr un hunan adnabyddiaeth.

I mi, mae cael bod yn Gymro yn llawn ddigon diolch yn fawr.

Troi i'r caeau
Mewn gwendid weithiau, byddaf yn meddwl yn lle y byddwn yn caru byw pe byddai Cymru yn peidio â bod yn lle addas ar gyfer Cymro fel fi. Yn Gymru nad yw'n dymuno bod yn genedl.

Er fy mod yn hynod hoff o'r Albanwyr a'r Gwyddelod sylweddolaf nad wyf yn un ohonyn nhw. Hyd yma, glynaf wrth yr ochenaid 'ni allaf ddianc rhag hon.' Nid oes caeau eraill ar fy nghyfer.

Digwydd cyfaddef wnaeth fy nghyfaill o'r dwyrain, sy'n gyrru tacsi yng Nghaerdydd, ei fod wedi prynu dau gae ym Mhacistan rhag ofn i bethau droi'n hyll yma.

Mewn un ffordd, dwi'n falch fod ganddo gaeau i droi atyn nhw. Ond, y mae'r ffaith ei fod hyd yn oed yn meddwl y peth yn llefaru cyfrolau.

Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf gyfaddef. Roedd yr hyn a ddywedodd Plaid Cymru am lygaid y poster arbennig hwnnw o eiddo'r heddlu yn llygaid ei le.

Ebostiwch eich ymateb
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy