bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
14eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


ffoaduriaid Pobl ar ffo

'
Pobloedd daear yn ffoi rhag newyn ac erledigaeth.
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Mawrth 21, 2004

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Melltith Schindler
Ar Wyl Sant Padrig yr wythnos hon cefais fraint enfawr. Wrth droed y groes Geltaidd ym mynwent Cathays sy'n coffau newyn mawr y Gwyddelod gofynnwyd i mi, fel cadeirydd Alltudion ar Waith - Displaced People in Action - i ddweud gair am ffoaduriaid cyfoes.

O flaen Arglwydd Faer Caerdydd, Llywydd y Cynulliad, Archesgob Caerdydd, Côr Cochion y ddinas a phlant amrywiol ethnig ysgolion Cathays, Gladstone, Sant Joseph ac Ysgol Gynradd Gymraeg Mynydd Bychan, cefais gyfle i ddweud rhywbeth am bobl mwyaf bregus ein byd cyfoes a hynny i gefndir hanesyddol trychineb newyn mawr y Gwyddelod canrif a hanner yn ôl.

Unwaith eto, cynrychiolwyd gwladwriaeth fodern y Gwyddelod yn siriol ac yn urddasol gan James Carroll, eu Conswl Cyffredinol.

O dan deimlad
Rhaid imi gyfaddef, erbyn imi gyrraedd y fynwent, roeddwn dan deimlad. Yn gynnar y bore hwnnw cefais gyfle i hebrwng Eyad Shehada i weld merch ifanc o'r enw Cecile yn swyddfa Glenys Kinnock ym Mae Caerdydd.

Trafodais achos eithriadol Eyad ar Wythnos o Feddwl ar drothwy'r Nadolig.

Cafodd ei fagu yn Kuait yn ffoadur Palestinaidd. Yn dilyn rhyfel cyntaf y Gwlff fe'i hestraddodwyd a chan deithio drwy'r Aifft, symudodd wedyn i Rwsia er mwyn hyfforddi'n feddyg.

Ar ôl iddo dderbyn gorchymyn i adael Rwsia ceisiodd ymuno â'i deulu ar Lain Gasa ond methodd a gwneud hynny ar ddau achlysur.

Cafodd ei ddal gan awdurdodau'r Deyrnas Gyfunol yn Heathrow tra'n ceisio teithio i Ganada er mwyn hawlio lloches yno. Gwelwyd yn dda i'w leoli oddi yno yng Nghymru.

Cyn y Nadolig, gwrthodwyd ei gais am loches yn y Deyrnas Gyfunol gan nad oedd modd iddo brofi y byddai unrhyw un o'r gwledydd sy'n gwrthod dinasyddiaeth i Balestiniaid Kuait yn ei erlyn.

Fe'i gadawyd felly heb yr hawl i aros na'r modd i adael. Ni allai hawlio budd-dal ac fe fyddai'n anghyfreithiol iddo weithio.

Lobïo gwleidyddol
Dwi'n cofio gweld Eyad am y tro cyntaf yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Mewn partneriaeth â'r Cynulliad a'r Ysgol Feddygol y mae Alltudion ar Waith yn cynnal cwrs unigryw Gymreig sy'n cymhwyso meddygon sy'n ffoaduriaid i weithio yn y gwasanaeth iechyd yma.

Glenys KinnockErbyn hyn, cynhyrchwyd saith meddyg newydd.

Dechreuodd Eyad ar y broses o loywi ei Saesneg a sefyll y ddau arholiad meddygol ond, er gofid, cafodd ei lethu gan amharodrwydd yr awdurdodau i'w dderbyn.

Gofynnodd i mi os oedd unrhyw un a allai ei gynorthwyo. Tybiais taw Glenys Kinnock fyddai'r gwleidydd priodol i gysylltu'n uniongyrchol â Beverley Hughes yn y Swyddfa Gartref.

Er mawr glod iddi, fe wnaeth hynny'n syth. Bu ei staff, yn bennaf drwy law ymroddgar Cecile, yn eiriol yn effeithiol ar ei ran.

Beverley HughesWedi derbyn y geiriau prin hyn o eiddo Beverley Hughes, fe aeth Eyad i ddiolch i Cecile:

'I am pleased to inform him that in the light of the compelling and compassionate circumstances that exist in his case I have decided to exercise my discretion and grant him 3 years leave to remain.

Y mae lle i ddiolch i Beverley Hughes. Weithiau, y mae gwleidyddiaeth yn gweithio!

Wrth droed y groes
Wrth syllu ar y groes honno ym mynwent Cathays sydd ar y ffurf traddodiadol Geltaidd yn gosod teclyn dienyddio Crist yng nghanol cwlwm crwn y byd cyfan, meddyliais am eiriau'r Gwyddel hwnnw, Liam Neeson, a ddewiswyd i chwarae rhan Oskar Schindler yn y ffilm ryfeddol honno o eiddo Steven Spielberg, Schindler's List.

Y mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel Thomas Keneally, Schindler's Ark. Yn Nhachwedd 1998 ysgrifennodd y cyn offeiriad Catholig hwn o Awstralia nofel arall.

Y mae The Great Shame yn trafod helyntion y Gwyddelod yn ystod y newyn mawr.

Pwysau'r Felltith
Tua diwedd y ffilm, y mae Schindler yn gorfod ffoi rhag byddin Rwsia a gorfod ffarwelio a'r degau o Iddewon hynny a gafodd eu cynnwys ar ei restr achubol.

Y mae golwg welw yn disgyn ar ei wyneb wrth iddo sylweddoli y gallai fod wedi gwneud llawer mwy.

Y sylweddoliad hwn yw'r felltith sy'n disgyn ar ysgwyddau pob Oskar Schindler.

Gwn nad gwennol i hebrwng gwanwyn newydd yw Eyad Shehada ond un ddeilen fregus o eiddo'r hydref sydd eisoes wedi blasu gerwinder gaeaf oer.

Y mae pobloedd daear yn parhau i ffoi rhag newyn ac erledigaeth. Mae nhw hefyd yn parhau i brofi gaeafau oer ein diffyg croeso.

Ebostiwch eich ymateb
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy