bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
16eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


'Poteli gweigion'

Trin pobol fel hen boteli

Mehefin 15, 2003


Sylwadau wythnosol Aled Edwards


Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Sgandal 'Non Returnables' Cymru
Mewn ystafell chwyslyd ar gyrion Caerdydd brynhawn Mercher diwethaf, daeth bron bob asiantaeth sy'n gofalu am geiswyr lloches a ffoaduriaid yn ne Cymru at ei gilydd.

Roedd yr ystafell yn orlawn ar gyfer cyfarfod brys i drafod tranc yr hyn y mae'r awdurdodau yn ei alw'n 'non-returnables'.

Cyfeirio at bobl y maen nhw - nid poteli!

Ymddengys y sefyllfa a'r trefniadau'n gymhleth i'r rhai sy'n anghyfarwydd â byd ffoaduriaid ond mae canlyniadau yn iasol real i gwmni allweddol o ddieithriaid sydd bellach naill ai ar y strydoedd neu wedi diflannu o'n plith.


Creu 'Non Returnables'

Y dyddiau hyn, caiff nifer gynyddol o geiswyr lloches eu gwrthod. Ond, yn gwbl ryfeddol, er nad oes gan y rhai a gafodd eu gwrthod yr hawl i aros yn y Deyrnas Gyfunol, ni ddarperir ffordd na'r modd iddyn nhw ddychwelyd i'w gwledydd eu hunain.

Fe'u gadewir am fisoedd lawer mewn rhyw fath o limbo.

Ceir nifer o resymau am hyn:
• methiannau cyfathrebu rhwng y cyrff sy'n ystyried y • ceisiadau a'r Swyddfa Gartref;
• diffyg dogfennau dilys ar ran y ceiswyr lloches eu hunain;
• amharodrwydd nifer o wledydd i'w cymryd yn ôl,
• ac yn achos gwledydd fel Irac, Somalia, Zimbabwe a rhannau o'r Dwyrain Canol, diffyg unrhyw fodd ymarferol i'w dychwelyd yn ôl beth bynnag.

Cafwyd ymdrech yn ddiweddar ar ran Pwyllgor Dethol y Swyddfa Gartref i gasglu tystiolaeth ynghylch y ceiswyr lloches hyn sydd bellach i'w cyfrif fel 'non-returnables'.

Cafwyd datganiad cryno ar eu rhan: 'We believe it is absurd to refuse leave to remain to people who, for whatever reason, cannot be removed.'

Diffyg darpariaeth

Wedi i'r apêl olaf fethu, bydd NASS, sef yr asiantaeth sy'n gofalu am ddosbarthu a chynnal ceiswyr lloches yn gorfod dirwyn pob nawdd i ben.

Bryd hynny, disgwylir i'r rhai a fu'n gyfrifol am gartrefu a chynnal y ceiswyr lloches hyn, boed nhw'n gynghorau sir neu yn gwmnïau preifat, i'w gosod ar y stryd.

Teflir pobl o wledydd fel Irac, Iran, Afghanistan, Somalia, Ethiopia a hyd yn oed Palestina o'u lloches heb unrhyw fodd i fyw.

Diogelir teuluoedd a phlant, ond arddelir polisi haearnaidd ynghylch unigolion sengl boed nhw'n ddynion neu'n wragedd. Gall rhai gofrestru ar gyfer darpariaeth yr hyn a elwir yn 'hard cases'.

Cymerir hwy, ond nid pawb, i hostel o eiddo'r YMCA i dderbyn bwyd a thô uwch eu pennau - ond dim arall. Fe'u gorfodir hefyd i gydnabod nad oes ganddyn nhw achos i aros yma.

Yn achos Caerdydd, cafwyd amcangyfrif fod yna o leiaf 30 i'w gosod ar y clwt heb unrhyw fath o nawdd na'r modd i ddychwelyd yn ôl i'w gwledydd.

Ceir pryder gwirioneddol y bydd nifer yn gorfod troi at becynnau bwyd ar y strydoedd a darpariaeth cyrff gwirfoddol fel y Groes Goch ac eglwysi. Eisoes, darparwyd ar gyfer cannoedd yn Lloegr.

Y rhain bellach, nid poteli llefrith, yw ein 'non-returnables' cyfoes.

Mae'r awdurdodau yn gorfod cydnabod fod nifer dda, fel poteli llefrith, yn diflannu. Nid yw hynny'n beth da iddyn nhw nac i ni.
.
Ebostiwch eich sylwadau ch
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy