
 |
 |
Ar
y strydoedd
Adfyd y rhai sy'n chwilio am loches
Dydd Sul, Ionawr 12, 2003
|
Sylwadau
wythnosol Aled Edwards
Yr wythnos hon daeth llu o gymdeithasau dyngarol fel Amnest Rhyngwladol,
Oxfam, Maternity Alliance a’r Cyngor Ffoaduriaid at ei gilydd i gwyno’n
llym am bolisïau newydd y Llywodraeth o dan gymal 55 Deddf Lloches
2002.
Yn syml iawn, ceir bwriad ar ran y llywodraeth i ddileu’r ddarpariaeth
sy’n cynnig bwyd a noddfa i’r ceiswyr lloches hynny sy’n gwneud cais
nid mewn porthladd neu faes awyr wrth gyrraedd yn y wlad ond wedyn
ar ôl treulio cyfnod yn ein plith.
Credir y bydd y mesurau yn effeithio ar oddeutu 65% o’r rhai sy’n
ceisio am loches ym Mhrydain.
Dadl y Llywodraeth
Ceir dadl glir ar ran y Llywodraeth y dylai’r mesurau hyn gynnig ffordd
dda o ddelio â cheisiadau sy’n annilys.
Er tegwch i’r Swyddfa Gartref, cafwyd cydnabyddiaeth hyd yn oed ar
ran y cymdeithasau dyngarol hynny sy’n ymwneud â cheiswyr lloches
fod nifer o’r rhai sy’n gwneud ceisiadau yn ffug.
Dadl arall ar ran y Llywodraeth yw iddyn nhw wneud darpariaethau arbennig
ar gyfer y rhai mwyaf bregus fel gwragedd beichiog.
Ceiswyr lloches didwyll
Yn
wyneb yr ystyriaethau gwleidyddol hyn, dywed ymgyrchwyr ar ran ffoaduriaid
nad ar geiswyr annilys yn unig y mae’r mesurau’n tarfu, ond ar nifer
helaeth.
Yn ddiddorol, fe wnaeth 65% o geiswyr lloches cydnabyddediog a dilys
y Deyrnas Gyfunol eu ceisiadau wedi iddyn nhw aros yn y wlad am gyfnod,
Yn 1996, datgelodd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Nawdd Cymdeithasol pam
nad yw ceiswyr lloches yn gwneud ceisiadau wrth gyrraedd porthladdoedd.
Yn groes i’r hyn y byddai rhai yn ei dybio, nid yw ceiswyr lloches,
ar y cyfan, yn deall y gofynion cyfreithiol.
Ar ben hyn, mae nifer fawr yn llai na rhugl mewn Saesneg ac fe ddaw
ambell i’r wlad hon dan gysgod braw ac ofn pob awdurdod swyddogol.
Dibynnu ar gardod
Y cwestiwn allweddol i’r Cynulliad, y cynghorau sir a chymunedau ffydd
yng Nghymru, ynghyd â chymdeithasau gwirfoddol, yw sut y bydd hyn
yn effeithio ar Gymru.
Ar draws y Deyrnas Gyfunol, cafwyd amcangyfrif y bydd y mesurau hyn
yn tarfu ar oddeutu can ceisydd lloches newydd y dydd. Cyn y Nadolig,
roedd oddeutu 120 ceisydd lloches mewn lletyau argyfwng rhywle yng
Nghymru.
O hyn allan fe fydd ceiswyr lloches cyffelyb yn colli’r hawl i dderbyn
bwyd a noddfa. Pobl fel y rhain fydd yn canfod eu hunain ar y strydoedd
yn dibynnu ar gardod, eglwysi neu’r byd troseddol am gynhaliaeth.
Gwleidyddiaeth iasol
Y
peth iasol sy’n gorwedd wrth wraidd y symudiad hwn yw’r polisi gwbl
fwriadol ar ran y Llywodraeth o beri i filoedd o bobl fregus ddioddef
ar ein strydoedd mewn ymgais i atal rhai sy’n geiswyr lloches annilys
rhag dod yma o gwbl.
Cafwyd polisi cyffelyb ar ran Michael Howard a Peter Lilley yn 1996
gan achosi anhrefn ddynol enbyd.
Ar un wedd, mae’r peth yn wleidyddol glyfar. Fe ganiateir i bobl aros
yma yn y fframwaith cyfreithiol sy’n asesu dilysrwydd cais y ceisydd
lloches ond fe wrthodir y modd iddyn nhw wneud hynny.. .
Ebostiwch eich sylwadau chi
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|