bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
16eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Anne Frank Nadolig Anne Frank

Geiriau ar gyfer ein dyddiau o ormodedd

Nadolig, 2002

Sylwadau wythnosol Aled Edwards

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Cyn y Nadolig, galwodd un o’m cydweithwyr heibio’r swyddfa yn y Deml Heddwch i ofyn os oedd gennyf ddarn aml ffydd addas i’w ddarllen yn Gymraeg mewn defod Nadoligaidd.

Aeth fy meddwl yn syth at un o bytiau byrion addasiad godidog Eigra Lewis Roberts o Ddyddiadur Anne Frank.

Awgrymaf dros y Nadolig hwn y dylai unrhyw un sydd am forio i mewn i ormodedd ein Nadoligau cyfoes a Chymreig ni ddarllen pwt cryno Anne Frank ar gyfer dydd Gwener, Rhagfyr 24, 1943.

Cyffes a gollyngdod
Ceir cyffes ar ddechrau’r darn.
Gwelodd Anne yn dda i ymddiheuro wrth Kitty, ei chyfaill dychmygol, am beidio ag ysgrifennu ati yn ddiweddar.

Fe gafodd bwl drwg o’r ffliw oedd yr esgus.

Bu’n hel meddyliau drwg hefyd yn arbennig am Dussel. Cymerodd hwnnw arno ei fod yn feddyg a rhoi ei ben seimlyd ar ei mynwes noeth i wrando ar y synnau. Gwrthwynebodd Anne hyn gan nad oedd yn gariad iddi!

Ond, fe ddatganwyd gollyngdod.

Wrth hanfod pob maddeuant ceir proses o osod pechod o’r neilltu, ei guddio neu ei wneud yn angof. "Dyna ddigon am fy salwch i," ysgrifennodd Anne.

Gloria
Yn ystod yr Adfent, nid yw eglwysi yn arfer adrodd y Gloria. Tybir nad yw’n addas ar gyfer tymor o’r fath sy’n annog edifeirwch ac yn ysgogi gwyliadwriaeth.

Ond, ar fore’r Nadolig fe’i hadroddir yn egniol. Yn dilyn y gollyngdod, clywir adrodd y geiriau godidog hynny ‘Gogoniant yn y Goruchaf i Dduw’.

Cafwyd gorfoledd yn natganiadau cryno Anne Frank.

Bellach, yn ôl ei chyfaddefiad ei hun, roedd cyn iached â’r gneuen ac yn dalach o dros sentimeter.
Roedd hefyd wedi ennill kilo.

Yn rhyfedd iawn, byddaf o hyd yn teimlo’n dalach wrth godi i adrodd y Gloria yn Excelsis. Y mae Duw yn ei haelioni aruthrol yn ein codi i fyny hyd yn oed yng nghyswllt yr amgylchiadau gwaethaf.

Gweinidogaeth y Gair a chredo

Anne - a'i dyddiadurNid yn annisgwyl i Iddewes ar drothwy’r Nadolig, gwelodd Anne Frank yn dda i ddwyn rhyfeddod Hanukkah i’r cof.

Cafwyd hanesion trawiadol yn Llyfr y Macabeaid ynghylch glanhau’r Deml a buddugoliaeth filwrol Israel dros ei gelynion.

Yn allweddol i Anne, dygwyd i gof y wyrth a brofwyd yn hanes unigryw ei phobl wrth i’r olew a oedd yn ddigonol ar gyfer goleuo’r menorah am ddiwrnod barhau am wyth diwrnod cyfan.

Mae Iddewon a Christnogion yn mynegi eu cred yn y Duw hwnnw sy’n cyflawni gwyrthiau. Gwneir hyn yn arbennig yn ystod wythawd Hanukkah a’r Nadolig. Dygir gweddïau i ganol y defodau i ddiolch i Dduw ac i ymbilio dros eraill.

Y Tangnefedd
Sylwodd Anne, yn wyneb rhyfeddod y Nadolig, fod pawb yn y ty yn cyd-dynnu’n dda. Ni chafwyd cwerylon mwyach. Ysgrifennodd yn gryno y geiriau hyn:

"‘Ni chafwyd y fath heddwch a thawelwch yn y ty hwn ers o leiaf chwe mis."

Yng nghanol litwrgi’r Nadolig ceir y Tangnefedd. Rhoddir cyfle i’r saint gyfarch ei gilydd a mynegi hynny drwy gyfnewid arwydd.

Yr Ewcharist
Ar ddechrau’r weddi ewcharistaidd dygir bara a gwin at yr allor. Nid gwenith a grawnwin yn unig, ond bara a gwin.
Dygir eiddo Duw a diwydiant dyn at yr allor.

Soniodd Anne Frank am y dogn ychwanegol o olew coginio a ddygwyd ynghyd â melysion a thriagl dros y Nadolig. Fel y cymerwyd bara a gwin a’i droi’n gorff a gwaed Crist, bu Anne Frank yn cadw’r siwgr a arferai roi ar ei huwd am fis cyfan ar gyfer gwaith amgenach.

Fe gymerodd Mr Kleiman y siwgr a’i droi’n ffondant.

Yr anfon allan
Ar ddiwedd pob litwrgi ceir anfon allan. Pwrpas defodau crefyddol yw galluogi’r rhai sy’n credu i wynebu’r byd – nid ei osgoi.

Nododd Anne ar ddiwedd ei neges wrth Kitty bod y rhyfel mewn cyfnod o gyfwng a bod yr ysbryd yn isel. Ar Awst 4, 1944, arestiwyd yr wyth oedd yn cuddio yn y Rhandy Dirgel.

Credir i Anne gael ei hallgludo, yn y cludiad olaf o Westerbork i Auschwitz. Oddi yno fe’i cymerwyd i Bergen-Belsen. Bu farw yno yn ystod gaeaf 1944-45.

Erys geiriau trawiadol Anne Frank ar gyfer Ebrill 5, 1944 yn fyw iawn yn y cof:

"Dydw i ddim eisiau byw bywyd dibwrpas fel y rhan fwyaf o bobl. Rydw i eisiau bod yn ddefnyddiol a rhoi mwynhad i bawb, hyd yn oed y rhai nad ydw i erioed wedi eu cyfarfod. Rydw i eisiau dal i fyw hyd yn oed wedi i mi farw!"

Rhyfeddod Hanukkah a’r Nadolig yw bod yr hyn a fu farw yn fyw.

Ebostiwch eich sylwadau chi
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy