
 |
 |
Pethau
gwirion ydi Sili o Sully!
Byd rhyfeddol a llawn o ragfarnau
Dydd Sul, Chwefror 3, 2002 |
Wythnos o Feddwl - myfyrdod wythnosol gan y Parchedig Aled Edwards
Rhagfarnau Sili O’Sully
Ers blynyddoedd lawer bu Disgusted of Tunbridge Wells yn ysgrifennu
epistolau bachog, os nad rhagfarnllyd a thwp, at olygydd y Times.
Credir iddo ef (neu hyd yn oed hi, efallai) roi mynegiant gloyw i’r
hyn y mae ‘middle England’ yn ei feddwl - Duw a’n gwaredo!
Yn allweddol bwysig i’r byd gwleidyddol yn 1994, collodd y Ceidwadwyr
eu gafael ar gyngor lleol Tunbridge Well a Disgusted
druan ar ei ffordd i ymuno â rhengoedd Llafur Newydd a’r Democratiaid
Rhyddfrydol.
Bu tro sylweddol ar fyd.
Mynegi Barn
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y South Wales Echo gofnod o farn eu
darllenwyr goleuedig ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio hen safle
Ysbyty Sili fel canolfan i gartrefu ceiswyr lloches.
Mewn pôl arbennig, gwelodd 863 o’n cyd-Gymry’n dda i fynegi’n eu gwrthwynebiad
i’r cynllun, ac nid yn annisgwyl efallai, gwelwyd taw ond 14 o bobl
y fro a oedd am dderbyn rhai o unigolion mwyaf bregus y byd i’w plith.
Yn amlwg, mae pobl de Cymru yn ‘digusted’ gyda’r syniad.
Barn ‘middle Wales’
Os oes rhywun am roi mynegiant i’r hyn y mae ‘middle Wales’
yn ei feddwl gellir tybio y byddai’n byw yn Sili.
Disgrifiwyd y pentref yn y News of the World fel ‘isolated
Welsh village’ ac mae’n amlwg taw felly y mae’r brodorion am i
bethau barhau.
Nid yw Disgusted of Tunbridge Wells yn cael ei enwi yn y Times.
Am resymau cyfreithiol, gwell fyddai i minnau beidio ag enwi’r llu
a ddygodd y fersiwn cyfansawdd Cymreig o Disgusted druan i
fodolaeth yn fy mhen bach i yr wythnos hon – Sili O’Sully.
Bod yn Deg
Er tegwch, ar ôl ystyried rhai o’r ffeithiau, gallaf dderbyn nad
yw safle Sili yn ddelfrydol ar gyfer cynlluniau’r Swyddfa Gartref.
Yn fwy na dim, mae’r adeilad yn anaddas a byddai’n costio ffortiwn
i’w addasu.
Ar ben hyn, y peth gorau a ellir ei gynnig i ffoaduriaid druan yw
cartref diogel yn eu cynefin.
O fethu gwneud hynny, y peth gweddus i’w gynnig mewn gwlad sy’n honni
ei bod yn waraidd, yw llefydd priodol mewn cymunedau sydd wedi eu
galluogi a’u hyfforddi i’w croesawu.
Gwawdio Sili O’Sully
Nid wyf am wawdio Sili O’Sully am wrthwynebu cynlluniau
arfaethedig yr Arglwydd Rooker o’r Swyddfa Gartref. Mae gwneud hynny’n
deg.
Y rhesymau dros y gwrthwynebiad sy’n peri gofid i mi.
Mynegodd Sili O’Sully ei bryder yn y News of the World y
byddai ei ‘isolated village’ bach yn cael ei foddi gan bobl
nad oedd yn siarad Saesneg.
Yn amlwg, ym myd Sili O’Sully mae dweud pethau o’r fath yn
dderbyniol ac yn ddealladwy. Mater arall, wrth gwrs, yw ei farn ynghylch
sylwadau cynghorwyr o Ben Llyn.
Trist, yn y South Wales Echo, oedd darllen prif reswm Sili
O’Sully dros wrthwynebu’r cynllun.
Mae’n gwbl argyhoeddedig bod cysylltiad rhwng ceiswyr lloches a therfysgaeth.
Mae ffatri gemegol y cwmni Americanaidd Dow Corning yn agos
at y safle ac fe allai ceiswyr lloches, ym mhob golwg, chwythu’r ardal
gyfan i fyny gan gynnwys dociau allweddol y Barri drwy osod bom mewn
lle o’r fath.
Mae credoau mawrion y byd, gan gynnwys y ffydd Gristnogol, yn mynnu
y dylid parchu y rhai sy’n ddieithr yn ein plith.
Roedd pobl Israel yn ddieithr yn yr Aifft ac fe ddygwyd y baban Iesu
fel ffoadur i’r un wlad. Mae Duw, o’r herwydd yn sensitif am bethau
o’r fath.
Yn nhrefn pethau’r ddaear, rhoddir lle anrhydeddus i Sili O’Sully
a’i debyg. Maen’t yn uchel iawn eu parch ymhlith eu cydnabod. Ystyrir
eithrio’r dieithryn yn rhinwedd. Yn nhrefn tragwyddoldeb, ysywaeth,
ceir sawl awgrym y bydd Duw yn gwrthod y rhai sy’n gwrthod eraill.
Fe allai’r hen Sili O’Sully druan dreulio tragwyddoldeb fel
dieithryn mewn lle nid annhebyg i’r Barri wedi iddo gael ei chwythu
i fyny.
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|