bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


wythnos o feddwl Yng ngharchar efo'r gweinidog

Cael golwg ar amgylchiadau y rhai sy'n chwilio am loches

Dydd Sul, Mai 27, 2001
Wythnos o Feddwl
sylwadau wythnosol y Parchedig Aled Edwards


Yr wythnos hon, cefais fy hun mewn cell fechan, chwyslyd a drewllyd yng ngharchar Caerdydd gydag Edwina Hart, gweinidog Cyllid y Cynulliad.

Edwina HartO'n cwmpas, cafwyd dynion tywyll eu croen o wledydd Affricanaidd fel Zimbabwe, Ghana ac Uganda.

Cafwyd dynion eraill yr un mor drychinebus yr olwg o ardal y Balkans.

Nid lladron a llofruddion oedd y dynion hyn ond trueiniaid a welodd yr angen i adael gwlad a theulu i geisio lloches. I lawer, eu hunig ‘drosedd’ oedd iddyn nhw ffoi i Brydain.

Cafwyd mân droseddau ar ran eraill a’r rheini y math o droseddau sy’n bennaf gysylltiedig â thlodi.

Parchu hawliau crefyddol

Da oedd clywed gan gaplan y carchar fod hawliau crefyddol y cyfeillion hyn yn cael eu parchu. Trist oedd deall fod rheolau y Swyddfa Gartref yn mynnu fod pob carcharor o’r fath yn gorfod cael ei gadw mewn cyffion wrth adael y celloedd i ymweld â llefydd fel ysbytai.

Braf oedd deall y gellir rhoi dillad newydd iddyn nhw a chardiau ffôn ar gyfer cysylltu â chynghorwyr cyfreithiol. Ond, erys y gofid am gloi y dynion hyn am ugain awr neu fwy y dydd mewn celloedd bychain a thywyll.

Ar ôl cyfnod o rhyw dri chwarter awr dan yr amgylchiadau hyn, diddorol oedd gweld gwleidyddion, swyddogion a gwirfoddolwyr huawdl iawn fel fi yn troi’n dawedog. Er na fyddai neb yn cyfaddef y peth ar y pryd, roedd y profiad yn ormod i bob un ohonom ni.

Pallodd yr ysgrifennu manwl, aeth y cwestiynau yn llai brwd eu mynegiant a chafwyd dyhead am awyr iach, ‘paned a sgwrs.

Roedd modd i ni adael y carchar.

Wynebau sy'n dal yn fyw yn y cof

Yn fy achos i, erys wynebau y trueiniaid sy’n parhau yno yn amrwd fyw yn y cof.

Y prynhawn canlynol, gwelodd tipyn Cynulliad y Cymry yn dda i ddangos ei ddannedd. Cafwyd unfrydedd prin ymhlith yr holl bleidiau taw nid dan yr amgylchiadau hyn y dylid caethiwo’r rhai sy’n ceisio lloches.

Gellir tybio, gan ddefnyddio geirfa Feiblaidd, i Edwina Hart a Barabara Roche o’r Swyddfa Gartref gael anghydfod nid bychain ynghylch y peth.

Er nad oes gan y Cynulliad bwerau penodol sy’n ymwneud â charchardai, gall ddefnyddio grym gwleidyddol a moesol aruthrol drwy alw swyddogion a gwleidyddion i gyfrif am eu hymddygiad. Cafwyd bwriad i wneud hyn.

Dwyn i gof wirionedd mawr

Yn wyneb yr unfrydedd hwn, da oedd derbyn datganiad Rowan Williams, Archesgob Cymru, yn gwerthfawrogi safiad y Cynulliad yn erbyn polisi’r Swyddfa Gartref.

Yn ystod yr wythnos hon hefyd, trwy ddamwain amserol, cafwyd drama deledu arbennig o dda ar S4C yn trafod achosion Nuremburg ar ôl yr ail ryfel byd.

Dygwyd i gof y gwirionedd mawr y bydd drygioni yn ffynnu pryd bynnag y bydd pobl dda yn dweud dim. Da yw gweld fod pobl dda Cymru yn barod i fynegi barn.



 
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy