
 |
 |
Côrdydd
yn codi llais
Cystadleuaeth
wefreiddiol
Ebrill 2003 |
Mewn noson wefreiddiol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, nos Sadwrn,
Ebrill 12, 2003, daeth Côrdydd o Gaerdydd i frig Cystadleuaeth Corau
BBC Radio Cymru 2003.
Y
pedwar côr oedd yn brwydro am y teitl oedd Côr Caerdydd, Côrdydd,
Côr Adlais o Sir Fôn a Chantorion Rhos.
Cyhoeddwyd yr enillydd gan un o'r beirniaid, Huw Tregelles Williams
a chyflwynwyd y tlws i'r arweinydd Sioned James gan Keith Jones,
Pennaeth Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru.
Beti George oedd arweinydd y noson.
Yn
ogystal â'r tlws a'r anrhydedd o ennill y gystadleuaeth fawr hon
mae Côrdydd yn derbyn tlws arbennig a gwobr o £2,000. Daeth Côr
Caerdydd yn ail, Cantorion Rhos yn drydydd a Chôr Adlais yn bedwerydd
gan dderbyn £1,000, £750 a £500 yr un.
Roedd y wledd gerddorol i'w chlywed yn fyw mewn rhaglen arbennig
ar Radio Cymru.
Dechreuodd y gystadleuaeth hon gydag 14 o gorau cymysg o bob rhan
o Gymru yn brwydro am le yn yr ail rownd yn gyntaf, ac yna'r rownd
derfynol.
Gwobrwyo cyfansoddwr
Yn ystod y noson hefyd cyhoeddwyd mai Einion Dafydd yw enillydd
Cystadleuaeth Gyfansoddi rhaglen Y Celfyddydau ar Radio Cymru, a'i
gwobr o £2,000. Mae Einion Dafydd yn dod yn wreiddiol o Gaerdydd
a bellach yn gweithio i Gyngor y Celfyddydau ym Mae Colwyn.
Perfformiwyd
y darn buddugol, 'Awr Cwsg', a orffennwyd wythnos cyn genedigaeth
ei bedwerydd plentyn gan y côr a ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth
y Côr Agored yn Eisteddfod Tyddewi y llynedd.
"Rydyn ni'n gobeithio i Einion gael gwefr o glywed ei waith yn cael
ei ganu am y tro cyntaf," meddai Owain Arfon Williams uwch gynhyrchydd
Y Celfyddydau. "Roedd hi'n wefr i'r gynulleidfa yn y neuadd a'r
gwrandawyr gartref glywed yr holl berfformiadau."
"Roedd hon yn dipyn o fenter i Radio Cymru - creu cystadleuaeth
newydd sbon i gorau cymysg Cymru," meddai Keith Jones, Pennaeth
Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru.
"O'r dechrau'n deg fe fu'r safon yn hynod o uchel a'r cystadlu'r
frwd. Mae heno wedi bod yn wledd gerddorol.
"Llongyfarchiadau mawr i Einion Dafydd, y cyfansoddwr buddugol,
a llongyfarchiadau hefyd i Gôrdydd, yr enillwyr. Rydym nawr yn gobeithio
y bydd y gystadleuaeth hon yn mynd o nerth i nerth."
Cafodd Einion eieni yng Nghaerdydd ym 1962, ac aeth i Ysgol Gymraeg
Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari.
Dywedodd ei fod yn ddiolchgar iawn i athrawon cerdd yr ysgol - ond
yn enwedig i Eilonwy Jones (Jenkins yr adeg honno) oherwydd gyda'u
brwdfrydedd hi dros ei phwnc, doedd y wers ddim yn gorffen ar ganiad
y gloch …..ond yn hytrach pan fyddai'r gerddoriaeth yn tewi!
Graddiodd mewn cerddoriaeth yn y Brifysgol ym Mangor, ac yna bu'n
astudio ym Mharis gyda gweddw'r cyfansoddwr Darius Milhaud a chyfnod
pellach yn gweithio yn archif Milhaud yng Nghalifornia.
Enillodd radd MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa fel cerddor ffrilans - yn
cyfansoddi, chwarae a dysgu cerddoriaeth.
Mae'n dad i 4 o blant - Glain, Wesyn, Cedol a Marteg.
Un o'i uchafbwyntiau cerddorol personol hyd yma yw casgliad o drefniadau
jazz "Hey! Ferchetan".
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|