
 |
 |
Peg
mochyn
a phedol
Katherine O'Brien o Drawsfynydd yn cofio ei thaid, y gof
Mawrth 2003
|
Hen ffordd o fyw sydd wedi darfod
Ffôr bei ffôr, cwadbeic, modem ac e-bost, dyna eirfa'r oes hon -
ond cofiaf amser pan oedd yr eirfa'n un dra gwahanol, swch, cwlltwr,
hoelion rhew, peg mochyn a phedol - dyna iaith fy nhaid, Robert
Owen (1865 - 1943), Pen-gof Trawsfynydd.
Toriad naturiol mae'n debyg, yn hytrach nac ymdrech dyn a achosodd
i'r garreg ar odre'r wal gymryd ffurf cadair, ond 'roedd yn orsedd
i'r dim er mwyn eistedd ar gyfer yr hofel i wylio Taid yn pedoli,
gydag arogl carn ceffyl yn llosgi yn llenwi fy ffroenau.
Yr efail
Gefail Robert Owen, Tan y Fynwent, Trawsfynydd, ydoedd - adeilad
unllawr o garreg a tho llechi, gyda mynediad iddo drwy ddrws stabl.
Tu allan, wrth ochr chwith y drws 'roedd casgen fawr bren a phibell
o'r lander iddi er mwyn casglu dwr glaw. Ochr arall i'r drws oedd
ffenestr adeiniog wedi ei rhannu'n dri chasment.
Ynghlwm i'r efail ond ar lefel ychydig yn uwch 'roedd yr hofel,
gyda dwy stepen i lawr i'r efail o'r drws cysylltiol.
Yn ôl yn yr efail roedd dau bentan, un i wneud pedolau a'r llall
yn cael ei danio pan oedd angen gwneud cylch i fynd ar olwyn. Byddai'r
cylch yn fflamgoch yn mynd am yr olwyn bren, felly ar ôl ei forthwylio
ymlaen, byddai'n rhaid taflu dwr oer drosti rhag i'r pren losgi.
'Roedd effaith y dwr oer hefyd yn gwneud i'r haearn grebachu a thrwy
hynny wasgu'r sbôcs pren nes oeddent yn griddfan mewn protest yn
erbyn y grym tawel oedd yn eu hel tuag at y foth.
Ar y wal, wrth y ffenestr, rhes o bedolau gwahanol maint yn hongian,
rhai mawr i'r ceffylau gwedd, rhai llai i'r merlod. Wedyn rhes arall
o arfau at bob pwrpas, ynghyd â bocsys hoelion, gyda phennau sgwâr
ar y rhai pedoli.
Eisteddai'r eingion ar flocyn pren yng nghanol y llawr, ond eto
o fewn cyrraedd y pentan. 'Roedd y blocyn yn sicrhau fod "sbring"
yn yr eingion er mwyn lleihau ymdrech y gof wrth iddo guro'r haearnau
i siâp.
Gwella'r defaid
Gerllaw, 'roedd hanner casgen o ddwr, i bwrpas oeri'r pedolau a
chofiaf nifer o blant yn cael eu hanfon gan eu rhieni, i'r efail
i gael gwared a defaid trwy dtrochi eu dwylo yn nwr y gasgen.
Ac wir i chi, o fewn wythnos neu ddwy byddai'r defaid wedi diflannu!
Trwy'r drws cefn 'roedd mynediad i sied sinc hir, ymhle cadwyd yr
haearnau gwahanol oedd yn cael eu defnyddio at yr holl waith amrywiol.
Yno byddai Taid yn hogi ebillion, cyllyll a'i tebyg ar olwyn tywodfaen
fawr, gyda throedlath yn ei gyrru. Yno hefyd mewn casgen cadwai
India Corn i'w ieir.
Yng nghefn y sied 'roedd offis fach gyda sêff ynddi, a lle tân i
Taid gael eistedd i ddarllen Papur Pawb ar ddydd Sul.
Byddwn yn nôl y papur i siop Jinni Owen, a byddai Taid yn rhoi llond
llaw o finciag hefo papur tebyg i bapur Roses amdanynt i
mi oddi ar silff uwchben y ffenestr, am y gymwynas.
Wrth sôn am y sied, ar un cyfnod llogai Taid yr hen efail ger Pentre'r
Bont yn ymyl Maesgraean, oddi wrth Mr Wood, Pantglas, i bwrpas storfa.
Un da ei law
'Roedd
yn gallu troi ei law at bob math o waith, ac oherwydd hynny ystyriwyd
ef fel Pen gof (Master Blacksmith), yn ogystal â bod yn ffarier.
Er enghraifft byddai'n gwneud rheiliau a giatiau o bob maint a siâp,
gyda llawer o'i waith yn dal i'w weld hyd heddiw fel y rheiliau
a'r giatiau o Haddef yn y Sgwâr, i lawr i Tan Llan.
Yn ogystal ef oedd yn gyfrifol am y darn hanner-crwn i adwy mochyn
mynedfa Parc Bryn y Gofeb.
Un tro, 'roedd Taid wedi cael archeb i roi estyniad ar adwy iard
gefn Dilwyn, a safai'r adwy yn yr efail yn disgwyl am sylw.
Ar y pryd 'roeddwn i a'm ffrind, Lowri Roberts, yn chwarae o'i amgylch
- wel sôn am banig a dychryn pan aeth Lowri tu ôl i'r gât, a honno
wedyn yn llithro i lawr gan garcharu Lowri druan tu cefn iddi.
Bu raid gweiddi am help gan fod yr adwy'n rhy drwm i ni ei chodi
.
Gwneuthurwr erydr o fri
Gwnaeth dipyn o enw iddo'i hun fel gwneuthurwr erydr, gyda'i fedr
fel crefftwr yn cael ei adlewyrchu ar adeg rasys troi
mewn mannau gwahanol drwy'r Sir, yn enwedig pan fyddai ei wydd arbennig
ef yn ennill!
Nid oedd Taid yn un i gyfyngu ei hun i'r efail ychwaith, 'roedd
ganddo injan ddyrnu hefyd a byddai'n ei hurio i ffermwyr yr ardal.
Yn ei lyfrau cyfrifon, mae cownt Mr John Iorrath, Pandy, ym 1911
yn nodi y canlynol:
Ion 11 - dyrnu 5½ awr 16 swllt a 6 cheiniog
Medi 5 - dyrnu 5 awr 15 swllt
Hyd 16 - dyrnu 5 awr 15 swllt
Yn sgleinio ar ochr yr injan roedd plac pres yn cyhoeddi enw'r perchennog
gyda balchder, sef, Robert Owen - Trawsfynydd.
Mae'r plac gan fy chwaer, Olwen, ym Miwmares.
Car cyntaf
'Roedd hefyd yn un o'r rhai cyntaf i brynu modur yn y pentref, ond
gan na allai ddreifio, rhaid oedd cyflogi ei nai, Gruffydd Owen,
yn yrrwr i'w gludo o gwmpas.
Cyn dyddiau'r modur byddai'n teithio o amgylch ar feic Penny
Farthing, cofiaf yr hen feic yn hongian ar y wal yn Nhan Y Fynwent,
hen gartref fy nhaid, oedd bellach wedi ei droi yn stordy ganddo.
Yng nghlawr ei lyfr cyfrifon, 1904 - 09, a welir heddiw yn y Llyfrgell
Genedlaethol, ceir cyfeiriad i'r beic yn y nodyn canlynol gan Morris
Davies (Moi Plas):
"Cofiwn amdano yn marchogaeth y "Beic Pinni Ffardding" laweroedd
o weithiau drwy bentref Trawsfynydd."
Setlo yn y ffair
Yn ffair glan gaeaf Llan Ffestiniog byddai Taid yn cael taliadau
i setlo cowntiau y ffermwyr 'roedd wedi gwneud gwaith i drwy gydol
y flwyddyn.
Byddai'r gwaith yn amrywio o osod pedolau hen a newydd, i drwsio
gwerthyd buddai, trwsio swch a chwlltwr, hasio picfforch, trwsio
mwnci, hogi cwlltwr, hogi ebill, gwneud peg mochyn, cylchu olwynion
a.y.y.b.
Roedd Taid yn gwerthu pethau yn ogystal, a chlywais sôn amdano mewn
ffair cyflogi pladurwyr yn ceisio gwerthu peiriant cneifio. Gwerthai
bladuriau a pheiriannau torri gwair hefyd, gwerthodd bladur newydd
i Richard Pugh, Gelli Goch ym Mehefin 1903 am 3 swllt a 10 ceiniog.
Torri pen y ceiliog
Allan
yng nghefn yr efail oedd cwt ieir a chwt mochyn, hefyd hen danc
dwr o'r gwersyll milwrol ym Mronaber, wedi ei droi wyneb i waered.
'Roedd twll crwn yn ochr y tanc, a Taid wedi torri darn o'r ochr
arall i greu agoriad drws ynddo, wel dyna'r ty bach delaf welodd
neb erioed - chwaraeais ynddo am oriau lawer.
Mae gennyf gof o hel wyau gyda nain a mynd a hanner dwsin adref
gyda mi mewn bag melfed brown - eu rhoi ar y gadair, a'n nhad yn
eistedd arnynt!
Diwrnod braf o'r haf oedd hi pan ganodd yr hen geiliog gwyn am y
tro olaf.
'Roedd Taid wedi penderfynu bod hi'n amser iddo fynd i'r pot-rostio.
Torrodd ei ben i ffwrdd gyda bwyall, ac edrychais a'm ceg yn agored
wrth i'r hen geiliog wneud yr Highland Jig, heb ei ben, a
throi fel top cyn disgyn yn farw!
'Roedd yn hoff iawn o blant a gwenai'n siriol arnynt gan edrych
dros ben ei sbectol fain a honno fel petai wedi ei gludo ar flaen
ei drwyn.
'Roedd cefn yr efail yn lle i ni gael chwarae trwy'r dydd, ac os
yn bwrw glaw cawn fynd i'r hofel ymhle 'roedd wedi gwneud siglen
i ni.
Tail a gardd
Byddai tail ceffylau, a gallwch ddychmygu fod tipyn ohono - yn enwedig
pan fyddai rhes o geffylau yn aros i'w pedoli - yn cael ei gasglu
i gyd i'w ddefnyddio yn yr ardd lle'r oedd coed eirin, tatws, moron,
betys cochion, a swêds.
Yng nghysgod y wal tyfai mefus, yno hefyd roedd mainc i Taid gael
eistedd hefo'i getyn - cnoi baco byddai pan oedd wrthi'n gweithio,
gan boeri'r sug allan bob ryw hyn a hyn.
Ambell i dro byddai ryw stalwyn gwedd gwamal yn gwrthod codi ei
droed i'w bedoli, ond ni fyddai Taid fawr o dro yn ei sortio allan
gydag ergyd sydyn o'i forthwyl yn daclus ar ffolen yr anifail -
buan iawn câi ei gydweithrediad wedyn!
Rhyfedd felly oedd gweld fod ganddo ofn tarw, pe byddai un yn y
cae a Taid angen mynd i'r ardd, brasgamai yno dan gau y giât yn
gyflym ar ei ôl!
Hogi cyllell - i ladd Taid!
Roedd ganddo nifer o ffrindiau fel Owen Owens y saer a Gruffydd
Pugh - cynhyrchwr trydan y pentref.
Un
direidus oedd Gruffydd Pugh, a dyma'r stori glywais am y braw rhoddodd
i'm Taid rhyw dro:
Un noson stormus aeth Taid i lawr i waelod y pentref i weithdy Gruffydd
Pugh i edrych amdano.
'Roedd yn wlyb fel brân pan gyrhaeddodd. Agorodd Gruffydd y drws
iddo, gan ei gau ar ei ôl, ei gloi, a rhoi'r allwedd yn ei boced
a mynd ati wedyn i hogi cyllell, gan ddweud;
"Cythraul o noson Robin, mae'n debyg fod neb allan o gwmpas y llan?"
"Nag oes, nag oes, does neb o gwmpas", meddai Taid.
"Felly, welodd neb chdi'n dod yma ta?" meddai Gruffydd Pugh gan
ddal i hogi'r gyllell gyda brwdfrydedd mawr.
"Na, diawl o neb!" atebodd Taid yn ddiamynedd.
"Wyt i'n siwr fod neb wedi dy weld di yn dod yma heno?" meddai unwaith
eto a rhyw olwg wallgof arno wrth iddo ddal i hogi'r gyllell yn
ddidrugaredd.
"Wel naddo, welodd neb mohona'i. Pam ddiawl 'ti isio gwybod os welodd
rhywun fi a'i pheidio?"
Edrychodd Gruffydd Pugh arno gyda'r gyllell finiog yn ei law a dweud
yn dawel a phwyllog, "Ryw hen awydd dy ladd di sy' gen i - a fyddai
neb yn gwybod pwy fyddai wedi gwneud gan fod neb wedi dy weld di
yn dod yma!"
Trodd Taid am y drws, ond 'roedd ar glo, gwylltiodd yn gacwn wrth
Gruffydd Pugh gan nad oedd yn gweld y jôc ac am iddo fod wedi dychryn
am ei fywyd!
O naw tan naw
O naw tan naw byddai ei oriau busnes yn yr efail, ond ar ddydd Sadwrn
byddai'n gorffen yn gynharach gan rhoi y caeadau ar y ffenestr tan
fore dydd Llun.
Ond
yn gynnar ym mis Rhagfyr 1943, arhosodd y caeadau ymlaen, byth i'w
tynnu eto ganddo. 'Roedd Taid yn wael iawn a bu farw deuddydd ar
ôl Nadolig, yn 78 oed.
Gyda'i ymadawiad caewyd pennod yn hanes yr efail, 'roedd y byd yn
newid unrhyw ffordd, gyda thractorau a pheiriannau yn cymryd drosodd
o'r ceffylau, a'r teiar rwber yn cymryd lle'r cylch haearn.
Yr olaf o frîd
'Roedd Taid yn un o'r rhai olaf o frîd o ofaint a welodd cyfnod
euraidd y gof, a thrwy hynny cyrhaeddodd binacl ei grefft.
Mae'r efail wedi hen ddiflannu bellach, dim ond ychydig gerrig i
ddynodi ble safai'r adeilad oedd unwaith yn llawn prysurdeb a man
cyrchu ffermwyr y fro gyda'i ceffylau.
Ond
mae ngorsedd garreg yn dal yno o hyd, ac os caeaf fy llygaid clywaf
swn y fegin yn chwythu a gallaf unwaith eto arogli'r carnau'n llosgi,
a gwelaf Taid yn wincio arnaf dros dop ei sbectol. Ie, ffein a difyr
byddai cael gweled y go' bach a'i wyneb purddu unwaith eto.
I gloi, geiriau caredig R.J. Roberts, Fronheulog, Gellilydan, "Bob
y Gof o'r Traws oedd y gorau o ddigon.
Mae o'n glod i'r ardal. Bob a'i deulu yn yr efail, Stryd Fain, ac
ni welwn ni ddim rhai tebyg byth eto."
|
 |

  |
 |
 |
 |
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|