
 |
 |
Patagonia
ym Mhenmaenmawr
Blas yr Ariannin yng ngogledd Cymru
Chwefror 2003 |
gan Cathrin Williams
Beth sy'n cysylltu cofeb Gwenllian yn Sempringham a bwyty Patagonia
ym Mhenmaenmawr? Yr ateb ydi, gwr o'r enw'r Capten Richard Turner.
Yn y flwyddyn 1993, wedi iddo ddarllen erthygl ar y Dywysoges Gwenllian
yn y Guardian, gosododd y diweddar Richard Turner garreg
goffa ar ei bedd yn Sempringham ac yn dilyn ymgyrchu ganddo fo,
Angharad Thomas ac eraill, sefydlwyd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.
I'r Ariannin yn fachgen ifanc
Mae'n deg dweud na fyddai enw Gwenllian mor gyfarwydd inni heddiw
oni bai am y cyn-forwr hwn o Gaernarfon.
Fel morwr yr aeth Richard Turner allan i Ariannin yn fachgen ifanc.
Yno, yn Buenos Aires ble bu'n gweithio am gyfnod, cyfarfu â merch
o'r Wladfa a'i phriodi.
Ganed mab iddyn nhw, ond yn fuan chwalodd y briodas, ac ymhen amser
ailbriododd Elda Cooper, a chyda hi a'i lystad y magwyd y mab, sef
Juan, neu John Turner.
Priododd yntau a ganed iddo ef a'i wraig bedwar o blant. Yn y flwyddyn
1990 bu farw gwraig Juan a blwyddyn yn ddiweddarach daeth ef i Brydain,
gan dreulio blwyddyn yn Lerpwl yn dysgu Saesneg cyn dod at ei dad,
y Capten Richard Turner, i Gaernarfon.
Daeth dau o'r plant ato yma, a chafodd y ferch, Myfanwy, beth o'i
haddysg yn y dre fel ei bod bellach, a hithau ar ei blwyddyn gyntaf
ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dairieithog.
Gwireddu breuddwyd
Yma,
yng Nghymru, y cafodd Juan Turner wireddu ei freuddwyd o agor bwyty.
Wedi gweithio am gyfnod yn gogydd mewn cartref preswyl, yn ystod
haf 2002 agorodd Patagonia, ym Mhenmaenmawr, bwyty â blas
Ariannin ar y fwydlen.
I Juan, rhyw estyniad ar fywyd y teulu oedd agor y bwyty hwn, ond
â chanddo bedwar o blant i'w magu a rhoi addysg dda i bob un, dyma
ei gyfle cyntaf i fentro.
Yn Patagonia mae rhywbeth at ddant pawb, ond mae rhai pethau arbennig
i'r rhai sy'n hoffi arbrofi.
Gellir dechrau'r pryd gyda'r "platiau bach" sef dysglau o wahanol
fwydydd, oer gan fwyaf, y gellir eu rhannu rhwng dau neu dri.
Er bod modd bwyta pasta, yn naturiol ddigon, a hwn yn lle Archentaidd,
ar y cig mae'r pwyslais, a hwnnw wedi ei weini gyda llysiau gwahanol
yn ôl pa gig a ddewisir.
Mae'n braf cael bwyty sy'n gwybod nad yr un llysiau sy'n addas gyda
phob math o gig. Os bydd lle ar ôl, mae digon o ddewis o bwdinau.
Ac i fynd gyda'r bwyd mae gwinoedd da o Ariannin.
Menter i Juan yw rhedeg bwyty wedi'r holl flynyddoedd o freuddwydio,
ond fel ei dad o'i flaen, pan fo'n cael syniad mae'n mynnu gweithredu.
Yr un ysbryd ag a osododd y garreg gyntaf honno ar fedd Gwenllian
sydd wedi agor bwyty Archentaidd ym Mhenmaenmawr.
O ddechreuad bychan y datblygodd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian
a dymuna ei gyfeillion yr un llwyddiant i fenter y mab.
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|