bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dafydd Iwan Maes
Protest

Hywel Teifi Edwards yn dadlau dros yr hawl i brotestio yn y Steddfod Genedlaethol
Ond gair o rybudd gan Dafydd Iwan

Dydd Mercher, Mawrth 29, 2000
Onibai am brotest, fuasai yna ddim Eisteddfod genedlaethol wedi bod o gwbl yn ôl Hywel Teifi Edwards - prif hanesydd yr Eisteddfod yng Nghymru.

"Buaswn i’n disgwyl bod selogion yr Eisteddfod yn ymateb i unrhyw fath o argyfwng fydde’n wynebu’r diwylliant hwnnw. Ond y gwir plaen yw nad yw’r Eisteddfod dros y degawde wedi bod mor barod â hynny.

Pob diwylliant yn boliticaidd
"Un peth yw mwynhau diwylliant eisteddfodol, peth arall ydy arddel cyfrifoldebe drosto ac erbyn hyn mae pawb yn derbyn yn gwbwl naturiol bod pob ffurf ar ddiwylliant yn ei hanfod yn fater politicaidd. Fell, os oes ’na brobleme neu fygythiade i’r Gymraeg fe fydden ni’n disgwyl i’r Eisteddfod ymateb yn greadigol."

Yn yr 1860au pan lansiwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gynta fe’i Seisnigeiddiwyd mor ddybryd gan Hugh Owen a’i gyfeillion, yn ôl Hywel Teifi, nes i’r beirdd gynnal Eisteddfod brotest yng Nghastell-Nedd yn 1866, bythefnos ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Caer am fod cynifer o feirdd a llenorion wedi cael llond bol ar yr hyn oedd yn digwydd

"Digwyddodd yr un peth ugain mlynedd yn ddiweddarach yng Nghaerwys yn 1886.

"’Does dim byd yn newydd a hir y parhaed, mae’n draddodiad iach iawn," ychwanegodd.

Dim digon o ysbryd protestgar
"Rhy ychydig o’r ysbryd protestgar creadigol sydd wedi bod ac os na ellir lleisio barn ar faes yr Eisteddfod a disgwyl ymateb cadarnhaol gan y Cymry Cymraeg, ble arall gellir disgwyl hynny?"

Ychwanegodd i’r Eisteddfod Genedlaethol fod yn fforwm bwysig o’r cychwyn - a mae tu hwnt o bwysig bod hi’n parhau i fod yn fforwm o’r fath. Onibai bod ein diwylliant ni’n llawn tensiynau byddai’n peidio bod o unrhyw werth mewn fawr o dro.

"Mae’n well gen i wynebu’r treialon a’r ofnau na bod ni’n llunio rhyw ddiwylliant cysur yn twyllo’n hunain ac eraill bod dim bygythion yn bod," meddai.

"Yn anffodus, yn Oes Fictoria, dyna’n union oedd yn digwydd yn aml iawn yn yr Eisteddfod."

Ond dywedodd Hywel Teifi Edwards hefyd ei fod yn gresynu i sawl cyfle gael ei golli gan yr Eisteddfod i ddangos ei hochr.

Colli cyfle i gefnogi Deddf Iaith
"Yn 1990, pan oedd yna ymgyrchu mawr am Ddeddf Iaith newydd a phan oedd rhai ohonom ni’n daer iawn dros gael cyfarfod protest trefniedig yn y Pafiliwn - yn Eisteddfod Cwm Rhymni - fe gollwyd y cyflle hwnnw’n llwyr," meddai.

"Ar yr union adeg pan oedd eisiau datganiad cadarn gan y genedl!

"’Roedd David Hunt newydd ddod yn Ysgrifennyd Cymru, ’roedd hi’n adeg dyngedfennol. Ond fe fuodd y cyfarfod hwnnw - o safbwynt y nifer ddaeth iddo, yn y lle cyntaf - yn fethiant truenus. Ac i unrhyw lywodraeth fydde’n edrych, dyma Eisteddfod Genedlaethol a dyma ymateb y Cymry Cymraeg i’r galw am Ddeddf Iaith - pam ddiawl ddyle nhw boeni?"

Barn Dafydd Iwan
Cafwyd ymateb yn y rhaglen gan gyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Dafydd Iwan a ddywedodd: "Rhaid peidio gor-ddefnyddio’r Eisteddfod fel lle i brotestio achos mae’n lwyfan rhy hawdd," meddai.

"’Roedd hi bron bod yn brosesiwn blynyddol i chwilio am bwnc ac yna bydden ni’n cael gorymdaith i Babell y Swyddfa Gymreig - efo’r Glowyr, efo’r Ffermwyr, efo’r Sianel - ’ro’dd y brotest wedi dod, bron na allech chi ei rhoi hi yn Rhaglen y Dydd. ’

" Ro’dd ’na beryg yn hynny, bod y brotest yn rhywbeth otomatig a ’dwi’n meddwl bod eisie bod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio maes yr Eisteddfod fel maes protest rhag iddi ddod yn routine yn hytrach na rhywbeth sy’n digwydd o achos amgylchiade ar y pryd."

Mae Dafydd Iwan yn bryderus hefyd fod yr Eisteddfod yn dibynnu gormod ar nawdd y Llywodraeth.

"Dyna pam ’dwi o blaid cynnal yr Eisteddfod mewn un, neu ychydig, o lefydd fel ei bod hi’n gallu sefyll ar ei thraed ei hun yn ariannol a bod yn fwy annibynnol ei barn.

"Ar hyn o bryd ’dwi’n ofni ei bod hi’n gorfod edrych dros ei hysgwydd yn ormodol tuag at y Cynulliad neu’r Llywodraeth ac felly mae wedi colli’i hannibyniaeth."

Beth yw eich barn chi? Fuoch chi mewn protest yn y Steddfod? Anfonwch ar Cymru'r Byd i ddweud eich barn ac i son am y profiad. Cyfeiriad gwebost y Golygydd Nodwedd yw a gellir anfon yn syth ato trwy glicio yma: glyn.evans@bbc.co.uk

 
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy