
 |
 |
Gwylltio
a maddau
Hyd yn oed mewn trychineb mae lle i faddeuant a phwyll |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Medi
12 , 2004.
Savage a maddeuant
Fel sawl un arall yn y dorf nos Fercher diwethaf roeddwn yn gwybod
o'r funud y cafodd Savage ei lorio y byddai'n cael ei anfon o'r cau.
Dywed rhai i Domenico Messina wneud camgymeriad wrth fynnu hynny.
Er fy mod yn llawn gredu i'r reff bydenwog hwn o'r Eidal cael gêm
wael, ni allaf weld bai arno am anfon Savage o'r cae.
Doedd ymateb gwyllt o'r fath yn gofyn am ddim arall.
Beio Hughes
Fe aeth sawl un i feio Hughes am ein methiant yn y ddwy gêm gyntaf.
Dywed rhai iddo fethu canolbwyntio gan fod ei feddwl ar swydd rheolwr
Blackburn. Tybiaf taw lol yw hyn.
Nid bai y dyn tawel ond hynod fedrus hwn yw bod eraill yn siarad.
Beth bynnag, teimlai'n angerddol am y cyfan a oedd yn digwydd nos
Fercher diwethaf wrth i gêm gyfartal arall bylu rhywfaint ar ein gobeithion.
Roedd tyndra a gofal y cyfan i'w weld ar ei wyneb.
Beio'r tactegau
Da oedd deall yn y Western Mail pam y cafwyd methiant ar ein
rhan yn ystod yr ail hanner i ennill y gêm yn erbyn naw dyn.
Llygad brofiadol neb llai na John Toshack a sylwodd i James Collins
gael ei wthio ymlaen i ymuno â'r ymosodwyr. Fe gafodd hyn yr effaith
o wasgu'r lle oedd ar gael i Hartson, Earnshaw a Bellamy.
Yn ôl y gwybodusion, yr unig beth y gall amddiffyn tîm Gogledd Iwerddon
ei wneud yn dda yw chwarae yn erbyn peli uchel. Rhoddwyd cyfle ar
ôl cyfle iddyn nhw wneud hynny y noson o'r blaen.
Condemniwyd y tactegau hyn gan Toshack. Yn wir, disgrifiodd y cyfan
fel 'shambles'.
Lle i faddeuant
Gallaf faddau i Savage am fod yn wirion ond gofynnaf am edifeirwch
ar ei ran plis. Nid ar Savage yn unig y mae'r bai am fod yn wirion.
Fe
allai gwr bonheddig arall o'r enw Ryan Giggs fod wedi gwneud gwahaniaeth
oni bai iddo yntau fod yn wirion mewn gêm arall.
Gallaf ddeall rhwystredigaeth rhywun fel John Toshack ond nid wyf
yn gweld sut y byddai colli Hughes o unrhyw gymorth.
O leiaf y mae eisoes wedi profi y gall gyflawni gwyrthiau gyda'r chwaraewyr
sydd ar gael iddo.
Erbyn hyn, y mae angen gwyrthiau arnom.
Cynnal gobaith
Fe all beirniadu pawb a phopeth leddfu rhywfaint ar y dioddefaint
a gellir dwyn peth rhyddhad wrth ymateb fel y gwnaeth Savage yng nghyswllt
y gêm gyfartal hon.
Mentraf awgrymu bod lle hyd yn oed yn sgil trychineb fel hon i faddeuant
a phwyll.
Fe all peidio â dial ein galluogi i ddod i delerau â cholli ambell
frwydr ac, oddi yno, ganfod ein ffordd yn agor i'r rownd nesaf mewn
bywyd.
Nid yw'n rhy hwyr hyd yn oed i dîm pêl droed Cymru nac i ni ychwaith.
Ebostiwch eich ymateb
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|