BBC HomeExplore the BBC

LLUN
23ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Crefydd

Crefyddau
Dyfyniadau
Llinell Amser
Lluniau
Llusern
Straeon


BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Straeon
Anna Jane Evans Pererindod dros y tlawd
O Ynys Seiriol i Ynys Enlli mewn 30 awr
Mae Anna Jane Evans a John Roberts wedi cwblhau eu taith gerdded o Benmon, Ynys Môn i Uwchmynydd ger Aberdaron.

Bu'r ddau, Anna Jane Evans yn drefnydd Cymorth Cristnogol yn y gogledd, a John Roberts yn gyflwynydd Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru, yn cerdded y 60 milltir mewn 30 awr o olwg Ynys Seiriol i olwg Ynys Enlli er mwyn codi arian tuag at weithgarwch Cymrorth Cristnogol.

Wedi cyrraedd Eglwys Aberdaron "Fe wnes i ymgymryd â'r her er mwyn codi arian ar gyfer cymunedau tlotaf y byd," meddai Anna Jane Evans.

"Mae'r wasgfa ariannol, fel popeth arall, yn cael effaith ddwysach ar bobl dlotaf y byd."

Roedd eu hapêl am nawdd yn parhau hyd yn oed ar derfyn y daith! Ac meddai John Roberts, "Mae'n debyg mai dyma'r peth agosa i bererindod fedrwch chi gael yn yr unfed ganrif ar hugain - dilyn hen lwybrau ond, gobeithio torri tir newydd a gwneud lles i bobl eraill yn sgil y peth. Ac yn ôl un arbenigwr mae pererindod i Enlli yn golygu blwyddyn llai ym mhurdan i ni hefyd!"

gwrando Dyddiadur sain Anna Jane Evans a ddarlledwyd ar Bwrw Golwg, Medi 13, 2009

Cyhoeddwn uchod on ddyddiadur sain a gadwodd Anna Jane Evans yn ystod y daith.

Noddi'r cerddwyr


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy