BBC HomeExplore the BBC

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Crefydd

Crefyddau
Dyfyniadau
Llinell Amser
Lluniau
Llusern
Straeon


BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Straeon
George Noakes Cofio George Noakes
Patrick Thomas yn cofio cyfaill cywir a bugail da
Bu farw'r Gwir Barchedig George Noakes, cyn-Archesgob Cymru, yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, Gorffennaf 14.

Roedd yn 83 oed ac yn Archesgob Cymru rhwng 1987 a 1991.


  • Patrick Thomas yn cofio George Noakes

    Bu'r Tra Pharchedig John Wyn Evans, Deon Tyddewi, a'r Dr Meredydd Evans yn sôn am George Noakes ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg fore Sul, Gorffennaf 20 gyda John Roberts yn eu holi.

    Cadw at ei wreiddiau
    gwrando Wyn Evans, deon Tyddewi, yn sôn am George Noakes


    Disgrifiodd Wyn Evans ef fel dyn diymhongar a chraff a oedd yn deall y Gymru wledig ac a gadwodd yn driw i'w wreiddiau.

    "Wnaeth e erioed anghofio ei wreiddiau," meddai gan ychwanegu ei fod yn ŵr pwyllog a phob amser yn dda ei gyngor.

    Yn batrwm o fywyd Cristnogol

    gwrando Meredydd Evans yn siarad am George Noakes.


    Disgrifiodd Meredydd Evans ef fel cyfaill agos iawn a fu o gymorth mawr iddo yn ystod cyfnod personol anodd yn ei fywyd yn ceisio cefnu ar yfed.

    "Yr oeddwn yn gwybod ei fod efo fi yn yr argyfwng," meddai wrth gyfeirio'n ôl at gyfnod George Noakes yng Nghaerdydd pryd yr oedd o hefyd yn aelod o ddosbarth Athroniaeth Meredydd Evans.

    Fe'i disgrifiodd hefyd fel offeiriad a bugail "rhagorol" a oedd yn bregethwr effeithiol a gafaelgar.

    "Yr oedd mynd i'r gwasanaethau yn bleser ac yn fendith bob amser," meddai.

    Yr oedd hefyd, meddai yn ymroddedig i fywyd Cymraeg Caerdydd yn ystod ei gyfnod yn gofalu am Egflwys Dewi Sant yn y Brifddinas.

    "Yr oedd yn ddyn hawdd iawn, iawn, ymwneud ag o . . . ac yn batrwm o fywyd Cristnogol," meddai.

  • Marw George Noakes
  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy