BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Straeon
Rhan o faner y mudiad Hizballah - ei hanes
Meilyr Ceredig yn sôn am gychwyn a datblygiad y mudiad
Hizballah - O Ffurfio i Drawsffurfio
Ffurfiodd mudiad Hizballah - sy'n golygu Plaid Duw - yn Libanus ddechrau'r 1980au a chyhoeddwyd ei faniffesto yn 1985.

Dros y degawdau dilynol tyfodd y mudiad i fod yn un o fudiadau Islamaidd mwyaf grymus y rhanbarth.

Ei brif amcanion wrth sefydlu oedd cael gyrru Israel allan o Dde Libanus a chreu gwladwriaeth holl-Islamaidd wedi'i chanoli o amgylch Iran.

Tri pheth
Mae tri pheth o gymorth i egluro amcanion ffurfio Hizballah yn Libanus yn ystod y cyfnod hwn.
  • Yn gyntaf, roedd sefyllfa economaidd-gymdeithasol y boblogaeth Shia yn Libanus oddi fewn i gyd-destun rhyfel cartref Libanus (1975-1990), wedi mobileiddio cymuned dan arweinyddiaeth newydd.
  • Yn ail, roedd Chwyldro Iran yn 1979 wedi arwain at greu awydd gan Iran i 'Islameiddio'r' rhanbarth trwy gynnig cefnogaeth ariannol a materol i fudiadau o'r fath.
  • Yn olaf; ar lefel genedlaethol roedd meddiannu Libanus gan luoedd Israel o 1982 ymlaen wedi cynorthwyo i blethu syniadaeth genedlaetholgar Lebanaidd ac Islamaidd ynghyd yn erbyn gelyn oedd yn ymosod.

    Tra bo agenda Islamaidd wedi bod yn ddylanwadol ym mlynyddoedd cynnar y mudiad - gydag Iran yn cynnig cymorth ariannol a milwrol - cefnogwyr craidd y mudiad, y gymuned Shia Lebanaidd, a fu'n gyfrifol am wneud y mudiad yn fwy agored i newid a thrawsffurfio dros y degawd dilynol.

    Felly, tra bo dylanwad Iran yn gyson yn cael ei drafod - ac i raddau helaeth yn wir yng nghyd destun agenda ranbarthol a thramor y mudiad - mae agendau domestig Libanus yn gwbwl ganolog i'r mudiad.

    Trawsffurfio
    Yn ystod yr 1990au hyd at y cyfnod presennol mae Hizballah wedi datblygu i fod yn fudiad cymdeithasol sydd yn meddu nid yn unig ar adain filwrol ond hefyd ar adain wleidyddol yn ogystal ac adain sy'n gweithredu'n gymdeithasol trwy redeg ysgolion, ysbytai, cwmnïau a gorsaf deledu.

    Am y rheswm hwn mae sail i gyhuddiad Israel a'r Unol Daliaethau fod y mudiad yn creu gwladwriaeth oddi fewn i wladwriaeth Libanus.

    Cyflymodd trawsffurfiad dulliau ac amcanion y mudiad ymhellach yn 1992 wrth i'r mudiad dderbyn a chymryd rhan yn etholiadau Libanus.
    Yn dilyn etholiad cyffredinol 2005 mae'r mudiad yn dal 14 o seddi yn y senedd ac yn bartner lleiafrifol yn Llywodraeth Libanus gan ddal dwy sedd yn y cabinet gan arnodi trydedd.

    Er mai amcan gwreiddiol Hizballah oedd creu gwladwriaeth holl-Islamaidd wedi'i chanoli o amgylch Iran, mae'r mudiad erbyn hyn yn galw fwyfwy am wladwriaeth fwy cyfiawn o fewn i derfynau ffurflywodraeth Libanus.

    Mae arweinyddiaeth Hizballah wedi dod i dderbyn ei bod yn annhebygol o dderbyn cefnogaeth fwyafrifol i'w amcan gwreiddiol o wladwriaeth Islamaidd.

    Yn ogystal, dangosodd rhyfel cartref Libanus i bob carfan nad yw gorfodaeth yn gallu cyflawni amcanion gwahanol fudiadau drwy fuddugoliaeth lawn.

    Bellach, mae'r mudiad wedi cefnu ar dueddiadau dechrau 1980au o ganolbwyntio'n unig ar ganolfannau poblogaeth Shia de Libanus ac erbyn hyn yn canolbwyntio fwy ar gydweithio rhwng y cymunedau Sunni, Cristnogol a Shia Comiwnyddol.

    Mae athrawiaeth Jihad, sy'n gyson yn cael ei chamddeall yn y Gorllewin fel athrawiaeth dreisgar Islamaidd, wedi cael ei hailddiffinio gan y mudiad.

    Er ei bod yn cael ei ddefnyddio o hyd i gyfiawnhau ei 'gwrthsafiad milwrol' tuag at Israel mae'r athrawiaeth yn gynyddol yn cael ei hailddiffinio hefyd er mwyn cyfiawnhau agenda o weithredu cymdeithasol gan Hizballah - yn debyg i'r cysyniad Cristnogol o lansio crwsâd yn erbyn tlodi.

    Nid yw ailgyfeirio dulliau ac amcanion y mudiad, yn sgil sefyllfa ddomestig a rhanbarthol, yr un peth â dweud fod Hizballah wedi rhoi'r gorau i'w amcanion o 'wrthsefyll' Israel yn filwrol a sefydlu gwladwriaeth Lebanaidd o gymeriad mwy Islamaidd.

    Ond mae'r mudiad wedi derbyn yr angen am fwy o weithredu clymbleidiol ac agwedd fwy agored i gydweithredu ac o ganlyniad mae wedi meddalu a chyfetholi fwyfwy i wleidyddiaeth Libanus gan wneud eu sgôp milwrol yn fwy cul.

    Perthynas Hizballah gydag Israel
    Yn dilyn enciliad lluoedd Israel o dde Libanus yn 2000 gwêl nifer o ffacsiynau arwyddocaol oddi fewn i Libanus a'r rhanbarth fod Hizballah wedi sicrhau buddugoliaeth filwrol yn erbyn Israel nad yw gwladwriaeth Arabaidd arall wedi llwyddo i'w gyflawni.

    Tra bo gelyniaeth Hizballah tuag at Israel yn gysylltiedig a'i chefnogaeth i fuddiannau Palestina, ac wedi ei atgyfnerthu gan ei agosatrwydd hanesyddol i bolisi tramor Iran ar faterion o'r fath, yr oedd ac y mae meddiannu parhaol Israel o ffermydd Shebba yn gynnen o hyd i Hizballah.

    Yn dilyn herwgipio dau o filwyr Israel gan Hizballah ym mis Gorffennaf 2006 ymosododd Israel ar Libanus. Tra bo Llywodraeth Israel wedi gosod nod filwrol o drechu'r mudiad, roedd arweinydd Hizballah, Sheikh Nasrallah, yn llai uchelgeisiol ei strategaeth filwrol gan ddweud mai ei nod oedd sicrhau goroesiad y mudiad.

    Am y rheswm hwn, wrth i gynnig annatod 1701 y CU gael ei basio, a chadoediad yn dod i rym, gallai Hizballah hawlio buddugoliaeth.

    Yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf y daw gwir effaith y rhyfel diweddar rhwng Israel a Hizballah yn glir - boed hynny gydag Hizballah wedi diarfogi neu ag adain filwrol fwy gweithredol.

    Un peth sy'n gwbwl glir ni, fydd Hizballah yn diarfogi nes y bydd yn barod i wneud hynny a bydd yn rhaid i unrhyw lu rhyngwladol dan Gynnig 1701 y CU gael ei weld fel cymrodeddwyr cwbl niwtral yn y gwrthdaro er mwyn sicrhau na fydd camgymeriadau'r gorffennol yn cael eu hailadrodd.

    Meilyr CeredigDyma'r gyntaf o gyfres o erthyglau gan Meilyr Ceredig yn trafod mudiadau Islamaidd sydd yn y newyddion ar hyn o bryd.
    Mae Meilyr Ceredig yn Ymgynghorydd Gwleidyddol gyda Grayling Cymru. Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Abertawe gyda gradd bellach mewn Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth gan arbenigo ar derfysgaeth yn y Dwyrain Canol.

  • Erthyglau Eraill .

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy