BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Crefydd

Crefyddau
Dyfyniadau
Llinell Amser
Lluniau
Llusern
Straeon


BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Straeon
Anthony Crockett, Esgob Bangor Teyrngedau i Tony Crockett
'Cwmnïwr da oedd yn siwtio pawb'
Disgrifwyd y Gwir Barchedig Anthony Crockett, a fu farw ddechrau Gorffennaf, fel cwmnïwr da a oedd "yn fwy nag offeiriad" gan un o'i gyn blwyfolion.

Ar y rhaglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru dywedodd Tim Evans o Gynwyl Elfed, lle bu Tony Crockett yn offeiriad plwyf; "Yr oedd yn fwy nag offeriad ond yn ffrind i'r teulu a'r ardal gyfan."

Fe'i disgrifiodd hefyd fel "cwmnïwr da" yr oedd rhai o bob oed, gan gynnwys plant a phobl ifainc, yn meddwl y byd ohono.

"Yr oedd yn siwtio pawb ac yn tynnu pobl i'r eglwys," meddai.

gwrando Tim Evans o Gynwyl Elfed yn siarad gyda John Roberts ar 'Bwrw Golwg', Gorffennaf 6, 2008


Ar yr un rhaglen cyfeiriodd Meurig Llwyd, Archddiacon Bangor, at weledigaeth Tony Crockett o eglwys gynhwysol, agored.

"Yr oedd yn boen iddo weld carfanau yn gwrthod siarad â'i gilydd," meddai.

Fe'i disgrifiodd hefyd fel esgob a deithiodd i bob cwr o'r esgobaeth gan ymweld ag eglwysi "na welodd esgob ers blynyddoedd lawer" cyn hynny.

Yn ystod ei weinidogaeth dywed iddo fynd â'r eglwys at y bobl.

"A rhoi wyneb dynol iawn i'r esgob a'r weinidogaeth a mynd a hi allan at y bobl y tu hwnt i ffiniau'r eglwys," meddai.

Ychwanegodd y byddai ei stamp ar yr esgobaeth "yn arhosol".

gwrando Meurig Llwyd, Archddiacon Bangior, yn siarad gyda John Roberts ar 'Bwrw Golwg', Gorffennaf 6, 2008


Hefyd:

  • Marw Anthony Crockett

  • Teyrnged Patrick Thomas


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy