BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Crefydd

Crefyddau
Dyfyniadau
Llinell Amser
Lluniau
Llusern
Straeon


BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llusern
Iolo ap Gwynn 'Nid gan grefydd mae'r ateb'
Y derwyddon yn nes na'r Cristion at y gwir medd gwyddonydd
Nid yng nghrefyddau'r byd y mae'r atebion i gwestiynau dyrys ein bodolaeth meddai gwyddonydd blaenllaw.

Yn wir, yn ôl y gwyddonydd Iolo ap Gwynn gall Indiaid brodorol yr America a'r hen dderwyddon fod yn nes at y gwirionedd na dilynwyr y prif grefyddau.

Yr oedd Iolo ap Gwynn, sy'n uwch ddarlithydd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn sgwrsio am ei gred bersonol gyda Beti George ar y rhaglen radio Beti a'i Phobl ddydd Sul Mehefin 15 2008.

Gofynnodd Beti George fyddai'r geiriau "anghrediniwr rhonc" yn ddisgrifiad teg ohono.

gwrando Iolo ap Gwynn yn sgwrsio gyda Beti George ar 'Beti a'i Phobl', Mehefin 15, 2008.

Ydi, meddai, "yn yr ystyr nad ydw i'n credu bod yna unrhyw fath o wirionedd yn unrhyw fath o eglurhad am y cread sy'n dod o grefyddau confensiynol."

Ychwanegodd mai "nonsens" yw'r syniad fod Duw wedi creu'r ddaear mewn saith diwrnod.

'Nid Duw yw'r ateb'
"Mae posib mynd yn ôl i'r cwestiwn y tu hwnt i sut crëwyd y bydysawd ond dydy ni ddim mewn unrhyw fath o sefyllfa i gael unrhyw fath o ateb i'r cwestiwn yna felly does dim pwynt trio creu ateb iddo fo ychwaith ," meddai.

Ychwanegodd nad yr hyn y mae rhai pobl yn ei alw yn Dduw yw'r ateb i'r anesboniadwy.

"Yr hyn maen nhw yn ei wneud ydi cael rhyw stwff sydd wedi cael ei sgrifennu ychydig o filoedd o flynyddoedd yn ôl wedi ei seilio ar chwedloniaeth rhan arbennig o'r byd a trio dweud bod yna rhyw wirionedd yn y peth," meddai.

"[Ond] pam ddylai fod yna unrhyw wirionedd wedi dod i'r rhan yna o'r byd yr adeg yna? Dydy ni ddim yn credu dim byd arall sydd wedi dod o'r cyfnod hwnnw. Fuasem ni ddim yn dibynnu ar feddygaeth sy'n ddibynnol ar wybodaeth y cyfnod hwnnw," ychwanegodd.

Ynglŷn a'r awgrym fod dyn yn reddfol eisiau addoli rhywbeth dywedodd:

"Mae cywreinrwydd yr hil ddynol wrth gwrs eisiau ateb i gwestiynau, eisiau gwybod 'Pam?
"Ond dwi'n ddigon hapus i ddweud, Tu hwnt i hwnna dydw i ddim yn deall a does dim posib cael deall iddo fo felly be ydi'r pwynt trio creu un?"

'Y derwyddon yn nes ati!'
Dywedodd fod athroniaeth Gristnogol yn deillio o'r hyn sydd yn dda i gymuned ond nad yw hynny yn unigryw i Gristionogaeth.

"Mae'r un elfennau i'w gweld yn Islam [a] Bwda - a beth sy'n ddiddorol wrth gwrs ydi, gan yr Indiaid Cochion yng Ngogledd America.

"A dweud y gwir dwi'n meddwl eu bod nhw yn nes ati o lawer.

"Neu efallai bod yr hen dderwyddon yn nes ati achos yr oedden nhw yn amlwg yn hoff iawn o fyd natur ac yn credu fod yr ateb ym myd natur ac yn nes iddi, efallai, na'r crefyddau confensiynol undduwiaeth," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy