BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Madam Bevan (Delwedd: Llyfrgell Genedlaethol Cymru)


Geni Anghydffurfiaeth

Gyda rhyddid crefyddol i Ymneulltuaeth, fe gafwyd cynnydd cyson mewn llythrennedd, a hyn yn paratoi'r ffordd at newidiadau mawr.

Gyda Deddf Goddefgarwch 1689, cafwyd rhyddid crefyddol i Ymneulltuaeth, tuedd annibynnol a ddaeth i fodolaeth yn ystod amser Oliver Cromwell. Bu'r Ymneilltuwyr yn g lynu i'w credoau yn ystod y blynyddoedd o erledigaeth yn dilyn yr Adferiad. Cafodd y capeli Cymraeg cyntaf eu hadeiladu yn ystod y cyfnod hwn, un o'r esiamplau enwocaf oedd Maes-yr-Onnen ger Clas-ar-Wy, Powys.

Y cynnydd cyson mewn llythrennedd oedd yr hyn a hybodd llawer o'r datblygiad yn Ymneulltuaeth. Cafwyd hwb i'r broes hon yn 1650 gyda Ddeddf Lledaeniad yr Efengyl. Bu nifer cynyddol o lyfrau crefyddol ar gael hyd yn oed cyn i'r Ddeddf Goddefgarwch ddod i rym.

Yng Nghymru, ymhlith y llyfrau nodedig a gyhoeddwyd yn ystod yr 1680au fe gafwyd Cannwyll y Cymry gan y Ficer Prichard, a'r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o 'Daith y Pererin' gan John Bunyan. Roedd y gwaith hwn yn arbennig o ddylanwadol ar ffigyrau amlwg y diwygiad Methodistaidd yn hwyr yn y 18fed Ganrif.

Roedd cyfleoedd addysgol yn cynyddu yn y cyfnod yma diolch i waith cyrff fel yr Ymddiriedolaeth Gymreig. Sefydlwyd hon gan Thomas Gouge yn dilyn taith anghyfreithlon a wneth drwy Gymru yn 1671. Bwriad yr Ymddiriedolaeth oedd mynd i'r afael â'r safon isel o lythrennedd a fodolai ar y pryd.

Gan ddilyn dylanwad Piwritan arall, Stephen Hughes, a chan weithio yn y Saesneg i gychwyn, darparodd yr Ymddiriedolaeth gyfiethiad Cymraeg o'r Catecism, y llyfr Salmau a'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Gwnaed hyn yn bosibl diolch i nawdd ariannol gan Arglwydd Faer Llundain, ymysg eraill.

Fodd bynnag, dim ond am gyfnod byr iawn y bu'r Ymddiriedolaeth yn weithgar. Yn fuan cafodd corff newydd ei sefydlu i gario ymlaen â'r gwaith, corff a ddaeth i amlygrwydd maes o law fel y Gymdeithas er Hybu Gwybodaeth Gristnogol, neu'r SPCK.

Roedd gan yr SPCK broblem fawr o ran prinder athrawon yn yr ysgolion, sefyllfa oedd yn waeth oherwydd y ffaith bod y dysgu yn digwydd yn y Saesneg tra bod mwyafrif y disgyblion yn uniaith Gymraeg.

Roedd Griffith Jones offeiriad Cymraeg a weithiai i'r SPCK, yn siomedig wrth weld mai'r Saesneg yn unig a ddefnyddiwyd yn y gwaith hollbwysig o achub eneidiau'r Cymry, ac fe benderfynodd wneud rhywbeth i wella'r sefyllfa.

Gyda chymorth yr wraig elusengar o Sir Gaerfyrddin, Madam Bevan, dechreuodd ymweld ag ysgolion er mwyn dysgu sgiliau darllen ac ysgrifennu sylfaenol. Bu'r ysgolion yma yn llwyddiannus iawn, gan wneud nifer fawr o bobl Cymru yn llythrennog.

Credir i'r ysgolion, a sefydlwyd yn gynnar yn y 1730au, lwyddo i ddysgu sgiliau sylfaenol darllen ac ysgrifennu i oddeutu 200,000 o bobl, allan o boblogaeth o tua 450,000.

Yn dilyn marwolaeth Griffith Jones yn 1761 sicrhaodd Madam Bevan barhad yr ysgolion. Gwnaeth hanes yr ysgolion gymaint o argraff ar Ymerodres Rwsia, Catherine Fawr, fel iddi gomisiynu adroddiad arnynt yn 1764.

Bu'r cynnydd yma mewn llythrennedd yn ddiamau yn gymorth i baratoi'r ffordd ar gyfer digwyddiadau mawr rhan ola'r 18fed Ganrif, wrth i Gymru brofi'r Diwygiad Methodistaidd.

Cynt Nesaf
Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy