BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Abaty Tindyrn


Reformation & dissolution

Sefydlu llinach y Tuduriaid. O dan Harri'r Wythfed gadawodd Cymru a Lloegr yr Eglwys Rufeinig Gatholig. Un canlyniad oedd cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.

Daeth Rhyfel y Rhosod i ben gyda brwydr Bosworth yn 1485 a buddugoliaeth y dyn a aned ym Mhenfro, Harri Tudur. Ef a gafodd ei goroni, maes o law, fel y Brenin Harri'r Seithfed

Fe elwodd rhai Cymry yn sylweddol o'r newid hwn, a chafodd clerigwyr Cymreig eu dyrchafu i safleoedd oedd ar gau iddynt cyn hynny.

Dilynwyd Harri'r Seithfed gan Harri'r Wythfed, brenin a gwerylodd gyda Pâb gan ei fod yn dymuno ysgaru - yn groes i reolau'r eglwys - er mwyn priodi Anne Boleyn. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at Gymru a Lloegr yn gadael yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

Digwyddodd hyn fel yr oedd y Diwygiad Protestannaidd ar gerdded yn Ewrop. Er na ddaeth Harri yn Brotestant, roedd dylanwad rhai o'r syniadau newydd ar ei bolisi o bwysleisio ei awdurdod ef dros awdurdod y Pâb yn ei deyrnas ei hun.

Y llefydd cyntaf i deimlo'r newidiadau oedd y mynachlogydd, a gafodd eu diddymu mewn un strôc. Buont ar drai ers blynyddoedd, a phan gawsant eu cau gan y llywodraeth, ni fu fawr o brotest. Cafodd eu tir a'u cynnwys eu gwerthu, ac fe aeth yr elw at y brenin. Gadawyd yr adeiladau yn brae i'r elfennau.

Roedd y weithred hon o rhyddhau tir a fu tan hynny ym meddiant y mynachlogydd yn gyfle i uchelwyr Cymreig uchelgeisiol gynyddu eu hystadau. Tan hynny, roedd cynyddu maint ystad yn broses hir a llafurus gan fod deddfau hynafol Hywel Dda o'r ddegfed ganrif yn dal mewn grym yng Nghymru, a thuedd y deddfau yma oedd i eiddo gael ei rannu yn unedau bychain yn lle ystadau mawrion.

O'r herwydd, awydd nifer o uchelwyr Cymru oedd cael eu hystyried yn 'Seisnig' er mwyn cael eu rheoli gan ddeddfu Lloegr oedd yn ffafrio crynhoi eiddo yn ystadau mawrion. Roedd awydd o'r fath yn gweddu gydag amcanion polisi ehangach y Tuduriaid, oedd yn dymuno sefydlu unffurfiaeth weinyddol er mwyn gwrthsefyll bygythiadau posib gan fyddinoedd gwledydd cyfandirol oedd yn gwrthwynebu'r Diwygiad.

Dyna'r is-themâu a arweiniodd at Ddeddfau Uno 1536 a 1542, a ddiddymuodd Arglwyddi'r Mers gan ymgorffori Cymru yn rhan o Loegr. Cafwyd cynrychiolaeth i Gymru yn y Senedd, gyda Chymry a Saeson yn cael eu trin yn gyfartal. Cafodd yr hyn oedd yn weddill o ddeddfau brodorol Cymru eu diddymu. Un o effeithiau'r broses hon oedd sefydlu'r Saesneg fel unig iaith 'swyddogol' Cymru, er na roddwyd llawer o sylw i hyn ar y pryd.

Bu i nifer o'r uchelwyr oedd ar eu hennill drwy ddiddymu'r mynachlogydd barhau yn Gatholigion. Ond fel yr aeth y Diwygiad Protestannaidd yn ei flaen yng Nghymru a Lloegr o dan deyrnasiad y Tuduriaid - heblaw am gyfnod byr teyrnasiad Mari - fe ddechreuodd y Catholigion deimlo erledigaeth.

Yng Nghymru, ymateb un bardd oedd rhoi'r enw 'ffydd Saeson' ar y grefydd newydd, ac roedd teimlad cryf bod y Cymry cael eu gorfodi i roi'r gorau i'w hen grefydd oherwydd gofynion y Saeson. Cafodd nifer o Gatholigion Cymreig eu merthyru, gyda llawer yn derbyn eu tynged yn llawen. Er enghrafft, cafodd yr offeiriad Cymreig Edward Morgan ei geryddu gan weinidog ar y sgaffald am fod yn rhy llawen wrth feddwl am gael mynd i'r nefoedd.

Gwrthwynebodd Catholigion eraill y newidiadau mewn ffordd llai amlwg, drwy gadw draw o'r gwasanaethau eglwysig newydd. Felly fe basiwyd deddfwriaeth i gosbi'r rhain hefyd - roeddent yn wynebu dirwyon trwm ac yn cael eu hystyried yn ddrwgdybus iawn gan yr awdurdodau.

Mae'n debyg i fwyafrif y Cymry dderbyn y newidiadau hyn, er iddynt, mae'n siŵr, alaru dros golli digwyddiadau lliwgar crefyddol yr hen drefn, megis pererindodau. Ond cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn ystod ternasiad merch Harri'r Wythfed, Elisabeth, a wnaeth eu troi nhw yn y pen draw yn bobl Brotestannaidd.

Roedd gwneud Gair Duw yn ddealladwy i'r bobl yn rhan bwysig o egwyddorion y Diwygiad Protestannaidd. Canlyniad hyn oedd hyrwyddo syniadau newydd am safle'r brenin mewn cymdeithas Gristnogol. Fel y canfyddodd Siarl y Cyntaf, roedd canlyniadau hyn yn gallu bod yn farwol - yn llythrennol felly.


Cynt Nesaf
Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy